Showing 2023 results

Archival description
Only top-level descriptions Fonds
Print preview View:

CMA: Papurau Meurig Owen

  • GB 0210
  • Fonds

Papurau ymchwil Meurig Owen ar hanes capeli Presbyteraidd (Cymraeg) Llundain, gan gynnwys deunyddiau yn ymwneud â chapeli unigol a'r Henaduriaeth.

Meurig Owen

CMA: Cofysgrifau Capel Willow Tree Road, Altrincham

  • GB 0210
  • Fonds
  • G19eg-G21ain

Cofysgrifau capel Cymraeg Willow Tree Road, Altrincham, yn cynnwys cofnodion ariannol; llyfrau cofnodion cyfarfodydd Swyddogion y capel, y Chwiroydd a'r Pwyllgor Adeiladau; cofnodion yr Ysgol Sul; adroddiadau blynyddol; tocynnau aelodaeth; a hanes yr achos.

Capel Willow Tree Road, Altrincham

CMA: Cofysgrifau Dosbarth Gogledd Ceredigion

  • GB 0210
  • Fonds
  • [G20fed-G21ain]

Cofnodion Pwyllgor Cenhadol Chwiorydd Dosbarth Gogledd Ceredigion. Diddymwyd y Pwyllgor 25 Tachwedd 2024 pan unwyd â'r Dosbarthiadau eraill o dan Bwyllgor Cenhadol yr Henaduriaeth.

Dosbarth Gogledd Ceredigion

Dyddiaduron Plaid Cymru Elfed Roberts

  • GB 0210 ELFDROB
  • Fonds
  • 1973-1998

Pedwar-ar-ddeg o ddyddiaduron, 1973-98, ynghyd ag un gyfrol yn cynnwys crynodebau gwaith, 1974-83, yn ymwneud â swydd y rhoddwr fel trefnydd Plaid Cymru Meirionnydd Nant Conwy ac Arfon dan yr aelodau seneddol Dafydd Elis Thomas, Elfyn Llwyd a Dafydd Wigley.

Roberts, Elfed

Papurau Geraint Bowen

  • GB 0210 GRBWEN
  • Fonds
  • [G20fed-G21ain]

Papurau Dr Geraint Bowen (1915-2011), archdderwydd, bardd, ysgolhaig ac ymgyrchydd, o Dal-y-llyn, Meirionnydd, a Chaeathro, Gwynedd, yn cynnwys papurau a ffotograffau'n ymwneud â Gorsedd y Beirdd; papurau ymchwil a deunydd yn ymwneud â'i gyhoeddiadau; cerddi o'i waith; ffeil o bapurau'n ymwneud â MADRYN (Mudiad Amddiffyn Dynoliaeth Rhag Ysbwriel Niwcliar); a llythyrau oddi wrth unigolion megis Rachel Bromwich, Leonard Clark, Gwynfor Evans, Idris Ll. Foster, I.D. Hooson, D. Gwenallt Jones, Dr Gwenan Jones, Nesta Wyn Jones, Saunders Lewis, T.H. Parry-Williams, Kate Roberts, D.J. Williams, G.J. Williams ac Ifor Williams.

Dr Geraint Bowen

Cofnodion Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn

  • GB 0210 NANTGWRTH
  • Fonds
  • [1974]-[2010]

Gohebiaeth a phapurau, 1891; 1972-2015, yn ymwneud â sefydlu Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn, a datblygu gwasanaethau y Ganolfan Iaith Genedlaethol Nant Gwrtheyrn. Mae’r casgliad yn cynnwys gohebiaeth yr Ymddiriedolwyr, cyfreithwyr, staff, fasnachwyr, dysgwyr, a sefydliadau cysylltiedig eraill, a phapurau cysylltiedig, yn ymwneud â materion ariannol (1978-1994); cofnodion cyfarfod Bwrdd yr Ymddiriedolaeth a phwyllgorau amrywiol yn ymwneud â’r Nant (1980-1992; 1994-2003); cyflogaeth a gwirfoddoli (1980-1993; 1997-2013); marchnata a hysbysebu gweithgareddau, cyrsiau, a chyfleusterau y Ganolfan (1980-1992; 1997-2003); datblygu gwasanaethau y Ganolfan (1972-1997; 2002-2008); a phryniant a gwerthiant Plas Pistyll, ac ymgyfreitha cysylltiedig (1978-1995).

