CMA: Cofysgrifau Capel Dinam, Nant-y-moel
- GB 0210 DINAMOEL
- Fonds
- 1914-1989
Cofysgrifau Capel Dinam, Nant-y-moel, 1914-89, yn cynnwys cofrestr bedyddiadau, 1919-88, a llyfr cyfraniadau tuag at y Weinidogaeth, 1960-89.
Capel Dinam, Nant-y-moel
CMA: Cofysgrifau Capel Dinam, Nant-y-moel
Cofysgrifau Capel Dinam, Nant-y-moel, 1914-89, yn cynnwys cofrestr bedyddiadau, 1919-88, a llyfr cyfraniadau tuag at y Weinidogaeth, 1960-89.
Capel Dinam, Nant-y-moel
CMA: Cofysgrifau Capel Gosen, Rhydyfelin
Cofysgrifau Capel Gosen, Rhydyfelin, ger Aberystwyth, 1933-2023, yn cynnwys cofrestr genedigaethau a bedyddiadau, 1934-2015, marwolaethau a chladdedigaethau, 1933-2020, a rhestr priodasau, 1988-97; cofnodion ariannol, 1985-2023; llyfr cofnodion pwyllgorau, 1956-2022; adroddiadau blynyddol, 1993-2019 (gyda bylchau); rhestr aelodau a chyfrifon Cymdeithas Lenyddol Gosen (Cymdeithas Ddiwylliadol Gosen a Horeb, New Cross, yn ddiweddarach), 1947-99; a threfn y gwasanaeth datgorffori ar 26 Mawrth 2022, ynghyd ag anerchiad yr Ysgrifennydd, Nesta Parry Edwards, ar ‘Hanes Capel Gosen’. Ceir hefyd lyfr Trysorydd Ysgol Sul y Bont, Llanfarian, 1997-2017, a chopi o’r llyfryn Drws agored: Ysgoldy Pentre’r Bont, Llanfarian 1879-1979 gan Evan Jones.
Capel Gosen, Rhydyfelin, ger Aberystwyth
CMA: Cofysgrifau Capel Moria, Trefenter
Cofysgrifau Capel Moria, Trefenter, yn cynnwys cofnodion ariannol, 1913-2007; adroddiadau blynyddol, 1996-2007; ystadegau, 1969-1980; a phapurau yn ymwneud â chanmlwyddiant y capel, 2007.
Capel Moria, Trefenter
CMA: Cofysgrifau Capel Salem, Cyffylliog
Cofysgrifau Capel Salem, Cyffylliog neu Gyffylliog, sir Ddinbych, yn cynnwys cofnodion ariannol, 1884-2011 (yn eu plith Llyfr Casgliad y Weinidogaeth, Bethania, 1899-1910); Llyfr Aelodaeth y Merched, 1889-98; llyfrau cofnodion, 1931-84 (gyda bylchau); llyfrau tocyn aelodaeth, 1930-57; adroddiadau blynyddol, 1956-64 (gyda bylchau); cofnodion yr Ysgol Sul, 1923-2011; ac archwiliad o’r adeiladau, 1989.
Capel Salem, Cyffylliog
CMA: Cofysgrifau Capel Salem, Llandeilo
Cofnodion Capel Salem, Llandeilo.
Capel Salem, Llandeilo
CMA: Cofysgrifau Capel Salem, Pantgwyn
Llyfr bedyddiadau a chladdedigaethau ynghyd â llun.
Capel Salem, Pantgwyn
CMA: Cofysgrifau Capel Saron, Wolverhampton
Cofysgrifau Capel Saron, St Mark’s Road, Wolverhampton (gynt Bath Road a St George’s Parade), yn cynnwys cofnodion ariannol, 1867-2022; cofnodion yr Ysgol Sul, 1879-1931; cofrestr eglwysig, 1902-86; llyfr cofnodion cyfarfodydd swyddogion yr eglwys, 1922-24; ystadegau’r eglwys, 1912-34; adroddiadau blynyddol, 1941-2021 (adroddiadau 1941-83 oddi mewn i lyfrau cyfrifon); copi o’r llyfryn, Achos y Methodistiaid Calfinaidd yn Wolverhampton. Canmlwyddiant 1854-1954 (Medi 1954); a ffotograff o’r gynulleidfa a’r pregethwr yng nghapel Bath Road, [1925-1927].
