Showing 2023 results

Archival description
Only top-level descriptions Fonds
Print preview View:

Cofnodion Cwmni'r Llan a'r Wasg Eglwysig Gymreig Cyf.

  • GB 0210 CWMLAN
  • Fonds
  • 1923-1960

Memorandwm ac Erthyglau'r Cwmni, 1923; cofnodion a phapurau gweinyddol eraill,1923-1960; papurau ariannol, 1946-1960; llyfrau llythyrau a gohebiaeth, 1945-1960; papurau personol a gohebiaeth T.I.Ellis,1944-1960; papurau personol J. Griffith Jones, Caernarfon, 1947-1953; a phapurau yn ymwneud â materion yr Eglwys yng Nghymru. = Memorandum and Articles of Association, 1923; minutes and other administrative papers, 1923-1960; financial papers, 1946-1960; letter books and correspondence, 1945-1960; personal papers and correspondence of T. I. Ellis, 1944-1960; personal papers of J. Griffith Jones, Caernarfon, 1947-1953; and papers relating to Church in Wales matters, 1944-1956.

Llan and Welsh Church Press Company.

Griffith John (Glyn Richards) Papers

  • GB 0210 GRIOHN
  • Fonds
  • 1848-1965

Papers, 1868-1965, of the Reverend Griffith John who served as a missionary in China, including his journal, 1855-1870, letters sent by him to his family, 1886-1907, together with letters, 1961-1965, relating to his commemorative garden in Swansea.

John, Griffith, 1831-1912

CMA: Cofysgrifau Capel Ysgwyddgwyn

  • GB 0210 YSGWGWYN
  • Fonds
  • 1862-1937

Llyfr cyfrifon Eglwys Ysgwyddgwyn, Deri, Sir Forgannwg, 1862-1937.

Ysgwyddgwyn, Deri (Capel)

CMA: Cofysgrifau Capel Salem, Cyffylliog

  • GB 0210 SALECYFF
  • Fonds
  • 1884-2011

Cofysgrifau Capel Salem, Cyffylliog neu Gyffylliog, sir Ddinbych, yn cynnwys cofnodion ariannol, 1884-2011 (yn eu plith Llyfr Casgliad y Weinidogaeth, Bethania, 1899-1910); Llyfr Aelodaeth y Merched, 1889-98; llyfrau cofnodion, 1931-84 (gyda bylchau); llyfrau tocyn aelodaeth, 1930-57; adroddiadau blynyddol, 1956-64 (gyda bylchau); cofnodion yr Ysgol Sul, 1923-2011; ac archwiliad o’r adeiladau, 1989.

Capel Salem, Cyffylliog

CMA: Cofysgrifau Capel Dinam, Nant-y-moel

  • GB 0210 DINAMOEL
  • Fonds
  • 1914-1989

Cofysgrifau Capel Dinam, Nant-y-moel, 1914-89, yn cynnwys cofrestr bedyddiadau, 1919-88, a llyfr cyfraniadau tuag at y Weinidogaeth, 1960-89.

Capel Dinam, Nant-y-moel

Sgriptiau Eric Ellis

  • GB 0210 ERICELLIS
  • Fonds
  • [1950au-1970au]

Archif y diweddar Eric Ellis, Abertawe, Ymgynghorydd Drama Gorllewin Morgannwg, yn cynnwys yn bennaf casgliad o sgriptiau.

Eric Ellis

CMA: Cofysgrifau Capel Trinity, San Clêr

  • GB 0210
  • Fonds

Cofysgrifau Capel Trinity, San Clêr, yn cynnwys cofnodion ariannol, llyfrau tocynnau aelodaeth, a phapurau yn ymwneud â'r adeilad.

