Identity area
Reference code
Title
Date(s)
- 1990 (Creation)
Level of description
File
Extent and medium
1 sgript.
Context area
Name of creator
Biographical history
Name of creator
Biographical history
Ganwyd y dramodydd Gwenlyn Parry yn 1932 ac fe'i magwyd yn Neiniolen, Gwynedd. Mynychodd Ysgol Gwaun Gynfi ac Ysgol Ramadeg Brynrefail cyn ymuno â'r RAF i gyflawni ei wasanaeth milwrol gorfodol. Bu'n gwasanaethu fel nyrs yn yr adran feddygol am ddwy flynedd cyn ymadael i hyfforddi fel athro yng Ngholeg Normal, Bangor. Derbyniodd hyfforddiant fel pregethwr cynorthwyol yno yn ogystal.
Yn dilyn ei gyfnod yn y coleg, symudodd o Gymru i Lundain i weithio fel athro mathemateg a gwyddoniaeth. Tra yn Llundain magwyd ei ddiddordeb yn y theatr, a phan ddychwelodd i Gymru, wedi pedair blynedd yno, i ddysgu yn Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda, dechreuodd ysgrifennu o ddifrif. Daeth yn gyd-fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Maelor, 1961, yn y gystadleuaeth drama fer am ei ddrama gyntaf, Y Ddraenen Fach. Aeth ymlaen i ennill sawl gwobr wedi hyn.
Ymunodd ag adran sgriptiau'r BBC yng Nghaerdydd yn 1966. Bu'n gyfrifol am ysgrifennu a chynhyrchu nifer o raglenni poblogaidd megis Pobol y Cwm, Fo a Fe a'r ffilm Grand Slam (1978). Yn fwy diweddar, cyd-ysgrifennodd, gydag Endaf Emlyn, addasiad o nofel Caradog Prichard, Un Nos Ola Leuad, ar gyfer y teledu. Enwebwyd ef am wobr BAFTA Cymru yn sgil llwyddiant y cynhyrchiad hwn yn 1992 ac eto yn 1993.
Caiff Gwenlyn Parry ei gydnabod yn un o brif ddramodwyr Cymru. Ymysg ei weithiau mwyaf nodedig mae'r dramâu llwyfan Saer Doliau (1966), Y Tŵr (1978) a Panto (1986). Bu'n briod ddwywaith, yn gyntaf i Joy ac yna i Ann Beynon, ac yr oedd ganddo bedwar o blant. Bu farw ar 5 Tachwedd 1991.
Archival history
Immediate source of acquisition or transfer
Endaf Emlyn; Caerdydd; Rhodd; Hydref 2022.
Content and structure area
Scope and content
Sgript y ffilm Un Nos Ola Leuad (1991), addasiad Gwenlyn Parry ac Endaf Emlyn o nofel Caradog Prichard. Mae'r sgript yn cynnwys nodiadau a darluniau o waith y cyfarwyddwr, Endaf Emlyn, sy'n ymwneud â'r cynhyrchiad.
Appraisal, destruction and scheduling
Accruals
System of arrangement
Conditions of access and use area
Conditions governing access
Readers consulting modern papers in the National Library of Wales are required to abide by the conditions set out in information provided when applying for their Readers' Tickets, whereby the reader shall become responsible for compliance with the Data Protection Act 2018 in relation to any processing by them of personal data obtained from modern records held at the Library. = Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Gwarchod Data 2018 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.
Conditions governing reproduction
Amodau hawlfraint arferol.
Language of material
- Welsh
Script of material
Language and script notes
Cymraeg.
Physical characteristics and technical requirements
Finding aids
Generated finding aid
Allied materials area
Existence and location of originals
Existence and location of copies
Related units of description
Notes area
Note
Teitl yn seiliedig ar y cynnwys.
Alternative identifier(s)
Alma system control number
Access points
Subject access points
Place access points
Name access points
Genre access points
Description control area
Description identifier
Institution identifier
Rules and/or conventions used
Description follows NLW guidelines based on ISAD(G) 2nd ed.; AACR2; and LCSH.
Status
Level of detail
Dates of creation revision deletion
Language(s)
- Welsh