Identity area
Type of entity
Person
Authorized form of name
Williams, R. Dewi (Robert Dewi), 1870-1955
Parallel form(s) of name
Standardized form(s) of name according to other rules
Other form(s) of name
Identifiers for corporate bodies
Description area
Dates of existence
History
Yr oedd y Parch. Robert Dewi Williams (1870-1955), Rhuddlan, sir y Fflint, yn weinidog gyda'r Presbyteriaid, yn brifathro a llenor. Cafodd ei eni ym Mhandytudur, sir Ddinbych, a mynychodd Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, a Choleg Iesu, Rhydychen. Bu'n weinidog Cesarea, Llandwrog, a Jerusalem, Penmaen-mawr, y ddau yn sir Caernarfon, 1898-1917. Aeth wedyn yn brifathro Ysgol Clynnog, 1917-1929, a Choleg Clwyd, Y Rhyl,1929-1939. Aeth i Ruddlan, sir y Fflint i ymddeol yn 1939. Yr oedd yn awdur storĂ¯au byrion, a gynhwyswyd yn y gyfrol Clawdd Terfyn, straeon a darluniadau (Conwy,1912) a Dyddiau Mawr Mebyd (LLundain,1973, casgliad o erthyglau a luniwyd ar gyfer Y Drysorfa. Priododd Helena Jones Davies yn 1908, a bu farw 25 Ionawr 1955.