Capel Trinity, San Clêr

Papurau Robin Gwyndaf

  • GB 0210 RGWYNDAF
  • Fonds
  • G20fed-G21ain

Rhan gyntaf archif Dr Robin Gwyndaf yn cynnwys ymchwil y rhoddwr ar Catrin o Ferain a’i phedwar gŵr, 1962-65 (yn bennaf), a chasgliad o ddeunydd yn ymwneud â'r Wladfa, 1965-2024; Rhagfyr 2024.
Papurau ychwanegol yn cynnwys deunydd yn ymwneud â gradd Doethur mewn Llên (D.Litt.) y rhoddwr ym maes Astudiaethau Gwerin (Ethnoleg), a llawysgrifau Teuluoedd Llên Uwchaled a gyflwynwyd i ofal y rhoddwr, c. 1964-2000 (darparwyd rhestr gan y rhoddwr); Mehefin 2025.

Gwyndaf, Robin

Papurau D. Huw Owen

  • GB 0210 DHUWEN
  • Fonds

Papurau D. Huw Owen (rhan gyntaf), yn cynnwys ffeil yn ymwneud â chyhoeddi Settlement and Society in Wales (1989); Hydref 2023.
Papurau, 1982-[89], yn ymwneud â'r gyfrol Settlement and Society in Wales (Caerdydd, 1989) a olygwyd gan y rhoddwr, ynghyd â gwahanlithoedd ysgrifau ganddo; Mehefin 2024. Papurau ychwanegol yn cynnwys gohebiaeth a nodiadau yn ymwneud â gweithiau'r rhoddwr, Settlement and society in Wales (1989) a Capeli Cymru (2005), ynghyd â ffeil ynglŷn â sefydlu Addoldai Cymru; Rhagfyr 2025.

Dr. D. Huw Owen

Archif Rhiannon Davies

  • GB 0210 RHNDAV
  • Fonds

Archif y bardd, awdur, cyfieithydd a cherddor Rhiannon Davies (née Williams, 1917-88), yn cynnwys copïau o'i gweithiau cyhoeddedig, sef Cerddi afreolaidd, yn cynnwys llythyrau ac adolygiadau; Y llwynog, yn cynnwys sgript deledu o'r gwaith yn llaw yr awdur; Y brawd, a gyfieithwyd ganddi ar y cyd â T. Ifor Rees, yn cynnwys adolygiad o'r llyfr a nodyn gan Henri Troyat; ac Yr ysgol haf; ynghyd â chopïau wedi'u hargraffu o gerddi ganddi, ffotograffau a theyrngedau.

Papurau Llysgenhadaeth Glyndŵr a Cofiwn

  • GB 0210 LLYSGLYNDWR
  • Fonds

Dogfennau a gohebiaeth yn ymwneud yn bennaf â threfnu gweithgareddau y mudiadau Cofiwn a Llysgenhadaeth Glyndŵr, ynghyd â defnyddiau yn ymwneud â Mudiad Amddiffyn Cymru a mudiadau eraill o'r 1960au.

Papurau R. Elwyn Hughes

  • GB 0210 RELWES
  • Fonds
  • [1660]-2012 (gyda bylchau)

Papurau’r biocemegydd, yr ymgyrchydd iaith, a’r hanesydd gwyddoniaeth R. Elwyn Hughes, [1660]-2012, yn cynnwys papurau’n ymwneud â’i ymchwil gwyddonol ac ar gyfer cyhoeddiadau ar hanes gwyddoniaeth, ynghyd â gohebiaeth. = Papers of R. Elwyn Hughes, biochemist, language campaigner and science historian, [1660]-2012, including papers relating to his scientific research and to publications on the history of science, together with correspondence.

