Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1937 / (Creation)
Lefel y disgrifiad
Ffeil
Maint a chyfrwng
7 ff.
Guarded and filed.
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Yr oedd D. J. Williams (1885-1970), Abergwaun, yn llenor a chenedlaetholwr.
Ganwyd David John Williams ar 26 Mehefin 1885 yn ffermdy Penrhiw Fawr ym mhlwyf Llansawel, yn fab i John a Sarah Williams (née Morgans), ac yn 1891 symudodd y teulu i Abernant, Rhydcymerau.
Mynychodd Ysgol Gynradd Rhydcymerau, 1891-1898. Rhwng 1902 a 1906 bu D. J. Williams yn gweithio fel glöwr yn Ferndale, Cwm Rhondda; Y Betws, Rhydaman; a Blaendulais. Cyn hynny bu'n gweithio ar y tir. Yn 1906 bu'n ddisgybl yn ysgol ragbaratoawl Mr Stephens, Llanybydder, ac yn 1908 fe'i penodwyd yn athro heb drwydded yn Ysgol Llandrillo yn Sir Feirionnydd. Mynychodd Ysgol yr Hen Goleg, Caerfyrddin, o dan Joseph Harry, 1910-1911, ac yn 1911 aeth i Brifysgol Cymru, Aberystwyth gan raddio mewn Cymraeg yn 1914, a Saesneg yn 1915. Bu'n allweddol mewn sefydlu cylchgrawn Y Wawr, cylchgrawn Cymraeg cyntaf Prifysgol Cymru ac fe'i penodwyd yn olygydd cyntaf. Enillodd Ysgoloriaeth Meyricke i Goleg yr Iesu, Rhydychen, am ysgrifennu traethawd ar 'The nature of literary creation' gan raddio mewn Saesneg yn 1918. Bu'n dysgu Cymraeg yn Ysgol Lewis Pengam am dri mis yn 1918. Yn 1919 fe'i penodwyd yn athro Saesneg ac Ymarfer Corff yn Ysgol Ramadeg Abergwaun ac yn athro Cymraeg yno o 1937 nes iddo ymddeol yn 1945.
Priododd Jane (Siân) Evans, a oedd yn chwaer i Wil Ifan, ar 24 Rhagfyr 1925, a symud i 49 High Street (a fu gynt yn dafarn y Bristol Trader), Abergwaun, a dyfodd yn fan cyfarfod i ffrindiau lu. Bu'n feirniad cyson ar gystadlaethau rhyddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 1951 yr oedd yn un o feirniaid y fedal ryddiaith. Lluniodd ei feirniadaeth gyntaf tra yng ngharchar Wormwood Scrubs ar gyfer cystadleuaeth y stori fer yn Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth 1937. Yr oedd yn un o'r tri a fu'n gyfrifol am losgi'r Ysgol Fomio yn Llŷn ac fe'i carcharwyd am naw mis fel canlyniad. Ym mlynyddoedd olaf ei ddyddiau bu'n gefnogwr i ymdrechion Cymdeithas yr Iaith dros hawliau'r Gymraeg.
Bu'n ymwneud â'r Blaid Lafur cyn ymuno â'r Blaid Genedlaethol Gymreig pan ffurfiwyd hi yn 1925. Yn Ysgol Haf Plaid Cymru a gynhaliwyd yn Abergwaun yn 1964 cafwyd cyfarfod i anrhydeddu D. J. Williams a Siân ei wraig, a darllenodd Waldo Williams ei gywydd mawl iddo.
Bu D. J. Williams yn Ysgrifennydd Cymrodorion Abergwaun, 1920-1928, ac yn Llywydd, 1936-1937, gan gynhyrchu sawl drama. Cafodd ei benodi yn Llywydd Undeb Prifysgolion Cymru yn 1935, ac yn 1957 cyflwynwyd gradd DLitt iddo er anrhydedd gan Brifysgol Cymru. Yn 1965 cafodd ei ethol yn Llywydd yr Academi Gymreig ac yn yr un flwyddyn cyhoeddwyd cyfrol deyrnged iddo wedi'i golygu gan ei gyfaill J. Gwyn Griffiths.