Capel Saron, Wolverhampton
CMA: Cofysgrifau Capel Trinity, San Clêr
Cofysgrifau Capel Trinity, San Clêr, yn cynnwys cofnodion ariannol, llyfrau tocynnau aelodaeth, a phapurau yn ymwneud â'r adeilad.
Capel Trinity, San Clêr
CMA: Cofysgrifau Capel Willow Tree Road, Altrincham
Cofysgrifau capel Cymraeg Willow Tree Road, Altrincham, yn cynnwys cofnodion ariannol; llyfrau cofnodion cyfarfodydd Swyddogion y capel, y Chwiroydd a'r Pwyllgor Adeiladau; cofnodion yr Ysgol Sul; adroddiadau blynyddol; tocynnau aelodaeth; a hanes yr achos.
Capel Willow Tree Road, Altrincham
CMA: Cofysgrifau Capel Ysgwyddgwyn
Llyfr cyfrifon Eglwys Ysgwyddgwyn, Deri, Sir Forgannwg, 1862-1937.
Ysgwyddgwyn, Deri (Capel)
CMA: Cofysgrifau Dosbarth Gogledd Ceredigion
Cofnodion Pwyllgor Cenhadol Chwiorydd Dosbarth Gogledd Ceredigion. Diddymwyd y Pwyllgor 25 Tachwedd 2024 pan unwyd â'r Dosbarthiadau eraill o dan Bwyllgor Cenhadol yr Henaduriaeth.
Dosbarth Gogledd Ceredigion
CMA: Cofysgrifau Eglwys Bethel, Penrhewl, Mostyn
Cofysgrifau Eglwys Bethel, Penrhewl, Mostyn, 1896-1985, yn cynnwys cofrestr bedyddiadau, 1896-1977; adroddiadau blynyddol, 1944-46, 1952, 1964-67, 1973-76 a 1978-1985; papurau’r Ysgrifennydd, 1967-1985; a llyfrau Trysorydd y Chwiorydd, 1966-1985.
Eglwys Bethel, Penrhewl, Mostyn
CMA: Cofysgrifau Eglwys Ebeneser, Penparcau
Cofnodion Ysgol Sul Capel Ebeneser, Penparcau, [1942]-[2007], yn cynnwys llyfr cyfrifon, 1958-1971, ynghyd â naw cyfrol [llyfrau’r ysgrifennydd] yn nodi enwau’r athrawon, y nifer a oedd yn bresennol, a’r casgliadau, [1942]-[2007]; Hydref 2016.
Llyfrau cyfrifon, 1981-2012; Mehefin 2024.
Eglwys Ebeneser, Penparcau
CMA: Cofysgrifau Eglwys Engedi, Caernarfon
Cofysgrifau Eglwys Engedi, Caernarfon, 1842-1999, gan gynnwys cofrestri, llyfrau casgliadau, llyfrau'r eisteddleoedd, llyfrau'r weinidogaeth, cofrestri anghydffurfiol ac Eglwysig, llyfrau cofnodion pwyllgorau, llyfrau cofnodion, gohebiaeth, a phapurau yn ymwneud â chymdeithasau'r Eglwys a chofnodion yr Ysgol Sul.
Eglwys Engedi (Caernarfon, Wales)
CMA: Cofysgrifau Eglwys Maesyffynnon, Llangybi
Adroddiadau blynyddol 1999, 2007-2010 a 2012-2015; Taflen Gwasanaeth Datgorffori Maesyffynnon, dydd Sul, 1 Awst 2021; Awst 2021. Llyfr cofnodion y blaenoriaid, 1986-2020; Hydref 2024.