Nant Gwrtheyrn National Language Centre

Papurau Meic Povey,

  • GB 0210 POVEY
  • Fonds
  • 1966-2008

Papurau Meic Povey, 1966-2008, yn cynnwys sgriptiau, 1969-2007; llyfrau nodiadau, 1988-2005; astudiaethau o'i waith, 1988-[1999]; deunydd printiedig, 1968-2007; rhaglenni theatr, 1966-2008; a pheth gohebiaeth, 1968-2008. = Papers of Meic Povey, actor and dramatist, comprising scripts, 1969-2007; notebooks, 1988-2005; studies of his work, 1988-[1999]; printed material, 1968-2007; theatre programmes, 1966-2008; and some personal and work-related correspondence, 1968-2008.

Povey, Meic.

Papurau T. H. Parry-Williams ac Amy Parry-Williams

  • GB 0210 THPAIAMS
  • Fonds
  • 1873-1994

Papurau T. H. Parry-Williams yn ymwneud â'i addysg brifysgol ac fel athro, 1905-1960, teithiau i Dde a Gogledd America, 1925 a 1935, llythyrau oddi wrth deulu, cyfeillion ac amrywiol lenorion, academyddion ac ysgolheigion o Gymru ac Ewrop, 1908-1973, barddoniaeth wedi'i threfnu yn ôl ei ffurf, 1912-1954, ysgrifau,1937-1987, cyfieithiadau ysgrifau, 1987, beirniadaethau eisteddfodol, 1941-1971, darlithiau ac anerchiadau, 1917-1968, sgyrsiau a sgriptiau radio a theledu, 1933-1985, nodiadau ar dafodieithoedd ac enwau lleoedd, 1919-1935, geiriau Cymraeg i gerddoriaeth, 1929-1979, papurau'n ymwneud â'i waith cyhoeddus, 1916-1972, tystysgrifau, anrhydeddau a phersonalia, 1904-1960, cyhoeddiadau, adolygiadau llyfrau a thorion o'r wasg, 1928-1982, deunydd cyhoeddedig, 1865-1975, ac amrywiol, 1919-1994. Hefyd papurau Amy Parry Williams, 1910-1987, yn cynnwys gohebiaeth, 1948-1987, rhaglenni radio a theledu, caneuon gwerin a cherdd dant, storïau, ysgrifau a dramâu, a phapurau'n ymwneud â HTV, ymddiriedolaethau a phwyllgorau. Yn ogystal, papurau Henry Parry-Williams (1858-1925), tad T. H. Parry Williams yn cynnwys gohebiaeth, 1884-1920, barddoniaeth a rhyddiaith, 1891-1917, papur yn ymwneud â Robert R. Williams, Rhyd-ddu, 1876-1973 a Chanolfan Rhyd-ddu, 1972-1979 = Papers of T. H. Parry-Williams relating to his university education and teaching, 1905-1960, travels to South and North America, 1925 and 1935, letters from family, friends and various Welsh and European writers, academics and scholars, 1908-1973, poetry arranged by form, 1912-1954, essays, 1937-1987, translations of essays, 1987, eisteddfodic adjudications, 1941-1971, lectures and talks, 1917-1968, radio and television talks and scripts, 1933-1985, notes on dialects and local names, 1919-1935, Welsh lyrics for music, 1929-1979, papers relating to his public work, 1916-1972, certificates, honours and personalia, 1904-1960, publications, book reviews and press cuttings, 1928-1982, published material, 1865-1975, and miscellaneous, 1919-1994. Also Amy Parry Williams' papers, 1910-1987, including correspondence, 1948-1987, radio and television programmes, folk songs and cerdd dant, stories, writings and drama, and papers relating to HTV, trusts and committees. And also papers of Henry Parry-Williams, (1858-1925) father of T. H. Parry-Williams including correspondence, 1884-1920, poetry and prose, 1891-1917, paper relating to Robert R. Williams, Rhyd-ddu, 1876-1973 and Canolfan Rhyd-ddu, 1972-1979.

