Casgliad detholedig o Farddoniaeth Gymreig y ganrif ... bresennol gan G. Penar Griffiths. (Gynt Penar Griffiths MS 1.) Hanner lledr. Rhoddwyd gan feibion a merched y diweddar Barchedig G. Penar Griffiths, trwy law Miss M. A. Penar Griffiths, Abertawe, Gorffennaf 1942.
Casgliad detholedig o Farddoniaeth Gymreig y ganrif ... bresennol gan G. Penar Griffiths. (Gynt Penar Griffiths MS 2.) Hanner lledr. Rhoddwyd gan feibion a merched y diweddar Barchedig G. Penar Griffiths, trwy law Miss M. A. Penar Griffiths, Abertawe, Gorffennaf 1942.
Casgliad bychan o bapurau Gwladys Megan Tibbott, Aberystwyth, aelod gweithgar o Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru, gan gynnwys llyfrau nodiadau a mân gyhoeddiadau perthnasol. Cynhwysa'r casgliad ddrafftiau o ddarlith ar Miss Jennie Williams (Mrs Ruggles-Gates), fel casglwr alawon gwerin, darlith a draddodwyd gerbron Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru. Hefyd yn cynnwys nifer o raglenni o gyngherddau cerddorol dros y blynyddoedd.
Glass negatives, the majority of views in and around Llanrhaeadr-ym-Mochnant during the first decade of the twentieth century. The original numbering system (1, 2, 2a, 3 etc.) has been retained with the prefix JPJ added. Many were used to produce collotype postcards, information relating to the production of which are noted on the original storage envelopes. Some of these also credit the photographer as being E.C Burns, who is listed in the 1911 census as a shopkeeper and photographer. The inscriptions on the envelopes seem to act as a template for the wording on the postcards, consequently it is likely that E.C. Burns was responsible for all the photographs.
Casgliad o lythyrau a phapurau yn ymwneud â beic modur T. H. Parry-Williams, KC 16, yn cynnwys dau lythyr at Buddug Thomas (mam y rhoddwr) oddi wrth T. H. Parry-Williams, 1963, ac un gan Amy Parry-Williams, ei wraig, 1976. Ymhlith y casgliad hefyd mae ffacsimili o blât KC 16, y beic modur.
Parry-Williams, T. H. (Thomas Herbert), Sir, 1887-1975
Casgliad o alawon Cymreig a drawsgrifwyd gan William Jones, Faerdref, Llandrillo. Nodiant cerddorol. Byrddau. Rhoddwyd gan Mrs Irving, Cynwyd, Mai 1954.
'Diarhebion Cymraeg, wedi eu casglu o wahanol ffynonellau, ac nad ydynt yn nghasgliad J[ohn] G[wenogvryn] Evans, Rhydychain, buddugol yn Eisteddfod Liverpool, 1884'.
Casgliad o englynion gan John Jones ('Dyfnan'; 1885-1963), Y Wigoedd, Pentraeth, Môn, ynghyd â bywgraffiad o 'Dyfnan' gan D. Islwyn Huws ac eraill. Rhwng byrddau. Rhoddwyd gan D. Islwyn Huws, Treharris, Tachwedd 1965.
Casgliad o Farddoniaeth Tudur Aled, gyda Nodion Beirniadol a Hanesyddol (Rhan I) a ysgrifenwyd gan Charles Ashton ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd. (Gynt Borth-y-gest MS 4.) Rhwng byrddau. Prynwyd o lyfrgell Mr R. E. Jones, Borth-y-gest, 1959-1961.
Casgliad o Farddoniaeth Tudur Aled, gyda Nodion Beirniadol a Hanesyddol (Rhan II) a ysgrifenwyd gan Charles Ashton ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd. (Gynt Borth-y-gest MS 5.) Rhwng byrddau. Prynwyd o lyfrgell Mr R. E. Jones, Borth-y-gest, 1959-1961.