Ffeil NLW ex 2101 - Nodiadau a thorion o eiddo Bob Owen, Croesor

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

NLW ex 2101

Teitl

Nodiadau a thorion o eiddo Bob Owen, Croesor

Dyddiad(au)

  • 1913-1946 (Creation)

Lefel y disgrifiad

Ffeil

Maint a chyfrwng

1 ffolder

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Roedd Robert (Bob) Owen, Croesor (1885-1962) yn hanesydd, achyddwr a chasglwr llyfrau. Cafodd ei eni yn Llanfrothen, sir Feirionnydd, ar 8 Mai 1885 a'i fagu gan ei fam-gu, Ann Owen. Bu'n ddisgybl yn Ysgol Elfennol Llanfrothen nes cyrraedd ei 13 mlwydd oed, pan adawodd i weithio ar wahanol ffermydd. Tair blynedd yn ddiweddarach cafodd ei gyflogi gan Chwarel Lechi Parc a Chroesor fel clerc a bu yno tan i'r chwarel gau yn 1931. Yna fe'i penodwyd yn drefnydd Cymdeithas Addysg y Gweithwyr gan Gyngor Gwledig sir Gaernarfon, a bu'n darlithio yn ogystal. Er gwaethaf ei ddiffyg addysg ffurfiol, datblygodd yn hynafiaethydd, achyddwr ac ymchwilydd. Casglodd lawer o lawysgrifau a llyfrau a gwnaeth adysgrifau o gofnodion plwyf a dogfennau eraill. Roedd ganddo ddiddordeb mewn amrywiaeth eang o bynciau hanesyddol ond yn arbennig hanes y Cymry yn America a chyfrannodd golofn wythnosol, 'Lloffion Bob Owen' yn Y Genedl Gymreig, 1929-1937. Enillodd wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol am ei draethodau ar ymfudiad y Cymry i America yn y cyfnod 1760-1860 ac ar ddiwydiant ardal Dwyryd a Glaslyn yn sir Gaernarfon. Yn 47 mlwydd oed dyfarnwyd iddo radd MA er anrhydedd gan Brifysgol Cymru a derbyniodd yr OBE. Yr oedd yn ddarlithydd poblogaidd iawn a hefyd yn ddarlledwr. Priododd Nell (Ellen) Jones o Gaeathro, sir Gaernarfon, yn 1923 a chawsant fab a dwy ferch. Bu farw ar 30 Ebrill 1962 a'i gladdu yn Llanfrothen.

Hanes archifol

Ffynhonnell

Prynwyd oddi wrth Mr Dafydd Timothy, Siop y Morfa, Y Rhyl, Gorffennaf 2001.; B2001/12

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Ffeil o nodiadau a thorion papur newydd yn perthyn i Bob Owen, Croesor (1885-1962), yn ymwneud yn bennaf â'r diwydiant llechi yn siroedd Caernarfon a Meirionnydd, ac yn cynnwys llythyr, 1946, oddi wrth O. T. Williams, rheolwr Chwareli Dinorwig

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Croniadau

Ni ddisgwylir ychwanegiadau

System o drefniant

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Dim gwaharddiad

Amodau rheoli atgynhyrchu

Iaith y deunydd

  • Cymraeg
  • Saesneg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Welsh; English

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Gweler hefyd Papurau Bob Owen, Croesor, yn LLGC

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Preferred citation: NLW ex 2101

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls004205948

GEAC system control number

(WlAbNL)0000205948

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad pwnc

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Enw

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Iaith(ieithoedd)

Sgript(iau)

Ffynonellau

Ardal derbyn

Pynciau cysylltiedig

Pobl a sefydliadau cysylltiedig

Genres cysylltiedig

Lleoedd cysylltiedig

Storfa ffisegol

  • Text: NLW ex 2101.