fonds GB 0210 HUWGRIFF - Papurau'r Parch. Huw Wynne Griffith,

Identity area

Reference code

GB 0210 HUWGRIFF

Title

Papurau'r Parch. Huw Wynne Griffith,

Date(s)

  • 1947-1992 / (Creation)

Level of description

fonds

Extent and medium

0.217 metrau ciwbig (24 bocs)

Context area

Name of creator

Biographical history

Yr oedd y Parch. Huw Wynne Griffith (1915-93) yn weinidog Seilo, capel y Methodistiaid Calfinaidd, Aberystwyth, am dros ddeng mlynedd ar hugain, ac yn ymwneud ag eciwmeniaeth yng Nghymru. Yr oedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Ecwmenaidd Cymru, bu'n gadeirydd ac yn ysgrifennydd arni, a hefyd yn ysgrifennydd y Cydbwyllgor ar Gyfamodi.

Archival history

Immediate source of acquisition or transfer

Mrs Mair Wynne-Griffith; Aberystwyth; Rhodd; 1997

Miss Ann Wynne Griffith; New Delhi; Rhodd; Ebrill 2005 ac Awst 2006

Content and structure area

Scope and content

Mae'r casgliad yn cynnwys ffeiliau gohebiaeth a chofnodion cyfarfodydd. Ymysg rhai o'r ffeiliau ceir amlinelliad o'u cynnwys a baratowyd gan y Parch. Huw Wynne Griffith ynghyd â manylion am ddigwyddiadau arwyddocaol. Mae'r ffeiliau yn ymwneud â chyfamodi, 1963-1991; pwyllgor y pedwar enwad, 1954-1970; Cymdeithas Ecwmenaidd Cymru, 1947-1978; Cyngor Eglwysi Rhyddion, 1956-1990 (yn cynnwys cofnodion,1956-1989, a phapurau'n ymwneud â Phwyllgor Ffydd a Threfn, 1961-1970, Pwyllgor Materion Cenedlaethol a Rhyngwladol, 1971-1989, a phapurau amrywiol,1966-1989); grŵp Aberystwyth o Gyngor Eglwysi Cymru, 1962-1990 (yn cynnwys cofnodion,1962-1990, ffoaduriaid,1955-1986, a phapurau amrywiol,1962-1990); Cytun, 1990-1992; Cyngor Eglwysi Prydain, 1964-1981; a phapurau amrywiol,1958-1991. = The collection consists of files of correspondence and committee minutes. Within some of the files is an outline of their contents prepared by Rev. Huw Wynne Griffith together with details of significant events. The files relate to covenanting, 1963-1991; the four denominations committee, 1954-1970; the Welsh Ecunemical Society, 1947-1978; the Council of Welsh Churches, 1956-1990 (comprising minutes, 1956-1989, and papers relating to the Faith and Organisation Committee, 1961-1970, the Committee for National and International Matters, 1971-1989, and miscellaneous papers, 1966-1989); the Aberystwyth group of the Council of Welsh Churches, 1962-1990 (including minutes, 1962-1990, refugees, 1955-1986, and miscellaneous papers, 1962-1990); Cytun, 1990-1992; the Council of British Churches, 1964-1981; and miscellaneous papers, 1958-1991.

Appraisal, destruction and scheduling

Action: Cadwyd yr holl gofnodion..

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau

System of arrangement

Trefnwyd fel a ganlyn: cyfamodi; Pwyllgor y Pedwar Enwad; Cymdeithas Ecwmenaidd Cymru; Cyngor Eglwysi Cymru (cofnodion, pwyllgor Ffydd a Threfn, Pwyllgor Materion Cenedlaethol a Rhyngwladol, papurau amrywiol); grŵp Aberystwyth o Gyngor Eglwysi Cymru (cofnodion, ffoaduriaid, a phapurau amrywiol); Cytun; Cyngor Eglwysi Prydain; a phapurau amrywiol.

Conditions of access and use area

Conditions governing access

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Conditions governing reproduction

Amodau hawlfraint arferol.

Language of material

  • Welsh
  • English

Script of material

Language and script notes

Cymraeg, Saesneg.

Physical characteristics and technical requirements

Finding aids

Mae copi caled o'r catalog ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Mân Restri a Chrynodebau, 1998, tt. 21-25. Ceir mynediad i'r catalog ar lein hefyd.

Allied materials area

Existence and location of originals

Existence and location of copies

Related units of description

Cyflwynwyd papurau'n ymwneud â Chyngor Eglwysi Cymru, a sefydlwyd yn 1956, yn rhodd i LlGC gan Dr T. I. Ellis yn 1963 a 1966. Derbyniwyd cofnodion Pwyllgor Cyfamodi Cyngor Eglwysi Cymru, 1966-1975, trwy law y Parch. Huw Wynne Griffith yn 1975, a chasglwyd ynghyd amrywiol bapurau'n ymwneud â Chyngor Eglwysi Cymru a'u cyflwyno'n rhodd i LGC gan Dr E. D. Jones yn 1986.

Related descriptions

Notes area

Note

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Alternative identifier(s)

Virtua system control number

vtls004645993

Access points

Subject access points

Place access points

Name access points

Genre access points

Description control area

Description identifier

Institution identifier

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales

Rules and/or conventions used

Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.

Status

Level of detail

Dates of creation revision deletion

Gorffennaf 2006.

Language(s)

  • Welsh

Script(s)

Sources

Archivist's note

Lluniwyd gan J. Graham Jones i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynhonnell canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Mân Restri a Chrynodebau, 1998, tt. 21-25;

Accession area

Related subjects

Related people and organizations

Related genres

Related places