Showing 15043 results

Archival description
Only top-level descriptions
Print preview View:

212 results with digital objects Show results with digital objects

Papurau yn ymwneud â Richard Bennett.

  • NLW ex 2157
  • File
  • 1911-1969

Deunydd perthynol i Richard Bennett, Cwm Pennant, Llanbryn-mair, yn cynnwys gwaith prydyddol, gohebiaeth, anerchiadau, llyfr nodiadau, a thorion o'r wasg, 1911-1969.

Bennett, Richard, 1860-1937

Papurau yn ymwneud â chanmlwyddiant y Wladfa

  • NLW ex 2331
  • file
  • 1965

Papurau a gasglwyd ynghyd gan y diweddar Miss Catherine (Katie) Richards ar ôl ymweliad â'r Ariannin i ddathlu canmlwyddiant y Wladfa ym 1965. Mae'r papurau yn cynnwys rhaglenni gweithgareddau dathlu, torion o'r wasg, rhestr o aelodau Undeb Cymry Ariannin, yn ogystal â rhai cardiau post a ffotograffau yn ymwneud â'r achlysur.

Papurau ychwanegol Mudiad Ysgolion Meithrin

  • Papurau Mudiad Ysgolion Meithrin
  • Sub-fonds

Additional papers, 1971-96, of Mudiad Ysgolion Meithrin (the National Association of Welsh Medium Nursery Schools and Play-groups) (see Annual Report 1989-90, p 61)

Papurau ychwanegol Mudiad Ysgolion Meithrin o'r cyfnod 1971-96(gweler Adroddiad Blynyddol 1989-90, t 61). Ar wahân i'r deunyddiau printiedig a theipiedig trosglwyddwyd hefyd gasetiau, disgiau sain, a thapiau fideo i'r Casgliad Sain a Delweddau Symudol (cyfeirnodau casetiau CM 8145-7, 8150-60, tâp DAT: DT/93; disgiau sain, 45/1123-5, tapiau fideo VM 5649-50), a rhai ffotograffau i'r Adran Darluniau a Mapiau (rhifau derbyn: 199800115-17)

Papurau ychwanegol Huw Llewelyn Williams

  • GB 0210 HUWLLEWWILL1999
  • Fonds

Papurau ychwanegol yn ymwneud â'r Parchedig Huw Llewelyn Williams (1904-79), brawd y rhoddwraig, gan gynnwys llyfr lloffion, 1947-64 a heb ddyddiad, yn ymwneud yn bennaf ag ardal Blaenau Ffestiniog, ei rieni, a Chapel Maenofferen; torion o'r wasg, 1952-94, gydag adolygiadau o'i gyhoeddiadau a'r cofiant Gwas yr Achos Mawr (Dinbych, 1992) a luniwyd iddo gan ei fab Meirion Llewelyn Williams; taflen ei gyfarfod sefydlu yn Eglwysi y Fali a Rhoscolyn, 1952; cyfrol yn cynnwys taflenni angladd ei wraig Gaynor Williams ac yntau, 1979; torion o'r wasg o deyrngedau ac ysgrifau coffa iddynt, a ffotograffau teuluol; ynhgyd â Medal Gee a gyflwynwyd i'w mam Margaret Williams yng nghapel Maengwyn, Machynlleth, 1964

Williams, Huw Llewelyn, 1904-1979

Papurau W. Llewelyn Edwards,

  • NLW ex 2928
  • Ffeil = File
  • [1915]-[1993]

Papurau ychwanegol, [1915]-[1993], y cerddor William Llewelyn Edwards, yn cynnwys drafft o’i gyfrol gyntaf o emyn-donau Clychau’r maes (Llandysul, 1976) gyda’r hen nodiant yn ei law; llyfrau lloffion yn cofnodi ei lwyddiannau cerddorol a darlledu eu emyn-donau ar ‘Caniadaeth y Cysegr’; llythyrau yn ei longyfarch ar ennill y wobr gyntaf am gyfansoddi emyn-dôn yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1982; a nodiadau cefndirol ar ei emyn-donau. Ceir traethawd ‘Golwg ar fywyd a gwaith William Llewelyn Edwards, Bron Rhiwel, Llandre, Bow Street, cyfansoddwr emyn donau’ gan Anwen Ebenezer, a chyfrol ’Iesu bia’r gân’ yn cynnwys emyn-donau J. T. Rees a fu’n dysgu cerddoriaeth i William Llewelyn Edwards.