Papurau ychwanegol T. H. Parry-Williams, rhoddwyd Rhagfyr 2024:
Papurau o eiddo neu sydd yn cyfeirio'n uniongyrchol at y bardd, llenor ac ysgolhaig T. H. Parry-Williams, gan gynnwys deunydd yn ymwneud â'i safiad fel gwrthwynebydd cydwybodol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ei lwyddiant yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1915, ei gyfnod astudiaeth yn Freiburg a Pharis, 1911-1913, a'i daith i Dde America yn haf 1925; barddoniaeth gan neu wedi'i gyfeirio at Parry-Williams; a gohebiaeth deuluol a chyffredinol. = Papers of or which directly reference the poet, writer and academic T. H. Parry-Williams, comprising material relating to his conscientious objection during the First World War, his winning the Crown at Bangor National Eisteddfod 1915, his period of study in Freiburg and Paris, 1911-1913, and his trip to South America in the summer of 1925; poetry by or addressed to Parry-Williams; and correspondence between family members and others.
Canfuwyd y casgliad yma yn atig 'Wern', Ffordd y Gogledd, Aberystwyth, cartref olaf T. H. Parry-Williams. = This collection was discovered in the attic of 'Wern', North Road, Aberystwyth, T. H. Parry-Williams's last home.

Parry-Williams, T. H. (Thomas Herbert), Sir, 1887-1975

Eisteddfod Genedlaethol Cymru: cyfansoddiadau a beirniadaethau

  • GB 0210 CYFANS
  • Fonds
  • 1887-2019 (gyda bylchau)

Cyfansoddiadau amrywiol a gyflwynwyd i gystadlaethau llenyddol a cherddorol Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 1887-2019. Yn eu plith ceir awdlau, pryddestau, cywyddau, englynion, englynion ysgafn, baledi, sonedau, straeon byrion, blogiau, llên meicro a dramâu. Ceir gweithiau ar gyfer y Fedal Ryddiaith, Gwobr Daniel Owen, Ysgoloriaethau Emyr Feddyg a Geraint Morris, ynghyd ag emyn-donau a chyfansoddiadau Tlws y Cerddor a chyfansoddi dawns. Cyflwynwyd cystadlaethau i ieuenctid a chystadleuaeth y gadair a thlws rhyddiaith i ddysgwyr ac i'r rhai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes. = A variety of literary and musical compositions entered at National Eisteddfodau, 1887-2018, including odes and poetry in free metre, ballads, short stories, blogs, micro literature and plays. Entries for the Prose Medal, Daniel Owen Memorial Prize, Emyr Feddyg and Geraint Morris Scholarships, together with musical compositions such as the Musicians' Medal, hymn-tunes and dance composition are also included. Competitions for young people, Welsh learners including a chair and prose competition and a competition for those who have lived in Patagonia throughout their lives have been introduced.

Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Papurau Carneddog

  • GB 0210 CARNEDDOG
  • Fonds
  • 1743-1947 (crynhowyd c.1880]-1947) /

Papurau Carneddog a rhai a gasglwyd ganddo, 1743-1947, yn cynnwys rhyddiaith a barddoniaeth ganddo ef ac eraill ar gyfer eu cyhoeddi, yn cynnwys colofn 'Manion o'r Mynydd'; torion papur newydd o'i waith ef ac eraill; gwaith gan awduron adnabyddus a gasglodd, yn eu mysg cerddi David W. Morris ('Dewi Glan Dulas', 1853-95) a dyfyniadau cywyddwyr; ei nodiadau bywgraffiadol ar awduron; papurau personol a theuluol, yn cynnwys llythyrau a anfonwyd ganddo o Iwerddon, pan oedd yn gwella o salwch yn 1899; swm sylweddol o ddeunydd yn ymwneud â hanes Beddgelert a phlwyfi cyfagos, yn cynnwys llyfrau lloffion gyda nodiadau llawn, copi llawysgrif o hanes Beddgelert a nifer o deuluoedd lleol, a llyfr rent Carneddi, 1743-1832; a nifer fawr o lythyrau at Garneddog, llawer ohonynt yn ymwneud â'i golofn yn yr Herald, a hefyd yn cynnwys llythyrau gan awduron Cymreig a llythyrau o UDA ac Awstralia. = Papers, 1743-1947, of and collected by Carneddog, comprising prose and poetry by him and others towards publications including the 'Manion o'r Mynydd' column; newspaper cuttings of his own work and that of others; works by well-known authors collected by him, including poems of David W. Morris ('Dewi Glan Dulas', 1853-95) and quotations from the cywyddwyr; biographical notes by him on authors; personal and family papers, including letters sent by him from Ireland, where he was recuperating from illness in 1899; a considerable amount of material relating to the history of Beddgelert and neighbouring parishes, including fully annotated scrapbooks, a manuscript history of Beddgelert and of several local families, and a rent book from Carneddi, 1743-1832; and a large number of letters to Carneddog, many of them relating to his column in the Herald, and also including letters of Welsh authors and letters from the USA and Australia.

