Showing 2 results

Archival description
Dyddiaduron John Alaska Davies
Print preview View:

Dyddiaduron John Alaska Davies

  • [Dyddiaduron John Alaska Davies]
  • Fonds
  • 1914-1995

Cant tri deg a saith o ddyddiaduron, 1914-1995, John Alaska Davies (1902-1995), Gorrig, ger Llandysul; ynghyd â'i lyfrau nodiadau; dyddiadur, 1915, ei dad Thomas Davies (m. 1916); ei chwaer Rachel Ann Davies, 1915, gyda chyfraniadau helaeth gan John Alaska Davies; a'i fab Geraint, 1942, a gollodd ei fywyd mewn damwain awyren yn bedair ar bymtheg oed.

Davies, John Alaska, 1902-1995

Dyddiaduron,

Cant tri deg a saith o ddyddiaduron John Alaska Davies (yn fynych ceir mwy nag un dyddiadur ar gyfer un flwyddyn). Maent yn cynnwys cofnodion yn ymwneud â'i waith fel athro; pregethau a phregethwyr; gwasanaethau crefyddol Cymraeg ar y radio; sylwadau am y tywydd a thymheredd (nodir y tymheredd uchaf a'r isaf yn gyson); natur; garddio; digwyddiadau lleol; carcharorion rhyfel o'r Eidal; dogni ar fwyd; chwaraeon; llyfrau darllen; a ffilmiau. Ceir hefyd ei lyfrau nodiadau; dyddiadur, 1915, ei dad Thomas Davies (m. 1916); ei chwaer Rachel Ann Davies, 1915, gyda chyfraniadau helaeth gan John Alaska Davies; a'i fab Geraint, 1942, a gollodd ei fywyd mewn damwain awyren yn bedair ar bymtheg oed.