Showing 12292 results

Archival description
Only top-level descriptions File
Print preview View:

208 results with digital objects Show results with digital objects

Papurau T. Rowland Hughes

  • NLW ex 2108
  • File
  • [1923-1949]

Papurau T. Rowland Hughes (1903-1949), gan gynnwys copi o'i draethawd MA 'The element of melancholy in English poetry from Widsith to Chaucer' (Prifysgol Bangor, 1928); tystysgrifau BA, 1925, cymhwyster athro, 1926, MA, 1928, a BLitt, 1931; geirda, 1932 a 1939, oddi wrth Ben Bowen Thomas, Coleg Harlech; llythyr, 1935, oddi wrth y BBC, yn cynnig swydd iddo fel cynorthwy-ydd rhaglenni nodwedd yng Nghaerdydd; sgriptiau radio 'Home fires burning', 1940, gyda Jack Jones, a'i nofel 'O law i law', 1945; cytundebau cyhoeddi, 1944-1949, a hawlfraint, 1941 a 1949; nofel mewn teipysgrif 'Good inheritance. A novel of North Wales', [1923-1949]; a chasgliad o'i gerddi mewn teipysgrif gyda chywiriadau - cyhoeddwyd y mwyafrif ohonynt yn Cân neu ddwy (Dinbych, 1948).

Hughes, Thomas Rowland

Papurau R. E. Griffith

  • NLW ex 1790
  • File
  • 1924-1971

Papurau ychwanegol R. E. Griffith (1911-1975) yn cynnwys cyfrol, 1924-1927, yn ymwneud ag Adran Abercynon o Urdd Gobaith Cymru Fach; cyfrol deipysgrif, 1940-1941, yn cynnwys misolyn yr Urdd Yr Aelwyd, a olygwyd ganddo; 'Y Llwybrau Gynt', Chwefror 1971, ei 'hunangofiant radio' a ddarlledwyd gan y BBC; a llyfr, heb ddyddiad, yn ei law yn adrodd hanes sefydlu'r Urdd. / Further papers of R. E. Griffith (1911-1975) comprising a volume relating to the 'Urdd Gobaith Cymru Fach' branch at Abercynon, 1924-1927; a typescript volume containing Yr Aelwyd, 1940-1941, a periodical produced by the Urdd and edited by him; 'Y Llwybrau Gynt', his autobiography broadcast on the radio, February 1971; and an undated volume in his hand giving an account of the establishment of the Urdd movement.

Griffith, R. E. (Robert Emrys), 1911-1975

Papurau R. E. Griffith

  • NLW ex 1790.
  • File
  • 1970-1971 and undated

Papurau, 1970-1971 a heb ddyddiad, R. E. Griffith (1911-1975), gan gynnwys teyrngedau i Syr Ifan ab Owen Edwards (1895-1970), Thomas Iorwerth Ellis (1899-1970) a Dr Gwenan Jones (1889-1971) / Papers, 1970-1971 and undated, of R. E. Griffith (1911-1975), including tributes to Sir Ifan ab Owen Edwards (1895-1970), Thomas Iorwerth Ellis (1899-1970) and Dr Gwenan Jones (1889-1971).

Griffith, R. E. (Robert Emrys), 1911-1975

Papurau Pwyllgor Apêl Aberystwyth o Gronfa'r Mil o Filoedd Eisteddfod Genedlaethol Cymru

  • NLW ex 1793
  • File
  • 1974-1975

Papurau, 1974-1975, yn ymwneud â gwaith Brynmor Jones tra'n ysgrifennydd Pwyllgor Apêl Aberystwyth o Gronfa'r Mil o Filoedd Eisteddfod Genedlaethol Cymru, gan gynnwys cofnodion, llythyrau oddi wrth Dr John Davies, y Parch E. Gwyndaf Evans, Jac L. Williams a T. H. Parry-Williams, a rhestr o'r cyfraniadau; ynghyd â thorion o'r wasg / Papers, 1974-1975, relating to Brynmor Jones's work as secretary of the Aberystwyth Appeal Committee for the National Eisteddfod's One Million Pounds Fund, including minutes and letters from Dr John Davies, the Rev E. Gwyndaf Evans, Jac L. Williams and T. H. Parry-Williams, and a list of contributions; together with newspaper cuttings