Carneddog, 1861-1947

Papurau'r Parch. J. Dyfnallt Owen

  • GB 0210 JDYFWEN
  • Fonds
  • 1863-1956

Papurau o eiddo J. Dyfnallt Owen neu a grynhowyd ganddo, 1863-1956, yn cynnwys pregethau; nodiadau bywgraffyddol ar weinidogion anghydffurfiol; llythyrau a phapurau eraill yn ymwneud ag achos yr Annibynwyr, 1863-1953; llythyrau amrywiol pellach, 1878-1956, rhai ohonynt yn cyfeirio at yr Orsedd yn Llydaw a Chernyw; dyddiaduron, 1897-1956; cyfraniadau ar gyfer eu cyhoeddi yn Y Tyst, etc., 1923-[1953]; sgriptiau radio, 1931-1955; pregethau, 1919; torion o'r wasg, [1872]-1954; dyddlyfrau taith, a nodiadau ar bynciau hanesyddol a llenyddol, 1901-1953. = Papers of and accumulated by J. Dyfnallt Owen, 1863-1956, including sermons; biographical notes on nonconformist ministers; letters and other papers concerning the Independent cause, 1863-1953; further miscellaneous letters, 1878-1956, some of which refer to the Gorsedd in Brittany and Cornwall; diaries, 1897-1956; contributions for publication in Y Tyst, etc., 1923-[1953]; radio scripts, 1931-1955; sermons, 1919; press cuttings, [1872]-1954; travel journals, and notes on historical and literary subjects, 1901-1953.

Dyfnallt, 1873-1956.

Archifau'r Bwrdd Ffilmiau Cymraeg

  • GB 0210 BWRDDFFILM
  • Fonds
  • 1970-1991

Cofnodion Bwrdd Ffilmiau Cymraeg, 1970-1991, yn cynnwys papurau gweinyddol, gohebiaeth gyffredinol, gohebiaeth yn ymwneud â chynhyrchu ffilmiau i'r Bwrdd, a phapurau a gohebiaeth yn ymwneud â phynciau ariannol,1972-1986, gan cynnwys cofnodion y Bwrdd, 1970-1972, dan yr enw Panel Ffilmiau Cymraeg Gregynog; a chofnodion ariannol,1986-1991. = Records of Bwrdd Ffilmiau Cymraeg, 1970-1991, comprising administrative papers, general correspondence, correspondence relating to the production of films for the Board, and papers and correspondence relating to financial matters, 1972-1986, and including minutes of the Board for 1970-1972, under the name Panel Ffilmiau Cymraeg Gregynog; and financial records, 1986-1991.

Bwrdd Ffilmiau Cymraeg.

Papurau Gwynfor

  • GB 0210 GWYFOR
  • Fonds
  • [c. 1889]-1969

Papurau Thomas Owen Jones (Gwynfor), [c. 1889]-1969, yn cynnwys gohebiaeth, llyfrau nodiadau, dyddiadur, dramâu, storiâu, cerddi, traethodau, sgyrsiau a darlithoedd, adroddiadau a thorion o'r wasg yn ymwneud â Gwynfor a byd y ddrama yng Nghymru, a chopïau o gerddi a anfonwyd ato gan Thomas Gwynn Jones (1871-1949), Robert Williams Parry (1884-1956), ac eraill; ynghyd â llythyrau at Madge Jones,1941-1969, ynglŷn â Gwynfor a'i waith. = Papers of Thomas Owen Jones (Gwynfor), [c. 1889]-1969, comprising correspondence, notebooks, a diary, plays, stories, poems, essays, talks and lectures, reports and press cuttings relating to Gwynfor and the drama movement in Wales, and copies of poems addressed to him by Thomas Gwynn Jones (1871-1949), Robert Williams Parry (1884-1956), and others; together with letters to Madge Jones, 1941-1969, concerning Gwynfor and his work.