Eglwys Maesyffynnon, Llangybi
Papurau ymchwil Meurig Owen ar hanes capeli Presbyteraidd (Cymraeg) Llundain, gan gynnwys deunyddiau yn ymwneud â chapeli unigol a'r Henaduriaeth.
Meurig Owen
Cofnodion Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Gohebiaeth a phapurau, [1921x1930]; 1970-2017, yn ymwneud â sefydlu Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a gweithgareddau'r Ganolfan, ac adran cyntaf Ysgol Astudiaethau Celtaidd Coleg Prifysgol Cymru, y rhan fwyaf yn cynnwys papurau gweinyddol a gohebiaeth gysylltiedig; yn cynnwys llythyrau oddi wrth staff a myfyrwyr y Ganolfan a phrifysgolion a sefydliadau academaidd eraill. Mae’r cofnodion yn cynnwys cofnodion pwyllgorau a chyrff gweinyddol y Ganolfan, a phapurau cysylltiedig, 1977-2017; papurau yn ymwneud â gweithgareddau’r Ganolfan a’i staff, yn cynnwys digwyddiadau, 1974-1994, a gwaith ymchwil a pharatoi cyhoeddiadau, 1980-1993; papurau ariannol, 1972-1991, yn cynnwys papurau yn ymwneud â chodi arian ac Apêl Syr Thomas Parry-Williams, ysgoloriaethau, a cheisiadau am grantiau mewnol ac allanol; a chofnodion yn ymwneud â datblygiad sefydliadol y Ganolfan, [1921]-1993, yn cynnwys rhai cofnodion yr Adran Astudiaethau Celtaidd Coleg Prifysgol Cymru, agoriad swyddogol y Ganolfan, cartrefi’r Ganolfan, materion staffio, a datblygiad Llyfrgell y Ganolfan.
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Cofnodion Cwmni'r Llan a'r Wasg Eglwysig Gymreig Cyf.
Memorandwm ac Erthyglau'r Cwmni, 1923; cofnodion a phapurau gweinyddol eraill,1923-1960; papurau ariannol, 1946-1960; llyfrau llythyrau a gohebiaeth, 1945-1960; papurau personol a gohebiaeth T.I.Ellis,1944-1960; papurau personol J. Griffith Jones, Caernarfon, 1947-1953; a phapurau yn ymwneud â materion yr Eglwys yng Nghymru. = Memorandum and Articles of Association, 1923; minutes and other administrative papers, 1923-1960; financial papers, 1946-1960; letter books and correspondence, 1945-1960; personal papers and correspondence of T. I. Ellis, 1944-1960; personal papers of J. Griffith Jones, Caernarfon, 1947-1953; and papers relating to Church in Wales matters, 1944-1956.
Llan and Welsh Church Press Company.
Cofnodion Cymdeithas Edward Llwyd
Cofnodion Cymdeithas Edward Llwyd, yn cynnwys: cyfansoddiad y Gymdeithas; cofnodion cyfarfodydd blynyddol; cofnodion y Pwyllgor Gwaith, yr Is-bwyllgor Monograffig, yr Is-bwyllgor Marchnata, yr Is-bwyllgor Enwau a Thermau, ac Is-bwyllgor yr Amgylchedd; gohebiaeth; ceisiadau am grantiau; papurau ariannol; a phapurau aelodaeth. = Records of Cymdeithas Edward Llwyd (the Edward Llwyd Society), including: the Society's constitution; minutes of annual meetings; records of the Working Committee, the Monographic Sub-Committee, the Marketing Sub-Committee, the Names and Terms Sub-Committee, and the Environment Sub-Committee; correspondence; applications for grants; financial papers; and membership papers.
Cymdeithas Edward Llwyd
Cofnodion Eglwysi Yr Annibynwyr, Lerpwl
Cofysgrifau yn ymwneud â chapeli Annibynnol Lerpwl, yn cynnwys Tabernacl, Belmont Road, 1913-63; Salem, Brownlow Hill, 1841-67, ac yn ddiweddarach Grove Street, 1867-1954; Eglwys Woolton Road, 1947-2009; ac Eglwys Park Road, 1896-1963.
Amryw