CMA: Cofysgrifau Capel Salem, Pantgwyn
- GB 0210
- Fonds
Llyfr bedyddiadau a chladdedigaethau ynghyd â llun.
Capel Salem, Pantgwyn
212 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol
CMA: Cofysgrifau Capel Salem, Pantgwyn
Llyfr bedyddiadau a chladdedigaethau ynghyd â llun.
Capel Salem, Pantgwyn
CMA: Cofysgrifau Capel Salem, Llandeilo
Cofnodion Capel Salem, Llandeilo.
Capel Salem, Llandeilo
CMA: Cofysgrifau Capel Salem, Cyffylliog
Cofysgrifau Capel Salem, Cyffylliog neu Gyffylliog, sir Ddinbych, yn cynnwys cofnodion ariannol, 1884-2011 (yn eu plith Llyfr Casgliad y Weinidogaeth, Bethania, 1899-1910); Llyfr Aelodaeth y Merched, 1889-98; llyfrau cofnodion, 1931-84 (gyda bylchau); llyfrau tocyn aelodaeth, 1930-57; adroddiadau blynyddol, 1956-64 (gyda bylchau); cofnodion yr Ysgol Sul, 1923-2011; ac archwiliad o’r adeiladau, 1989.
Capel Salem, Cyffylliog
CMA: Cofysgrifau Capel Pontrobert
Mae'r fonds yn cynnwys un llyfr cofnodion, 1913-1914, yn nodi enwau yr holl danysgrifwyr o swllt ac uchod at gasgliad neilltuol a wnaed at godi capel newydd Pontrobert yn 1865, ac ychydig o hanes adeiladu'r capel.
Capel Newydd (Pontrobert, Wales)
CMA: Cofysgrifau Capel Pen-uwch,
Cofysgrifau Capel Pen-uwch, Penuwch, Llangeitho, 1840-1993, yn cynnwys cofrestr bedyddiadau, 1840-1993, llyfr aelodaeth, 1895-1936, casgliadau at y weinidogaeth, 1863-1970, 'Llyfr Cyfrif Ysgol Sabbothol Penuwch', 1915-1928, a llyfr ysgrifennydd yr Ysgol Sul, 1940-1947.
Capel Pen-uwch (Penuwch, Wales).
CMA: Cofysgrifau Capel Penuel, Ferndale,
Cofysgrifau Capel Penuel, Ferndale, yn cynnwys cyfrifon, 1908-1975; cyfraniadau tuag at y Weinidogaeth gyda rhestri aelodaeth, 1929-2003; rhestr o aelodau ac athrawon yr Ysgol Sul, 1902-1910, a chyfrol yn nodi cyfrif yr Eisteddleoedd, 1905-1959.
Capel Penuel (Ferndale, Wales)
CMA: Cofysgrifau Capel Pentyrch
Tystysgrif er mwyn cofrestru priodasau ar gyfer Capel Methodistiaid Calfinaidd Pentyrch, Llanfair Caereinion, 1 Rhagfyr 1948.
Capel Pentyrch (Llanfair Caereinion, Wales)
CMA: Cofysgrifau Capel Newydd Llanddarog
Cofnodion Capel Newydd Llanddarog, yn cynnwys cofrestri eglwysig, 1960-1977, cyfraniadau ariannol yr aelodau, 1900-1995, gohebiaeth yr ysgrifennydd, 1963-1997, ystadegau blynyddol, 1909-1995, a chyfrifon a chytundebau, 1855-1982. Ceir hefyd gofrestrau'r Ysgol Sul, 1976-1995, a mantolenni ariannol yr Ysgol Sul, 1959-1980.
Capel Newydd (Llanddarog, Wales)
CMA: Cofysgrifau Capel Nazareth, Llwynhendy,
Cofysgrifau Capel Nazareth, Llwynhendy, sef cyfrifon, 2001-2014. = Records of Nazareth Chapel, Llwynhendy, consisting of accounts, 2001-2014.