Gwynfor, 1875-1941

Papurau O. Llew Owain

  • GB 0210 OLEWOWAIN
  • Fonds
  • 1785-[c. 1955]

Papurau O. Llew Owain, 1785-[c. 1955], yn cynnwys llythyrau a phapurau yn ymwneud yn bennaf ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Eisteddfod yr Urdd, a Gorsedd Beirdd Ynys Prydain, 1901-1951; ceisiadau am swyddi, 1939-1947; gweithiau Owain Llew Owain, 1912-1951; deunydd ar gyfer Y Genedl, 1924-1939; llythyrau, llyfrynnau a thorion amrywiol yn ymwneud ag agweddau ar fywyd a llenyddiaeth Gogledd Cymru, 1858-1950; llyfrau lloffion o dorion papur newydd, 1865-1940, yn cynnwys caneuon etholiadol, am David Lloyd George yn bennaf, teyrngedau i Syr John Morris Jones, torion o Y Genedl ac eitemau yn ymwneud â barddoniaeth Gymraeg; llawysgrifau a phapurau, 1785-[c.1955], o lyfrgell O. Llew Owain, yn cynnwys traethodau eisteddfodol ac arall, llawysgrifau o ddiddordeb i sir Gaernarfon a gohebiaeth. = Papers of O. Llew Owain, 1785-[c. 1955], comprising letters and papers mainly concerning Eisteddfod Genedlaethol Cymru (National Eisteddfod), Eisteddfod yr Urdd, and Gorsedd Beirdd Ynys Prydain, 1901-1954; job applications, 1939-1947; works of Owain Llew Owain, 1912-1951; material for Y Genedl, 1924-1939; miscellaneous letters, booklets and cuttings concerning aspects of North Wales life and literature, 1858-1950; scrap books of press cuttings, 1865-1940, including election songs mainly about David Lloyd George, tributes to Sir John Morris Jones, cuttings from Y Genedl and items relating to Welsh poetry; manuscripts and papers, 1785-[c. 1955], from the library of O. Llew Owain, including eisteddfod and other essays, manuscripts of Caernarfonshire interest and correspondence.

Owain, O. Llew (Owain Llewelyn)

Papurau Ap Nathan

  • GB 0210 APNATHAN
  • Fonds
  • 1868-1959 (crynhowyd [c. 1905]-1959)

Papurau'r Parch James Ednyfed Rhys (Ap Nathan), a phapurau'r unigolion canlynol a ddaeth i'w feddiant: y Parch. Evan Rees (Dyfed), Jonathan Rees (Nathan Wyn), David Watkin Jones (Dafydd Morganwg) a Thomas Jones, Trealaw. Mae papurau Ap Nathan, 1901-1959, yn cynnwys cerddi a chaneuon, ysgrifau a chyfieithiadau; papurau Dyfed, 1869-1923, yn cynnwys llythyrau, nifer ohonynt o bwysigion llenyddiaeth Cymru, 1878-1923, dyddiaduron a llyfrau poced, 1873-1896, beirniadaethau eisteddfodau, 1887-1907, nodiadau darlithoedd a phregethau, a barddoniaeth, 1869-1899; papurau Nathan Wyn, 1874-1905, yn cynnwys llythyrau, 1874-1905, cerddi ac ysgrifau, 1883-1901, torion o'r wasg ar bynciau llenyddol, 1868-1900; papurau Thomas Thomas, 1900-[c. 1935], yn cynnwys llawysgrifau ar lên gwerin ac arferion, hanes Morgannwg, 1921-1933, y Wenhwyseg, enwau lleoedd Morgannwg, [c. 1893]-1931, a thorion o'r wasg, 1900-1911; a phapurau Dafydd Morganwg, yn cynnwys ei hunangofiant. = Papers of the Rev. James Ednyfed Rhys (Ap Nathan), and papers of the following acquired by him: the Rev. Evan Rees (Dyfed), Jonathan Rees (Nathan Wyn), David Watkin Jones (Dafydd Morganwg), a poet and historian from Merthyr Tydfil, Glamorgan, and Thomas Jones, antiquary and headmaster of Trealaw school in Rhondda, Glamorgan, whose interests included local history and folklore. The papers of Ap Nathan, 1901-1959, include poems and songs, essays and translations; the papers of Dyfed, 1869-1923, include letters, many from important Welsh literary figures, 1878-1923, diaries and pocket books, 1873-1896, eisteddfod adjudications, 1887-1907, lecture notes and sermons, and poetry, 1869-1899; the papers of Nathan Wyn, 1874-1905, include letters, 1874-1905, poetry and essays, 1883-1901, newspaper cuttings of literary material, 1868-1900; the papers of Thomas Jones, 1900-[c. 1935], include manuscripts on folklore and customs, Glamorgan history, 1921-1933, the Gwentian dialect, Glamorgan place names, [c. 1893]-1931, and newspaper cuttings, 1900-1911; and the papers of Dafydd Morganwg, historian and poet, including his autobiography.