Edwards, W. Llewelyn (William Llewelyn), 1908-2000

Papurau W. J. Gruffydd,

  • NLW MS 17305D.
  • file
  • 1899, 1901 /

Papurau gan ac yn llaw W. J. Gruffydd sy'n cynnwys llythyr dyddiedig 12 Medi 1899 oddi wrth W. J. Gruffydd at Thomas Owen Jones, Coventry (rhoddwr y llawysgrifau) sy'n amgau cywydd wedi'i chyfeirio at T. O. Jones ac sy'n dwyn yr un dyddiad â'r llythyr; a cherddi yn dwyn y teitlau 'Baled Bywyd' a 'L'Envoi'. Dynodir fod y ddwy gerdd olaf, yn ôl pob tebyg, wedi'u cyfansoddi yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen a dyddir hwynt 4 Ionawr 1901 = Holograph manuscripts of W. J. Gruffydd comprising a letter dated 12 September 1899 from W. J. Gruffydd to Thomas Owen Jones, Coventry (donor of the papers) enclosing a cywydd addressed to T. O. Jones which bears the same date as the letter; and poems entitled 'Baled Bywyd' and 'L'Envoi', both apparently written at Jesus College, Oxford and dated 4 January 1901.

Gruffydd, W. J. (William John), 1881-1954

Papurau Trefor Williams, Porthmadog

  • NLW ex 3124
  • File
  • 1958-1988

Cyfieithiadau i’r Gymraeg, 1958-1988, gan Trefor Williams (bu f. 1988), ysgolfeistr ym Mhorthmadog a Llandudno, o nifer o ddramâu Saesneg. Fe’i cyflwynwyd tros nifer o flynyddoedd mewn cystadlaethau cyfieithu yn yr Eisteddfod Genedlaethol o dan amrywiaeth o ffugenwau megis 'Tudur', 'Madog', a mwy. Ymhlith y casgliad mae copïau Saesneg o ddramâu ochr yn ochr â’u cyfieithiadau Cymraeg, e.e. 'Educating Rita' (Willy Russell 1947-) a 'Death of a Salesman' (Arthur Miller 1915-2005).
Yn wreiddiol o Drefor, sir Gaernarfon, bu Trefor Williams, ynghyd â J.T. Jones, yn gyfrifol am sefydlu Clwb y Garreg Wen, Porthmadog.

Cyfres o lythyrau a chardiau cyfarch oddi wrth J. T. Jones, wedi eu cyfeirio at Trefor Williams a’i deulu, ac at Owen Parry, ynghyd â deunydd coffadwriaethol am J. T. Jones a gasglwyd gan deulu’r rhoddwr; Chwefror 2025.

Williams, Trefor

Papurau teuluol Delwyn Tibbott,

  • NLW ex 2831.
  • file
  • 1889-1942, 1977.

Eitemau amrywiol yn ymwneud â theulu'r rhoddwr, gan gynnwys llyfr ymwelwyr Eleazar Tibbott, brawd ei daid, 1910, yn ystod cyfnod ei waeledd, a phregethau ganddo; dyddiadur gwaith, 1912-1913, ei dad-cu fel Arolygwr dan Ddeddf Insiwriant Lloyd George 1911; cyfrol a gyflwynwyd i'w daid yn 1942 ar achlysur ei ymddeoliad o'i swydd fel ysgrifennydd Eglwys y Tabernacl, Aberystwyth; a nodiadau esboniadol i gyd-fynd â hwy.

Papurau T. Rowland Hughes

  • NLW ex 2108
  • File
  • [1923-1949]

Papurau T. Rowland Hughes (1903-1949), gan gynnwys copi o'i draethawd MA 'The element of melancholy in English poetry from Widsith to Chaucer' (Prifysgol Bangor, 1928); tystysgrifau BA, 1925, cymhwyster athro, 1926, MA, 1928, a BLitt, 1931; geirda, 1932 a 1939, oddi wrth Ben Bowen Thomas, Coleg Harlech; llythyr, 1935, oddi wrth y BBC, yn cynnig swydd iddo fel cynorthwy-ydd rhaglenni nodwedd yng Nghaerdydd; sgriptiau radio 'Home fires burning', 1940, gyda Jack Jones, a'i nofel 'O law i law', 1945; cytundebau cyhoeddi, 1944-1949, a hawlfraint, 1941 a 1949; nofel mewn teipysgrif 'Good inheritance. A novel of North Wales', [1923-1949]; a chasgliad o'i gerddi mewn teipysgrif gyda chywiriadau - cyhoeddwyd y mwyafrif ohonynt yn Cân neu ddwy (Dinbych, 1948).