Papurau Mrs H Glynne (Winifred) Jones

  • WMA 2540-55
  • File

Papurau a gasglwyd ynghyd gan Mrs H. Glynne (Winifred) Jones gan gynnwys arwyddion aelodaeth a rennid yn chwarterol i aelodau o gapeli Wesleaidd, 1821, 1833, 1881, 1883-4, 1886-7, a 1901; nodiadau yn cynnwys hanes yr achos yn Seion, Llangollen; a llungopïau o erthyglau gan Joseph Davies, Wern Ddu, Gwyddelwern, a gyhoeddwyd yn Y Winllan, 1901 a 1916.

Papurau John Sam Efans Papers

  • NLW ex 1689
  • File

Papurau ychwanegol John Sam Efans yn cynnwys atgofion am ei brofiadau yn ystod yr Ail Ryfel Byd a'i gysylltiad â D. M. Motors, Llanrug, sir Gaernarfon / Additional papers of John Sam Efans including recollections of his experiences during the Second World War and his connection with D. M. Motors, Llanrug, co Caernarfon.

Efans, John Sam Caernarfon

Papurau John Sam Efans

  • NLW ex 1689
  • File

Papurau ychwanegol John Sam Efans yn cynnwys gohebiaeth, torion o'r wasg ac atgofion.

Efans, John Sam Caernarfon

Papurau J. R. Jones, Tal-y-bont.

  • NLW ex 3064
  • File
  • 1977-2003

Papurau'r adroddwr, beirniad ac arweinydd llwyfan cenedlaethol J. R. Jones, Tal-y-bont, Ceredigion, yn cynnwys nodiadau, torion, llythyrau, a ffotograffau ynglŷn â bywyd gwledig, cymeriadau dylanwadol a difyrrwch y byd eisteddfodol. Papurau ychwanegol, yn bennaf tystysgrifau, deunydd printiedig, a thapiau yn cynnwys cyfweliadau â J. R. Jones; Gorffennaf 2023.

Jones, J. R., 1923-2002

Papurau Hugh Rees, Llanymawddwy

  • NLW ex 2051
  • File
  • 1888-1983

Cyfrolau yn cynnwys carolau Nadolig yn bennaf a gasglwyd ac a gopïwyd, 1901-1936, gan Hugh Rees (1859-1946), Tanygraian, Llanymawddwy, sir Feirionnydd, hen daid Mrs Mary Williams, y rhoddwraig; nodir ei ffynonellau, cyhoeddiadau eglwysig gan mwyaf megis Y Llan a Y Cyfaill Eglwysig; a phenillion gan Nansi Richards, 'Telynores Maldwyn', a gyhoeddwyd yn nhudalen yr ifanc yn Yr Haul, Tachwedd a Rhagfyr 1936; ynghyd â'i gopi o Rhys Prichard, Canwyll y Cymru (Casnewydd, 1888), wedi'u dethol gan Thomas Levi a dderbyniodd yn rhodd yn 1900 a chyfrolau eraill printiedig; a ffotograff ohono, 1919, gyda dau arall ar ben Bwlch-y-groes, Llanymawddwy, a arferai groesi ar ei ffordd i weithio ar gronfa ddŵr Llanwddyn.

Rees, Hugh, 1859-1946

Papurau Gwilym R. Jones, Rhydaman

  • NLW ex 793.
  • File
  • 1942-1946

A small group of papers of Gwilym R. Jones, Ammanford, composer and choirmaster, comprising scripts of radio programmes in which he took part, 1942-1946, two printed hymn-tunes, and miscellaneous notes.