Hughes, R. Elwyn (Richard Elwyn), 1928-

Cofnodion Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru

  • GB 0210 UWCHEFRYD
  • Fonds
  • [1921x1930], a 1970-2017

Gohebiaeth a phapurau, [1921x1930]; 1970-2017, yn ymwneud â sefydlu Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a gweithgareddau'r Ganolfan, ac adran cyntaf Ysgol Astudiaethau Celtaidd Coleg Prifysgol Cymru, y rhan fwyaf yn cynnwys papurau gweinyddol a gohebiaeth gysylltiedig; yn cynnwys llythyrau oddi wrth staff a myfyrwyr y Ganolfan a phrifysgolion a sefydliadau academaidd eraill. Mae’r cofnodion yn cynnwys cofnodion pwyllgorau a chyrff gweinyddol y Ganolfan, a phapurau cysylltiedig, 1977-2017; papurau yn ymwneud â gweithgareddau’r Ganolfan a’i staff, yn cynnwys digwyddiadau, 1974-1994, a gwaith ymchwil a pharatoi cyhoeddiadau, 1980-1993; papurau ariannol, 1972-1991, yn cynnwys papurau yn ymwneud â chodi arian ac Apêl Syr Thomas Parry-Williams, ysgoloriaethau, a cheisiadau am grantiau mewnol ac allanol; a chofnodion yn ymwneud â datblygiad sefydliadol y Ganolfan, [1921]-1993, yn cynnwys rhai cofnodion yr Adran Astudiaethau Celtaidd Coleg Prifysgol Cymru, agoriad swyddogol y Ganolfan, cartrefi’r Ganolfan, materion staffio, a datblygiad Llyfrgell y Ganolfan.

Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru

Papurau Gwilym R. Jones

  • GB 0210 GWMRES
  • Fonds
  • [1930]-[2001]

Papurau Gwilym R. Jones, [1930]-[2001] yn cynnwys cerddi, sgriptiau, straeon byrion, darlithiau, a phapurau yn ymwneud â’i gyfnod yn olygydd Y Faner. = Papers of the poet and journalist Gwilym R. Jones, 1930-[2001], including poems, scripts, short stories, lectures, and papers relating to his work as editor of Y Faner.

Jones, Gwilym R. (Gwilym Richard), 1903-1993

Papurau R. Tudur Jones

  • GB 0210 RTUDES
  • Fonds
  • 1870-2000

Papurau personol y Parchedig Ddr. Robert Tudur Jones (1921-1998). Rhoddwyd y papurau’n rhodd i’r Llyfrgell gan y teulu yn Ebrill 2015, gan rannu archif RTJ rhwng y Llyfrgell Genedlaethol ag Archifdy Prifysgol Bangor. Mae mwyafrif y papurau yn Gymraeg, oni nodir yn wahanol.

Jones, R. Tudur (Robert Tudur)

Papurau Tydfor Jones

  • GB 0210 TYDJONES
  • Fonds
  • [1931]-1993

Papurau'r bardd Tydfor Jones, [1931]-1993, yn cynnwys ei gerddi cynnar, cerddi'r gyfrol Rhamant a hiwmor a Tydfor a gyhoeddwyd yn 1993, ynghyd â phapurau'n ymwneud â Bois y Cilie, yn arbennig ei ewythr John (Tydu) Jones a ymfudodd i Ganada. = Papers of the poet Tydfor Jones, [1931]-1993, comprising his early poems, poems for Rhamant a hiwmor a Tydfor published in 1993, together with papers relating to Bois y Cilie, especially his uncle John (Tydu) Jones who emigrated to Canada.

Jones, Tydfor

Papurau Emlyn Evans

  • GB 0200 EMLEVA
  • Fonds
  • 1908-2014

Papurau Emlyn Evans, 1908-2014, yn ymwneud â'i yrfa yn y byd argraffu a'i weithgarwch ym myd llyfrau pan oedd yn byw yn Llundain, Llandybïe, ac yna'n ddiweddarach pan ddychwelodd i fyw i'w fro enedigol ym Methesda.