Hughes, Thomas Rowland

Papurau Robin Huw Bowen Papers,

  • GB 0210 RHBOWEN
  • Fonds
  • 1989-1997 /

Papers of Robin Huw Bowen, 1989-1997, including press cuttings of reviews of his performances and publications, 1989-1997; papers relating to visits to America, Australia, Brittany and Thailand, 1995; and papers relating to the Sixth World Harp Congress, Seattle, USA, 1996. = Papurau Robin Huw Bowen, 1989-1997, yn cynnwys torion o'r wasg o adolygiadau o'i berfformiadau a'i gyhoeddiadau, 1989-1997; papurau yn ymwneud â'i ymweliadau â'r Amerig, Awstralia, Gwlad y Thai a Llydaw yn 1995; a phapurau'n gysylltiedig â Chweched Gyngres Telynau'r Byd yn Seattle, 1996.

Bowen, Robin Huw.

Papurau Rhiannon Francis Roberts

  • Ychwanegwyd at Papurau Rhiannon Francis Roberts
  • file
  • 1944-1988

Papurau ychwanegol Rhiannon Francis Roberts (1923-1989) yn cynnwys llythyrau, 1944-1988, oddi wrth R. T. Jenkins, Thomas Parry, Griffith John Williams, Ifor Williams ac eraill.

Additional papers of Rhiannon Francis Roberts (1923-1989) including letters, 1944-1988, from R. T. Jenkins, Thomas Parry, Griffith John Williams, Ifor Williams and others.

Roberts, Rhiannon Francis, 1923-1989

Papurau R. E. Griffith

  • NLW ex 1790
  • File
  • 1924-1971

Papurau ychwanegol R. E. Griffith (1911-1975) yn cynnwys cyfrol, 1924-1927, yn ymwneud ag Adran Abercynon o Urdd Gobaith Cymru Fach; cyfrol deipysgrif, 1940-1941, yn cynnwys misolyn yr Urdd Yr Aelwyd, a olygwyd ganddo; 'Y Llwybrau Gynt', Chwefror 1971, ei 'hunangofiant radio' a ddarlledwyd gan y BBC; a llyfr, heb ddyddiad, yn ei law yn adrodd hanes sefydlu'r Urdd. / Further papers of R. E. Griffith (1911-1975) comprising a volume relating to the 'Urdd Gobaith Cymru Fach' branch at Abercynon, 1924-1927; a typescript volume containing Yr Aelwyd, 1940-1941, a periodical produced by the Urdd and edited by him; 'Y Llwybrau Gynt', his autobiography broadcast on the radio, February 1971; and an undated volume in his hand giving an account of the establishment of the Urdd movement.

Griffith, R. E. (Robert Emrys), 1911-1975

Papurau R. E. Griffith

  • NLW ex 1790.
  • File
  • 1970-1971 and undated

Papurau, 1970-1971 a heb ddyddiad, R. E. Griffith (1911-1975), gan gynnwys teyrngedau i Syr Ifan ab Owen Edwards (1895-1970), Thomas Iorwerth Ellis (1899-1970) a Dr Gwenan Jones (1889-1971) / Papers, 1970-1971 and undated, of R. E. Griffith (1911-1975), including tributes to Sir Ifan ab Owen Edwards (1895-1970), Thomas Iorwerth Ellis (1899-1970) and Dr Gwenan Jones (1889-1971).

Griffith, R. E. (Robert Emrys), 1911-1975

Papurau Pwyllgor Apêl Aberystwyth o Gronfa'r Mil o Filoedd Eisteddfod Genedlaethol Cymru

  • NLW ex 1793
  • File
  • 1974-1975

Papurau, 1974-1975, yn ymwneud â gwaith Brynmor Jones tra'n ysgrifennydd Pwyllgor Apêl Aberystwyth o Gronfa'r Mil o Filoedd Eisteddfod Genedlaethol Cymru, gan gynnwys cofnodion, llythyrau oddi wrth Dr John Davies, y Parch E. Gwyndaf Evans, Jac L. Williams a T. H. Parry-Williams, a rhestr o'r cyfraniadau; ynghyd â thorion o'r wasg / Papers, 1974-1975, relating to Brynmor Jones's work as secretary of the Aberystwyth Appeal Committee for the National Eisteddfod's One Million Pounds Fund, including minutes and letters from Dr John Davies, the Rev E. Gwyndaf Evans, Jac L. Williams and T. H. Parry-Williams, and a list of contributions; together with newspaper cuttings

Papurau Prys Morgan,

  • GB 0210 PRYSGAN
  • Fonds
  • 1961-1988

Papers of Prys Morgan, 1961-1988, including papers relating to Barn, 1966-1973, papers relating to the Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1973-1988; pamphlets of Methodist interest, 1779-1865; and letters sent by Rhodri Morgan to his family while he was a student at Harvard university in the USA.

Morgan, Prys

Results 4281 to 4300 of 15043