Jones, Gwilym R. (Gwilym Richard), 1874-1953

Papurau Eleazar Roberts,

  • NLW MS 12135B.
  • File
  • 1873-1910.

Papers from the library of Eleazar Roberts, musician, of Hoylake, including letters to him from John Curwen, (a glossary of technical musical words), D. Lloyd George (one signed by George Haw), 1901- 1909 (personal, opinion coming round 'our way', a recitation), Chas. Tudor Hughes, of Messrs, Hughes & Son, Wrexham, 1906 (the sales of the recipient's publications), [Professor Sir] Henry Jones, Bangor, 1891 (the recipient's note, the writer's 'new home', the recipient's Tonic Solfa work), R[ obert] H[ughes] Jones [author of Drwy gil y drws, etc.], Upper Brighton, [19]07 (observations on the recipient's reminiscences), R[ichard] Lloyd, Criccieth, 1900-1910 (thanks for a cutting, an extract from a letter from Ll[ oyd] G[eorge], the recipient's 85th birthday, a present for Megan Arfon Lloyd George, observations on the recipient's Owen Rees), and 'Diogenes', 'Y Twb, Holly Bank [Liverpool]', 1910 (observations on the recipient's 'Ysgrifau'); a memorandum, 1910, by Eleazar Roberts of the presentation by him to Megan Arfon Lloyd George of a copy of Hymnau a Thonau published in 1861; a Christmas card from D. Lloyd George, 1909, bearing the sender's portrait; etc.

Papurau Dr Mary Clement Papers

  • NLW ex 2032
  • File
  • 1939-1974

Papurau Dr Mary Clement (g. 1916), golygydd Correspondence and minutes of the SPCK relating to Wales, 1699-1740 (Caerdydd, 1952), gan gynnwys llythyr, 1948, oddi wrth y Gofrestrfa, Caerdydd, yn dyfarnu Cymrodoriaeth Prifysgol iddi am ddwy flynedd; llythyrau, 1939-50, ati hi a'i thad, oddi wrth George Henry Green, Athro yn Sefydliad Addysg yr Aifft, Alexandria; ac astudiaeth, heb ddyddiad, 'A Calendar of Welshmen and their activities overseas, recorded in the archives of the Society for the Propagation of the Gospel, 1701-1750'.

Clement, Mary, 1916-2003

Papurau David Williams (1856-81), Gwynfe

  • NLW ex 1773
  • File
  • 1880-1974

Papurau ymchwil, 1880-1974, a gasglwyd gan Urien Wiliam tra'n llunio'i nofel Tu hwnt i'r Mynydd Du (Abertawe, 1975) yn croniclo hanes y Parchedig David Williams (1856-81), Gwynfe, sir Gaerfyrddin, a aeth yn genhadwr i Affrica, gan gynnwys llungopæïau o'i lythyrau, 1880-1. -- Research papers, 1880-1974, accumulated by Urien Wiliam while preparing his work Tu hwnt i'r Mynydd Du (Swansea, 1975), relating to the Reverend David Williams (1856-81), Gwynfe, co Carmarthen, who went to Africa as a missionary, and including photocopies of his letters, 1880-1.

