Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- [?1847]-2019 (Creation)
Lefel y disgrifiad
Fonds
Maint a chyfrwng
0.218 metrau ciwbig (1 bocs mawr, 18 bocs bach, 2 focs bespoke, 1 ffolder)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Bardd a golygydd oedd Mathonwy Hughes. Fe'i ganwyd ym 1901 yn Llanllyfni, Sir Gaernarfon, yn fab i Ellen a Joseph Hughes, ac yn nai i'r Prifardd R. Silyn Roberts. Addysgwyd ef yn Ysgol Clynnog, ac yna yn nosbarthiadau Mudiad Addysg y Gweithwyr. Priododd Mair Davies ym 1956, ac ymgartrefodd y ddau yn Ninbych. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol 1956, a chyhoeddodd bedair cyfrol o farddoniaeth, pedwar casgliad o ysgrifau, cyfrol o hunangofiant a chyfrol deyrnged i Gwilym R. Jones. Bu'n olygydd cynorthwyol Baner ac Amserau Cymru o 1949 hyd ei ymddeoliad ym 1979, ac yn aelod brwdfrydig, fel myfyriwr a darlithydd, o Fudiad Addysg y Gweithwyr. Bu farw ym mis Mai 1999.
Hanes archifol
Wedi ei farwolaeth ym mis Mai 1999 aeth y rhoddwyr trwy ei bapurau cyn eu trosglwyddo i'r Llyfrgell. Credir bod rhai papurau wedi eu difa.
Ffynhonnell
Rhodd gan Mr a Mrs Berwyn Roberts, Dinbych, ysgutorion Mathonwy Hughes, 4 Ebrill 2000; A2000/23
Rhodd gan Berwyn ac Olwen Roberts, Dinbych, Medi 2021; 99204350202419
Rhodd gan Mrs Olwen Roberts, Dinbych, trwy law Angharad Tomos, Ionawr 2024; 99204350202419
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Mae'r fonds yn cynnwys ei lawysgrifau llenyddol; gohebiaeth bersonol, [?1903]-1992; papurau'n ymwneud â'i deulu, yn enwedig ei ewythr R. Silyn Roberts, [?1847]-[?1986]; papurau'n gysylltiedig â'i waith fel golygydd cynorthwyol Y Faner, 1949-1992; ynghyd â nodiadau a darlithoedd a baratowyd ganddo ar gyfer dosbarthiadau Mudiad Addysg y Gweithwyr, [?1936]-1991.
Mae'r papurau ychwanegol (Rhodd Medi 2021), 1894-2019 (gyda bylchau), yn cynnwys gohebiaeth, barddoniaeth, ysgrifau, papurau'n ymwneud â'r Faner, ffotograffau a phapurau pobl eraill.
Rhodd Ionawr 2024: Papurau gan neu'n ymwneud â Mathonwy Hughes, sy'n cynnwys, ymysg eitemau eraill, llyfrau gwaith ysgol Mathonwy Hughes; traethawd gan Mathonwy Hughes ar Gymdeithas Addysg y Gweithwyr Dyffryn Nantlle; Adroddiadau Blynyddol Capel Methodistaidd Calfinaidd Tanrallt, Llanllyfni; deunydd yn ymwneud â chanmlwyddiant Ysgol Nebo; a deunydd gan neu'n ymwneud â'r bardd a'r golygydd Gwilym R. Jones.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Cadwyd y cyfan o bapurau Mathonwy Hughes a roddwyd i'r Llyfrgell.
Croniadau
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
System o drefniant
Trefnwyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn saith grŵp: papurau personol, [?1862]-1995; papurau llenyddol, [?1915]-[?1999]; papurau yn ymwneud â'r Faner, [1949]-1992; papurau Mudiad Addysg y Gweithwyr, [?1936]-1991; papurau teuluol, [?1847]-[?1986]; Rhodd 2021, [1850]-2019; Rhodd 2024.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Gwarchod Data 1998 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
- Cymraeg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ceir copi caled o'r rhestr yn LlGC, Archifdy Sir Ddinbych a Llyfrgell Prifysgol Cymru Bangor.
Cymorth chwilio a gynhyrchir
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Teitl yn seiliedig ar gynnwys y fonds.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
GEAC system control number
Alma system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
- Hughes, Mathonwy -- Archives (Pwnc)
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LLGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Mehefin 2000 a Mai 2023.
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd gan Rhian Phillips ac Ann Francis Evans.
Lluniwyd disgrifiad Rhodd Ionawr 2024 gan Bethan Ifan, Rhagfyr 2024, gan ddefnyddio ffynhonellau uniongyrchol a ffwythiannau chwilio arlein.
Nodyn yr archifydd
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: Ysgrifau Coffa 1999 (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 2000), tt. 56-59 a Derwyn Jones et al, Cofio Mathonwy (Caernarfon, 2001).