Showing 9 results

Archival description
Parry, Thomas, 1904-1985
Print preview View:

Llythyr oddi wrth Syr Thomas Parry at Gwladys Llewellyn

Llungopi o lythyr, 2 Mehefin 1943, oddi wrth yr ysgolhaig Cymreig Syr Thomas Parry at Gwladys Llewellyn, Rhosaeron, Clunderwen yn holi ar ran ei frawd, Gruffudd Parry, ynglŷn â phrynu torch ar gyfer angladd Linda Williams (née Llewellyn), gwraig Waldo Williams. 'Roedd Gruffudd Parry a Waldo yn gyd-athrawon yn Ysgol Ramadeg Botwnnog pan fu farw Linda o'r ddarfodedigaeth ar y cyntaf o Fehefin 1943.

Rhoddion

Gohebiaeth a phapurau, 1976-1978, y rhan fwyaf gohebiaeth yn ymwneud â rhoddion i'r Apêl Syr Thomas Parry Williams, yn cynnwys llythyrau oddi wrth J. Haulfryn Williams; J. E. Caerwyn Williams; Jack Evans; Roy Stephens; R. Geraint Gruffydd; G. D. Jones; John Rhys; Brian Ó Cuív; J. A. Edwards; Trevor Morgan; Emrys Wyn Jones; Cyril Moseley; T.A. Owen; Heidemarie Poschbeck; Bobi Jones; Elan Closs Stephens; Ioan Bowen Rees; Douglas Bassett; David Jenkins; Pat Williams; R. Geraint Gruffydd, Ieuan Gwynedd Jones, a J. E. Caerwyn Williams; a Thomas Parry. Yn ogystal, ceir copi o'r cylchgrawn ‘Ninnau’ (1978).

Datblygiad yr Ysgol Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd

Gohebiaeth a phapurau, 1971, 1973-1974, a 1976; yn ymwneud â datblygiad arfaethedig yr Ysgol Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd, Coleg Prifysgol Cymru, y rhan fwyaf yn trafod yn bennaf sefydlu ysgoloriaethau ar gyfer Astudiaethau Celtaidd, manylion yr Ysgol Astudiaethau Celtaidd arfaethedig, a’r ceisiadau i gael adeilad swyddogol yn y Brifysgol; ac yn cynnwys llythyrau oddi wrth R. Geraint Gruffydd; J. Gareth Thomas; Thomas Parry; Goronwy Daniel; T. A. Owen; David Jenkins; J. E. Caerwyn Williams; Ieuan Gwynedd Jones; ac Emrys Wynn Jones.

Casgliad Iola Parry (R. Williams Parry)

  • NLW ex 3141 i-iii
  • File
  • 1952-2000

Casgliad o bapurau Mrs Iola Parry (née Dodd), Rhosllannerchrugog, nith Myfanwy Williams Parry, gweddw'r bardd R. Williams Parry (1884-1956). Mae'r casgliad yn cynnwys y ffeiliau a ganlyn: albwm o ffotograffau teuluol fu'n eiddo i Myfanwy Williams Parry (i); ynghyd â ffotograffau rhyddion yn ymwneud â'i gŵr (ii/1); llythyrau, 1958-1978, at J. Maldwyn Davies, brawd Myfanwy Williams Parry, amryw'n ymwneud â bedd y bardd ym mynwent Coetmor, Bethesda, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Thomas Parry, Saunders Lewis a Jonah Jones (ii/2); llythyrau, 1952-1971, at Myfanwy Williams Parry, oddi wrth ohebwyr megis Kate Roberts, Thomas Parry, Gwilym R. Jones a Charles Charman (ii/3); casgliad, [1950au-1980au] o dorion o bapurau newydd, taflenni a deunydd a gasglwyd gan aelodau'r teulu yn ymwneud ag R. Williams Parry (ii/4); nodiadau yn llaw Iola Parry, [1990au] ar sail atgofion o'i hen fodryb ac o gysylltiadau teuluol (ii/5); llythyrau a phapurau, 1994-2000, yn ymwneud â chyfraniad Iola Parry i'r gyfrol Bro a Bywyd R. Williams Parry, gol. T. Emyr Pritchard (Cyhoeddiadau Barddas, 1998) (ii/6). Daeth y papurau i'r Llyfrgell yn y câs lledr (iii) a ddefnyddiai R. Williams Parry pan âi i ddarlithio i'r Coleg a'i ddosbarthiadau nos' (gweler Bro a Bywyd R. Williams Parry, tt. 102-104) (ii). Atgynhyrchwyd nifer o eitemau o'r casgliad hwn yn Bro a Bywyd R. Williams Parry (1998) (gweler y gydnabyddiaeth ar d. 124 o'r gwaith hwnnw).

Mrs Iola Parry

Llythyrau at Owain Llewelyn Owain

Fifty letters and cards, 1924-1955, to Owain Llewelyn Owain from various correspondents, including Frances Lloyd George (2) 1945, Mathonwy Hughes (1) 1945, R. W. Jones (Erfyl Fychan) (2) 1927-1932, T. Gwynn Jones (1) 1942, T. Llechid Jones (1) 1929, William Owen Jones (Eos y Gogledd) (1) 1927, Bob Owen, Croesor (1) 1930, Thomas Parry (1) 1942, and Daniel Protheroe (6) 1927-1933, the latter including autograph music.

Deiseb yr Adran Astudiaethau Celtiadd, Prifysgol Lerpwl

Copi o ddeiseb, 1977, wedi llofnodi gan aelodau'r Ysgol Astudiaethau Celtiadd, Aberystwyth; a gohebiaeth cysylltiedig, 1974-1977, yn trafod gwrthwynebu cau’r Adran Astudiaethau Celtaidd yn Prifysgol Lerpwl, yn cynnwys llythyrau oddi wrth R. Geraint Gruffydd; Pat Williams; N. J. A. Williams; J. E. Caerwyn Williams & R. Geraint Gruffydd; Roger Wright; Glanville Price; F. W. Walbank; Thomas Parry; Thomas Parry, T. J. Morgan, A. O. H. Jarman, J. E. Caerwyn Williams, ac R. Geraint Gruffydd; a James Cross.

Gruffydd, R. Geraint