Bu farw D. J. Williams wedi iddo roi anerchiad gwladgarol mewn cyngerdd cysegredig yng Nghapel Rhydcymerau ar 4 Ionawr 1970, ac yno y cynhaliwyd yr angladd. Ar 17 Medi 1977 dadorchuddiwyd cofeb iddo yn Abernant, Rhydcymerau, gan Cassie Davies a threfnwyd gweithgareddau i'w goffáu, gan gynnwys pererindod o Gaerfyrddin i Rydcymerau gan ieuenctid y sir.
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Ganwyd y Parch. Lewis Valentine (1893-1986), gweinidog y Bedyddwyr, heddychwr a chenedlaetholwr, yn Llanddulas, sir Ddinbych. Bu'n astudio Cymraeg ac ieithoedd Semitig yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, ac yn ddiweddarach cyhoeddodd waith ar destunau Hebraeg o'r Hen Destament. Gwasanaethodd Valentine fel cynorthwywr meddygol gyda'r fyddin yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ond yn dilyn cyrch nwy yn 1917 symudodd i Blackpool, swydd Gaerhirfryn, yn 1918, a dychwelodd i'r coleg ym Mangor yn 1919. Yn 1921 ordeiniwyd ef yn weinidog capel Tabernacl, Llandudno, sir Gaernarfon, a bu yno tan 1947, pan symudodd i gapel Seion, Ponciau, Rhosllannerchrugog, sir Ddinbych, lle safodd tan ei ymddeoliad yn 1970. Bu farw yn 1986. Yr oedd Lewis Valentine yn un o sylfaenwyr Plaid Genedlaethol Cymru (Plaid Cymru yn ddiweddarach), a ffurfiwyd ym Mhwllheli yn 1925, a safodd fel ymgeisydd cyntaf y blaid, yn etholaeth Caernarfon, yn 1929. Ef hefyd oedd ei Llywydd cyntaf, a'r Is-Lywydd yn 1936 pan gymerodd ran, gyda Saunders Lewis (1893-1985) a D. J. Williams, mewn gweithred symbolaidd o losgi Ysgol Fomio i Beilotiaid y Llu Awyr Brenhinol a oedd newydd ei sefydlu ym Mhenyberth, ger Pwllheli, Llŷn, sir Gaernarfon, fel protest heddychlon, cenedlaetholgar ac amgylcheddol. Ildiodd y protestwyr i'r heddlu, gan amddiffyn ei gweithredu ar dir moesol. Symudwyd yr achos i'r Old Bailey, wedi i reithwyr yng Nghaernarfon fethu â chytuno ar ddedfryd. Dedfrydwyd y tri i naw mis o garchar; cawsant gefnogaeth a hysbysrwydd eang. Yr oedd yn ffrind i Lewis, Williams a Kate Roberts (1891-1985) ar hyd ei oes. Yn 1983, golygodd John Emyr y gyfrol 'Lewis Valentine yn cofio'. Yn 1988, ar ôl ei farwolaeth, cyhoeddwyd 'Dyddiadur milwr a gweithiau eraill' (Llandysul), sef hanes ei brofiadau yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Messages from Saunders Lewis, D. J. Williams and Lewis Valentine to the Welsh Nationalist Party newspaper Y Ddraig Goch, September 1937, following their release from prison after serving a sentence for the arson attack at the bombing-school at Penyberth; together with a note from Lewis Valentine to Morris T. Williams and his wife, Kate Roberts.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
System o drefniant
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Readers consulting modern papers in the National Library of Wales are required to abide by the conditions noted on the 'Modern papers - data protection' form issued with their readers' tickets.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Usual copyright laws apply.
Iaith y deunydd
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Welsh.
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
The descriptions are also available, together with a detailed list of contents, in Handlist of Manuscripts in the National Library of Wales, Volume VIII (Aberystwyth, 1999).
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Title based on contents.
Nodiadau
Preferred citation: NLW MS 22084C.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
GEAC system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
- Ysgol Fomio (Penyberth, Llŷn, Wales) (Pwnc)
- Williams, Morris T. (Morris Thomas), 1900-1946 (Pwnc)
- Roberts, Kate, 1891-1985 (Pwnc)
- Plaid Cymru (Pwnc)