Ap Nathan, 1876-1960

Papurau Undeb Cymru Fydd

  • GB 0210 UNDYDD
  • Fonds
  • 1938-1991

Papurau Undeb Cymru Fydd, yn cynnwys cofnodion, 1939-1966, gohebiaeth, 1944-1955, a chofnodion eraill y Cyngor, 1945-1963; papurau'n ymwneud â Phwyllgor Amddiffyn Diwylliant Cymru a ffurfio Undeb Cymru Fydd, 1939-1942; cofnodion a phapurau'r Pwyllgor Gwaith, 1943-1969; cofnodion ariannol, 1939-1970, yn cynnwys papurau'r Pwyllgor Ariannol, 1957-1966; cofnodion yn ymwneud â Phwyllgor Cronfeydd Deddf yr Eglwys yng Nghymru, 1953-1970; papurau'n ymwneud â'r Pwyllgor Llyfrau a chyhoeddiadau gan gynnwys Yr Athro a' calendr, 1944-1970; papurau Pwyllgor y Merched a Llythyr Ceridwen, 1955-1969; cofnodion amrywiol ganghenau, 1940-1956; papurau'n ymwneud â'r cynadleddau blynyddol, 1939-1964; papurau a gohebiaeth gyffredinol o'r brif swyddfa, 1941-1970; papurau, 1942-1948, a chofnodion, 1943-1947, Cyd Bwyllgor Undeb Cymru Fydd a'r Eglwysi; torion o'r wasg, 1939-1952; atebion i holiadur 'Ymchwil Undeb Cymru Fydd i Gyflwr Bywyd Cymdeithasol Cymru', 1943; papurau'n ymwneud ag ymgyrch Senedd i Gymru, 1950-1957; papurau'n ymwneud â materion ynglŷn â'r cyfryngau ac ymgyrchoedd, 1945-1963; papurau ynglŷn â'r iaith Gymraeg, yn enwedig mewn perthynas ag addysg, 1947-1964; papurau'r Pwyllgor Addysg, 1944-1963; papurau'n ymwneud ag Eisteddfodau Cenedlaethol, 1947-1968; papurau'n ymwneud â meddiannu tir gan y llywodraeth (Mynydd Epynt, Tryweryn, a thiroedd eraill) ac ynghylch dŵr, 1940-1958; copïau o Cofion Cymru, 1941-1946; copi llawysgrif y gyfrol Undeb Cymru Fydd 1939-1960 (1960) gan T. I. Ellis; a llythyrau at Ymddiriedolaeth Undeb Cymru Fydd. = Papers of Undeb Cymru Fydd, including minutes, 1939-1966, correspondence, 1944-1955, and other records, 1945-1963, of the Council; papers relating to Pwyllgor Amddiffyn Diwylliant Cymru and the formation of Undeb Cymru Fydd, 1939-1942; minutes and papers of the Executive Committee, 1943-1969; financial records, 1939-1970, including papers of the Financial Committee, 1957-1966; records relating to the Welsh Church Act Funds Committee, 1953-1970; papers relating to the Books Committee and publications including Yr Athro and the calendar, 1944-1970; papers of the Women's Committee and Llythyr Ceridwen, 1955-1969; records of various branches, 1940-1956; papers relating to the annual conferences, 1939-1964; general papers and correspondence from the main office, 1941-1970; papers, 1942-1948, and minutes, 1943-1947, of the Joint Committee of Undeb Cymru Fydd and the Churches; press cuttings, 1939-1952; replies to the questionnaire 'Ymchwil Undeb Cymru Fydd i Gyflwr Bywyd Cymdeithasol Cymru' (Survey of the condition of social life in Wales), 1943; papers relating to the Parliament for Wales campaign, 1950-1957; papers relating to media issues and campaigns, 1945-1963; papers concerning the Welsh language, particularly in relation to education, 1947-1964; papers of the Education Committee, 1944-1963; papers relating to the National Eisteddfodau, 1947-1968; papers relating to government requisition of land (Mynydd Epynt, Tryweryn, and other land) and water issues, 1940-1958; copies of Cofion Cymru, 1941-1946; manuscript of the volume Undeb Cymru Fydd 1939-1960 (1960) by T. I. Ellis; and letters to the Undeb Cymru Fydd Trust, 1967-1991.