CMA: Cofysgrifau Capel Moriah, Mynydd Cynffig
Mae'r casgliad yn cynnwys pum cyfrol o lyfrau cyfrifon Capel Moriah, Mynydd Cynffig, 1850-2001, yn nodi derbyniadau a thaliadau cyffredinol yn ymwneud â'r Capel.
Capel Moriah (Kenfig Hill, Wales)
CMA: Cofysgrifau Capel Moria, Trefenter
Cofysgrifau Capel Moria, Trefenter, yn cynnwys cofnodion ariannol, 1913-2007; adroddiadau blynyddol, 1996-2007; ystadegau, 1969-1980; a phapurau yn ymwneud â chanmlwyddiant y capel, 2007.
Capel Moria, Trefenter
CMA: Cofysgrifau Capel Mawr, Llanrug
Mae'r fonds yn cynnwys cofrestr bedyddiadau Capel Mawr Llanrug, 1833-1976; llyfrau rhybudd o gladdedigaethau, 1900-1960; cyfrolau'n ymwneud ag aelodaeth, 1878-1931; llyfrau cofnodion pwyllgorau'r capel, 1891-1970; a phapurau amrywiol, sef llyfr cofnodion temlwyr Glanrhythallt a phapurau'n ymwneud ag Ysgol Bryneryr, 1790, 1854-1911.
Eglwys Llanrug (Llanrug, Wales)
CMA: Cofysgrifau Capel Maesgeirchen, Bangor
Cofnodion Capel Maesgeirchen, Bangor, gan gynnwys llyfr tocyn aelodaeth, 1974-1994, cyfrol o gyfrifon ariannol, 1990-1997, a phapurau gweinyddol amrywiol yn cynnwys cyfrifon a phapurau ariannol, llythyrau ariannol a llythyrau i'r aelodau, adroddiadau blynyddol, cyfriflenni, tystysgrifau heb eu llenwi, a gohebiaeth gyda'r henaduriaeth, 1990-2000.
Capel Maesgeirchen (Bangor, Wales)
CMA: Cofysgrifau Capel Hill's Lane, Amwythig
Mae'r fonds yn cynnwys cofnodion ariannol amrywiol, 1864-1931, cofrestri a llyfrau cofnodion yr Ysgol Sul, 1838-1914, a gohebiaeth a deunydd perthynol, 1925-1945, Capel Hill's Lane, Amwythig.
Capel Hill's Lane (Shrewsbury, England)
CMA: Cofysgrifau Capel Hermon, Trichrug,
Cofysgrifau Capel Hermon, Trichrug, ym mhlwyf Trefilan, 1890-1999, yn cynnwys llyfrau casglu at y weinidogaeth, 1894-1999, llyfr cyfrifon, 1931-1996, llyfr cyfrifon yr Ysgol Sul, 1909-1927, llyfr ysgrifennydd yr Ysgol Sul, 1941-[1943], ynghyd â llyfr aelodaeth, 1890-1958, a hefyd cofrestr bedyddiadau, 1890-1987 a priodasau, 1953-1979, a cofrestr y Gymdeithas Ddirwestol, 1903 a 1908.
Capel Hermon, Trichrug (Ceredigion, Wales).
CMA: Cofysgrifau Capel Gwynfa, Y Ffrith
Mae'r fonds yn cynnwys Llyfr Casgliad y Weinidogaeth, 1926-1949, a Llyfr Cyfrifon, 1956-1991.