Evans, Emlyn, 1923-

Archif Plaid Cymru,

  • GB 0210 PLAMRU
  • Fonds
  • 1915-2016

Cofnodion Plaid Cymru, 1915-1999, yn cynnwys cofnodion, agenda and gohebiaeth y pwyllgor gwaith a phwyllgorau eraill, 1925-1997; gohebiaeth gyffredinol, 1925-1998, gyda nifer o aelodau a swyddogion blaenllaw y blaid; cofnodion, gohebiaeth a phapurau eraill y gwahanol bwyllgorau rhanbarthol, 1925-1997, a changhennau,1930-1992; cofnodion a dogfennaeth y Cyngor Cenedlaethol, 1967-1997; cofnodion ariannol, yn cynnwys rhai papur newydd misol y blaid Y Ddraig Goch a Welsh Nation a Chronfa Gŵyl Ddewi, 1927-1996; rhaglenni a threfniadau ar gyfer cynadleddau ac Ysgolion Haf, 1933-1998; cofnodion aelodaeth, 1930-1996; papurau y Grŵp Ymchwil, [c.1960]-1995; papurau, yn cynnwys areithiau ac effemera, yn ymwneud ag etholiadau, 1929-1999; papurau yn ymwneud ag Adran y Menywod, 1924-1996, a'r Mudiad Ieuenctid, 1964-1998; papurau yn ymwneud â refferendwm datganoli 1979,1969-1983, a refferendwm 1997, a Chynulliad Cymru,1992-1998; papurau yn ymwneud â Y Ddraig Goch, Welsh Nation a chyhoeddiadau eraill, 1932-1996; deunydd printiedig gan Blaid Cymru ac eraill yn cynnwys llyfrau, cyfnodolion a phamffledi,1913-1996; torion o'r wasg, 1924-1996; cylchlythyron, 1938-1992; papurau yn ymwneud â'r Blaid Seneddol,1980-1996; papurau unigolion ac rhai ar wahanol bynciau amrywiol, 1926-1998 = Records of Plaid Cymru, 1915-1999, including minutes, agendas and correspondence of the executive and other committees, 1925-1997; general correspondence, 1925-1998, with many prominent party members and officials; minutes, correspondence and other papers of the various regional committees, 1925-1997, and branches, 1930-1992; minutes and records of the National Council, 1967-1997; financial records, including those of the party's monthly newspaper Y Ddraig Goch and Welsh Nation and Cronfa Gwyl Dewi, 1927-1996; arrangements for and programmes of conferences and Summer Schools, 1933-1998; membership records, 1930-1996; papers of the Grŵp Ymchwil (research group), [c.1960]-1995; papers, including speeches and ephemera, relating to elections, 1929-1999; papers relating to the Adran Menywod (Women's Section), 1934-1996, and the Mudiad Ieuenctid (Youth Movement), 1964-1998; papers relating to the 1979 devolution referendum, 1969-1983, and the 1997 referendum and Welsh Assembly, 1992-1998; papers relating to Y Ddraig Goch, Welsh Nation and other publications, 1932-1996; printed matter by Plaid Cymru and others including books, periodicals and pamphlets, 1913-1996; press cuttings, 1924-1996; circulars, 1938-1992; papers relating to the Parliamentary Party, 1980-1996; papers of individuals and to various miscellaneous topics, 1926-1998.

Dau focs yn cynnwys papurau amrywiol; Awst 2023.

Un bocs yn cynnwys papurau ychwanegol; Mehefin 2024.

Papurau gweinyddol ac ymgynghorol, pamffledi a thapiau VHS; Medi 2024.

Plaid Cymru

Papurau J. W. Jones

  • GB 0210 JWJNES
  • Fonds
  • 1759-1954 (crynhowyd [1920au cynnar?]-1954)

