- GB 0210 MATHES
- Fonds
- [?1847]-2019
Mae'r fonds yn cynnwys ei lawysgrifau llenyddol; gohebiaeth bersonol, [?1903]-1992; papurau'n ymwneud â'i deulu, yn enwedig ei ewythr R. Silyn Roberts, [?1847]-[?1986]; papurau'n gysylltiedig â'i waith fel golygydd cynorthwyol Y Faner, 1949-1992; ynghyd â nodiadau a darlithoedd a baratowyd ganddo ar gyfer dosbarthiadau Mudiad Addysg y Gweithwyr, [?1936]-1991.
Mae'r papurau ychwanegol (Rhodd Medi 2021), 1894-2019 (gyda bylchau), yn cynnwys gohebiaeth, barddoniaeth, ysgrifau, papurau'n ymwneud â'r Faner, ffotograffau a phapurau pobl eraill.
Rhodd Ionawr 2024: Papurau gan neu'n ymwneud â Mathonwy Hughes, sy'n cynnwys, ymysg eitemau eraill, llyfrau gwaith ysgol Mathonwy Hughes; traethawd gan Mathonwy Hughes ar Gymdeithas Addysg y Gweithwyr Dyffryn Nantlle; Adroddiadau Blynyddol Capel Methodistaidd Calfinaidd Tanrallt, Llanllyfni; deunydd yn ymwneud â chanmlwyddiant Ysgol Nebo; a deunydd gan neu'n ymwneud â'r bardd a'r golygydd Gwilym R. Jones.
Hughes, Mathonwy