Papurau David Hughes, Llandudno, Papers,

  • NLW ex 2036.
  • File
  • 1919-1990s

Papurau a grynhowyd gan y llyfrwerthwr David Hughes, Llandudno (m. 1999), gŵr y rhoddwraig, yn cynnwys llythyrau oddi wrth Rachel Bromwich, 1983-4; Joseph Clancy, 1961; Aneirin [Talfan Davies], heb ddyddiad; Gareth Alban Davies, 1995; Dr Noëlle Davies, 1954 a 1959; T. I. Ellis, 1962; Meredydd Evans, 1980; Robert Evans ('Cybi'), heb ddyddiad; Richard Griffith ('Carneddog'), 1927; Dafydd Jenkins, 1997; Bedwyr Lewis Jones, heb ddyddiad; Albert Evans-Jones ('Cynan'), 1940; Dr Emyr Wyn Jones, 1981-97; J. Tysul Jones, 1979-83; Timothy Lewis, 1932; D. Tecwyn Lloyd, 1986; E. G. Millward, 1977; Derec Llwyd Morgan, 1983; Dyfnallt Morgan, 1990; Iorwerth Peate, 1958; y Parch. W. Rhys Nicholas, 1967 a heb ddyddiad; Brynley F. Roberts, 1997; Gomer M. Roberts, 1973-84; Prosser Rhys, 1944; Ian Skidmore, heb ddyddiad; Gwyn Thomas, 1969; A. H. Williams, 1967 a 1980; y Fonesig Amy Parry-Williams, 1986; yr Athro J. E. Caerwyn Williams, heb ddyddiad; John Roberts Williams, 1987; ynghyd â chylchlythyr, 1919, yn dwyn enw David Lloyd George, yn mynegi'i ddiolch i aelodau tribiwnlysoedd a fu'n gwasanaethu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf; ceir hefyd nodiadau bywgraffyddol, 1984, am y Gwir Barchedig Gwynfryn Richards a luniwyd ganddo ef ei hun; a rhestr o lyfrau, heb ddyddiad, o lyfrgell yr Archesgob Gwilym O. Williams.

Hughes, David, d. 1999

Papurau D. G. Lloyd Hughes

  • Ychwanegwyd at Papurau D. G. Lloyd Hughes
  • File

Papurau ymchwil ychwanegol D. G. Lloyd Hughes yn ymwneud yn bennaf â hanes Pwllheli a phlwyf Llanfihangel-ar-Arth, ynghyd â phapurau'n ymwneud â'i ymchwiliadau achyddol.

Hughes, D. G. Lloyd

Papurau Cyril Jones.

  • NLW ex 2190
  • File
  • 1963-1966, 1970

Pedair cyfrol, ac un eitem, c.1963-1966 a 1970, a grynhowyd gan D. Cyril Jones, yn ei swydd fel cyn Asiant Etholiadol Gwynfor Evans, yn etholaeth Caerfyrddin.

Jones, D. Cyril

Papurau Cymdeithas Genedlaethol Gymraeg Lerpwl

  • Mân Adneuon / Minor Deposits 1606-1609
  • File

Additional papers relating to the Liverpool Welsh National Society (see Minor Deposits 68-9A), comprising a minute book, 1938-96; account books, 1960-88 and 1975-96; together with a photocopy of Meredydd Jones's booklet, The Liverpool Welsh National Society (Aberystwyth, 1984), published in 1984 to celebrate the centenary of the Society.

Papurau ychwanegol yn ymwneud â Chymdeithas Genedlaethol Gymraeg Lerpwl (gweler Mân Adneuon 68-9A), yn cynnwys llyfr cofnodion, 1938-96; llyfrau cyfrifon, 1960-88, a 1975-96; ynghyd â llungopi o lyfryn Gwilym Meredydd Jones, The Liverpool Welsh National Society (Aberystwyth, 1984), a gyhoeddwyd ar achlysur canmlwyddiant y Gymdeithas yn 1984.

Liverpool Welsh National Society

Papurau Cymdeithas Brodwaith Cymru,

  • NLW ex 1988.
  • File
  • 1998.

Papurau Cymdeithas Brodwaith Cymru a sefydlwyd ym mis Mai 1998, yn cynnwys cyfansoddiad y Gymdeithas, cylchlythyr (rhif 1, Hydref 1998), ffurflen ymaelodi a rhestr o'r cynrychiolwyr lleol.

Cymdeithas Brodwaith Cymru

Results 3701 to 3720 of 12292