- NLW MS 24215A.
- File
- 1665-1689
Llyfr poced, 1665-1689, yn llaw Edward Williams o Lansilin, sir Ddinbych, yn bennaf yn Gymraeg, yn cynnwys deunydd amrywiol megis calendrau, tablau, nodiadau, cyfrifon, barddoniaeth a rhyddiaith.
Mae'r gyfrol yn cynnwys calendr Cymraeg (ff. 57 verso, 58-69), calendrau Saesneg ar gyfer 1667 (ff. 112-117 verso) ac [?1656] (ff. 119 verso-123 verso); tablau ac ysgrifau yn ymwneud ag amseryddiaeth (ff. 24 recto-verso, 41 verso, 47-50, 72 verso-76, 105-108, 110 verso-111 verso, 124 verso-128, Cymraeg yn bennaf); tablau ac ysgrifau tebyg i'r uchod yn ymwneud a sywedyddiaeth a sêr-ddewiniaeth (ff. 45, 46 verso, 53 verso-56 verso, 97-104 verso, Cymraeg); deunydd, yn cynnwys chwe phennill Saesneg, wedi ei gopïo allan o almanac Thomas Jones am 1689 (ff. 57a-d); 128 o englynion, neu bennillion eraill, wedi eu priodoli i Tuder Aled, Gwilim ab Sion Wynn, [Dafydd] Salsbury, Moris ap Ho'll ab Tudur, Maredudd ap Rhys, Sion Mowddwy, Gruffydd Hiraethog, Edward Jeffrey, [Dafydd] ab Edmwnt, [?Gwtwal] Trevor, Ieuan Llwyd Siaffre, Gaynor verch Elissau, Gwenllian verch Rhirid Flaidd ac eraill (tu mewn i'r clawr blaen, ff. i, 1 verso, 2 verso-3, 5 recto-verso, 12 recto-verso, 13 verso-15 verso, 17 verso-18, 23 recto-verso, 25 recto-verso, 26 verso-27 verso, 35 verso-38, 43 verso-46, 50 verso-53, 57a recto-verso, 57b, 69 verso, 72, 73 verso, 75 verso, 76, 87 verso, 109 verso, 119, 124, 129 verso); cyfrifon ynglŷn â threthi eglwysig ('lewne'/'lewn') a threthi eraill ym mhlwyf Llansilin, 1670-1673 (ff. i verso, 2, 7 verso, 9 recto-verso, 38 verso, 39 verso-41, 129 verso; Saesneg); amryw gyfrifon a chofnodion fferm ac aelwyd, 1665-1689 (ff. 3 verso-5, 10 recto-11 verso, 26, 39 recto-verso, 42-43 verso, 70-72, 76 verso-82 verso, 84-86, 87 verso, 89-94, 109, 129; Saesneg); cofnodion genedigaethau, priodasau a marwolaethau yn dyddio o 1659 i 1684 (ff. 6, 7, 17 verso, 39, 51, 108 verso-109, 127; Saesneg); ryseitiau meddygol (ff. 11, 28-35) ac i wneud inc (f. 128 verso); a rhyddiaith, nodiadau ac ysgrifau eraill yn y Gymraeg (ff. 17, 18 verso-22 verso, 56, 85 verso, 86 verso-87, 94 verso-97, 110), yn eu mysg darn o bregeth neu weddi (f. 17), stori Arthuraidd anghyflawn (ff. 18 verso-22 verso) a 'Llyma Hanes Christophis' (ff. 86 verso-87), ac yn Saesneg (ff. 12 verso, 13, 18, 118-119).
Williams, Edward, active 1665-1689