Capel Gwynfa, Ffrith (Hope, Wales)
CMA: Cofysgrifau Capel Gosen, Rhydyfelin
Cofysgrifau Capel Gosen, Rhydyfelin, ger Aberystwyth, 1933-2023, yn cynnwys cofrestr genedigaethau a bedyddiadau, 1934-2015, marwolaethau a chladdedigaethau, 1933-2020, a rhestr priodasau, 1988-97; cofnodion ariannol, 1985-2023; llyfr cofnodion pwyllgorau, 1956-2022; adroddiadau blynyddol, 1993-2019 (gyda bylchau); rhestr aelodau a chyfrifon Cymdeithas Lenyddol Gosen (Cymdeithas Ddiwylliadol Gosen a Horeb, New Cross, yn ddiweddarach), 1947-99; a threfn y gwasanaeth datgorffori ar 26 Mawrth 2022, ynghyd ag anerchiad yr Ysgrifennydd, Nesta Parry Edwards, ar ‘Hanes Capel Gosen’. Ceir hefyd lyfr Trysorydd Ysgol Sul y Bont, Llanfarian, 1997-2017, a chopi o’r llyfryn Drws agored: Ysgoldy Pentre’r Bont, Llanfarian 1879-1979 gan Evan Jones.
Capel Gosen, Rhydyfelin, ger Aberystwyth
CMA: Cofysgrifau Capel Gorffwysfa, Penrhyndeudraeth
Mae'r fonds yn cynnwys cofnodion Capel Gorffwysfa, Penrhyndeudraeth, gan gynnwys llyfr cyfrifon y Gymdeithas Ariannol, 1878-1907, llyfrau cyfrifon, 1878-1986, a llyfr y trysorydd, 1888-1952. Ceir llyfr cofnodion eglwysig, 1909-1986, a llyfr cofnodion pwyllgor yr adeiladau, 1929-1951, ymhlith y cofnodion gweinyddol, ynghyd â chofrestr yr Ysgol Sul, 1885-1886, a phapurau'n ymwneud â threfnu Cymanfa Gyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru, 12-15 Mehefin 1978, yn y capel.
Cofysgrifau ychwanegol yn perthyn i'r capel yn cynnwys adroddiadau'r eglwys; llyfr bedyddiadau; llyfr Ysgrifennydd yr Ysgol Sul, 1964-1988; tocynnau aelodaeth; tri llyfr cofnodion, 1952-2010; adroddiadau ar yr adeiladau, 2002 a 2006; manylion ewyllys Mr Thomas Charles Jones, 1992; cofnodion Pwyllgor yr Adeiladau, 1975-2002; cofnodion cyfarfodydd swyddogion, 1987-2003; gohebiaeth amrywiol; a manylion rhoddion cyfamod. Nid yw'r ychwanegiad hwn wedi ei catalogio eto.
Capel Gorffwysfa (Penrhyndeudraeth, Wales)
CMA: Cofysgrifau Capel Gibea, Cwmgwili
Cofrestr bedyddiadau, 1911-1960, a chyfrol o gofnodion, 1915-1992, Capel Gibea, Cwmgwili.
Cofysgrifau yn perthyn i Eglwys Gibea (MC), Cwmgwili, 1897-1977, yn cynnwys taflen cyfarfod dathlu hanner canmlynedd; llyfrau aelodaeth; llyfrau casgliad tuag at y Weinidogaeth; derbyniadau a thaliadau; cofrestr y Gymdeithas Ddirwestol; llyfrau cyfraniadau at wahanol gasgliadau'r eglwys; llyfr taliadau; llyfrau'r Ysgol Sul; ac ystadegau'r eglwys. Nid yw'r rhain wedi eu catalogio eto.
Cofysgrifau ychwanegol Capel Gibea, Cwmgwili, sef llyfr cyfrifon, 1958-1976.
Capel Gibea (Cwmgwili, Wales)
CMA: Cofysgrifau Capel Ffosyffin
Mae'r fonds yn cynnwys cyfrolau yn nodi casgliadau tuag at y Weinidogaeth, derbyniadau a thaliadau, 1950-1997, ynghyd â chopi o brydles o ddarn o dir drws nesaf i'r capel, 1985.
Capel Ffosyffin (Wales)