Undeb Cymru Fydd.

Papurau Llywelyn Phillips

  • GB 0210 LLYIPS
  • Fonds
  • 1864-1982 (crynhowyd 1933-1982)

Papurau Llywelyn Phillips,1864-1982, yn cynnwys gohebiaeth, 1937-1981; erthyglau, darlithoedd, anerchiadau a chyfansoddiadau llenyddol,1933-1980; papurau amrywiol yn ymwneud â'i yrfa, pynciau amaethyddol, bywyd a llenyddiaeth Cymru, 1864-1952; llyfrau lloffion o dorion,1949-1956; cerddi, gan gynnwys y rhai a gyflwynodd i eisteddfodau a chyfansoddiadau ar gyfer achlysuron arbennig, 1957-1981; erthyglau amrywiol a sgriptiau radio,1940-1981; teyrngedau i Llywelyn Phillips,1864-1982; a gweithiau printiedig,1954-1981 = Papers of Llywelyn Phillips, 1864-1982, including correspondence, 1937-1981; articles, lectures, addresses and literary compositions, 1933-1980; miscellaneous papers relating to his career, agricultural matters, Welsh life and literature, 1864-1952; scrap books of cuttings, 1949-1956; poems, including those submitted for eisteddfodau and compositions for special occasions, 1957-1981; miscellaneous articles and radio scripts, 1940-1981; tributes to Llywelyn Phillips, 1981-1982; and printed works, 1954-1981.

Phillips, Llywelyn, d. 1981.

Cofnodion Cymdeithas Edward Llwyd

  • GB 0210 CYMEDLLW
  • Fonds
  • 1981-2002

Cofnodion Cymdeithas Edward Llwyd, yn cynnwys: cyfansoddiad y Gymdeithas; cofnodion cyfarfodydd blynyddol; cofnodion y Pwyllgor Gwaith, yr Is-bwyllgor Monograffig, yr Is-bwyllgor Marchnata, yr Is-bwyllgor Enwau a Thermau, ac Is-bwyllgor yr Amgylchedd; gohebiaeth; ceisiadau am grantiau; papurau ariannol; a phapurau aelodaeth. = Records of Cymdeithas Edward Llwyd (the Edward Llwyd Society), including: the Society's constitution; minutes of annual meetings; records of the Working Committee, the Monographic Sub-Committee, the Marketing Sub-Committee, the Names and Terms Sub-Committee, and the Environment Sub-Committee; correspondence; applications for grants; financial papers; and membership papers.

Cymdeithas Edward Llwyd

Papurau D. T. Davies

  • GB 0210 DTDAVIES
  • Fonds
  • 1913-1961

Papurau David Thomas Davies, 1913-1961, yn cynnwys copïau llawysgrif a theipysgrif o ddramâu cyhoeddedig a rhai nas cyhoeddwyd, a hefyd ei gyfieithiadau Saesneg a Chymraeg o ddramâu, ynghyd â llyfr lloffion, gohebiaeth, a deunydd arall yn ymwneud â'i yrfa fel dramodydd. = Papers of David Thomas Davies, 1913-1961, including manuscript and typescript copies of published and unpublished plays, and also his English and Welsh translations of plays, together with a scrapbook, correspondence, and other material relating to his career as a dramatist.

Derbyniwyd papurau ychwanegol, 1913-[1959], yn cynnwys sgriptiau teledu a radio, cytundebau cyhoeddi, nodiadau ar Twm o’r Nant a dramâu Groegaidd, ynghyd â phortread o D. T. Davies mewn olew, ffotograffau teuluol a chartwnau, yn Hydref 2013.

Davies, D. T. (David Thomas), 1876-1962

Results 1981 to 2000 of 2023