Gohebiaeth, barddoniaeth, rhyddiaith a phapurau teuluol, yn ymwneud â J. W. Jones, 1878-1954, a'i dad, Glan Barlwyd, 1866-1917; deunydd a gasglwyd gan J. W. Jones yn ymnweud ag unigolion a sefydliadau yn ardal Blaenau Ffestiniog, gan gynnwys gohebiaeth, barddoniaeth a phapurau eraill o eiddo Gwilym Deudraeth, 1917-1939, Elfyn, 1874-1917, Y Parch. R. R. Morris, 1883-1933, Alafon, 1875-1915, Llifon, 1899-1916, Isallt, 1887-1913, a Glyn Myfyr, 1893-1937; llythyrau at John Daniel Davies yn rhinwedd ei swydd fel golygydd Y Rhedegydd, 1930-1942; barddoniaeth a phapurau eraill o eiddo T. Gwynn Jones, 1910-1944; barddoniaeth, [1840]-1940, gan amryw feirdd, yn cynnwys Hedd Wyn ac R. Williams Parry; deunydd rhyddiaith amrywiol, peth ohono wedi'i gyhoeddi yn Y Drysorfa ac yn Y Rhedegydd, 1879-1954; llawysgrifau cerddorol, 1876-[c. 1934]; beirniadaethau eisteddfodol, 1870-1939; llyfrau lloffion yn cynnwys torion o'r wasg, [c. 1879]-1940; dyddiaduron, 1864-1935; cofnodion chwareli llechi Blaenau Ffestiniog, 1868-1951; amryw gyfrifon a llyfrau cyfrifon yn ymwneud â gwahanol fusnesau a sefydliadau, 1784-1932; cofnodion yn ymwneud ag eglwysi'r Methodistiaid Calfinaidd, 1840-1951, gan gynnwys rhai Bethel, Tanygrisiau, [1840x1945]; pregethau a nodiadau crefyddol,1846-1952; deunydd printiedig yn cynnwys effemera etholiadol, marwnadau, baledi, carolau ac emynau, 1820-1948; a gweithredoedd a dogfennau yn ymwneud â siroedd Caernarfon, Meirionnydd a Dinbych, 1759-1947. = Correspondence, poetry, prose and family papers, relating to J. W. Jones, 1878-1954, and to his father, Glan Barlwyd, 1866-1917; material collected by J. W. Jones relating to individuals and organizations in the Blaenau Ffestiniog area, including correspondence, poetry and other papers of Gwilym Deudraeth, 1917-1939, Elfyn, 1874-1917, the Rev. R. R. Morris, 1883-1933, Alafon, 1875-1915, Llifon, 1899-1916, Isallt, 1887-1913, and Glyn Myfyr, 1893-1937; letters to John Daniel Davies as editor of Y Rhedegydd, 1930-1942; poetry and other papers of T. Gwynn Jones, 1910-1944; poetry, [1840]-1940, by various poets, including Hedd Wyn and R. Williams Parry; various prose material, some of which was published in Y Drysorfa and Y Rhedegydd, 1879-1954; musical manuscripts, 1876-[c. 1934]; eisteddfod adjudications, 1870-1939; scrapbooks containing press cuttings, [c. 1879]-1940; diaries, 1864-1935; records of Blaenau Ffestiniog slate quarries, 1868-1951; various accounts and account books relating to various trades and organisations, 1784-1932; records relating to Calvinistic Methodist churches, 1840-1951, including those of Bethel, Tanygrisiau, [1840x1945]; sermons and religious notes, 1846-1952; printed material including electoral ephemera, elegies, ballads, carols and hymns, 1820-1948; and deeds and documents relating to Caernarfonshire, Merionethshire and Denbighshire, 1759-1947.

Jones, J. W. (John William), 1883-1954

Papurau W. J. Gruffydd

  • GB 0210 WJGRUFFYD
  • Fonds
  • [1903]-[1952]

Papurau W. J. Gruffydd,[1903]-[1952], yn cynnwys drafftiau o erthyglau'n ymwneud â'r Mabinogi; nodiadau darlith ar gyfer ei gyrsiau Cymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Caerdydd; nodiadau darlithoedd ac erthyglau eraill; sgyrsiau a darlledwyd gan y BBC; personalia; a grŵp sylweddol o ohebiaeth oddi wrth ffigurau llenyddol blaenllaw = Papers of W. J. Gruffydd, [1903]-[1952], including drafts of articles relating to the Mabinogi; lecture notes for his Welsh courses at University College of Wales, Cardiff; other lecture notes and articles; BBC broadcast talks; personalia; and a substantial group of correspondence from notable literary figures.

Gruffydd, W. J. (William John), 1881-1954

Results 1921 to 1940 of 2023