Perfformiad o'r ddrama Blodeuwedd,
- NLW Facs 1017.
- file
- 2007.
Llungopi o raglen y ddrama Blodeuwedd gan Saunders Lewis a berfformiwyd gan Chwaraewyr Garthewin ar gyfer Undeb Drama’r Gogledd yn [1948].
2 results with digital objects Show results with digital objects
Perfformiad o'r ddrama Blodeuwedd,
Llungopi o raglen y ddrama Blodeuwedd gan Saunders Lewis a berfformiwyd gan Chwaraewyr Garthewin ar gyfer Undeb Drama’r Gogledd yn [1948].
Casgliad o sgriptiau a geiriau sioeau cerdd, gwreiddiol ac addasiadau, a berfformiwyd yng Nghymru mewn eisteddfodau cenedlaethol a'r Urdd yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys 'Ffantasmagoria', 'Olifar', 'Streic!', 'Wilco', 'Inc yn y gwaed', 'Hersprê' a 'Y seren ddwyfol'. Aled Lloyd Davies a fu'n gyfrifol am lawer iawn o'r geiriau.
Davies, Aled Lloyd.
Cyfrol o gerddi gan Ioan Anwyl,
Cyfrol o gerddi llawysgrif gan Ioan Anwyl (John Anwyl, ?1841-1921), a gyfansoddwyd rhwng 1866 a 1909.
Ioan Anwyl, 1841?-1921.
Cardiau yn rhestru aelodau'r Cylch Catholig yng Nghymru a thu allan i Gymru, 1989-1999.
Llyfr nodiadau Garfield Hughes,
Nodiadau'n cymharu ffurfiau ieithyddol a gramadeg yn yr iaith Gymraeg, Llydaweg a Chernyweg, [1932x1968].
Hughes, Garfield H.
Papurau'n ymwneud â'r Hen Gapel, Llanbrynmair,
Casgliad bychan o bapurau yn ymwneud â'r Hen Gapel (Annibynwyr), Llanbrynmair, gan gynnwys rhestr testunau 'eisteddfod fawreddog' a gynhaliwyd yn ysgoldy'r eglwys yn 1874, a llythyr oddi wrth Abraham Thomas, Iowa, 1882, at John Brees, Brynderwen, Llanbrynmair.
Llungopi o gyfarchiad Bryfdir i'r Parchedig E. Mornant Jones, gweinidog newydd Bethel, Nantymoel, ar achlysur ei briodas gyda Miss Lily Evans, Caerfyrddin, 15 Medi 1936, a hefyd copi o ffotograff o'r Parch. E. Mornant Jones.
Bryfdir, 1867-1947
Teipysgrif o lyfr gan Bob Owen, Croesor, a gyhoeddwyd ym 1943, gydag olion cywiro drwyddo yn llaw Iorwerth Peate a Thomas Parry. [Ceir hanes ysgrifennu'r llyfr yn Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Lenyddol 1941 (Hen Golwyn), tud. 141, a hefyd yn Rhagair T[homas] Parry i'r llyfr].
Owen, Bob, 1885-1962
Naw llyfrau darllen bychan: 'Sam a Ben' (I-iii); 'Sam a Ben a Tomi' gan Miss Megan Thomas, Abersoch; 'Lipti Lop yn y bocs'; 'Lipti Lop yn y bath'; 'Lipti Lop yn mynd I'r gwely'; 'Y Llygoden Fach Wen'; 'Dilys a'r Dewin' gan Mrs C. Grainger Smith.
Thomas, Megan.
Bocs Pen-blwydd Cwmni Theatr Arad Goch yn Ugain Oed. Bocs mawr lliwgar yn cynnwys deunyddiau amrywiol i ddathlu pen-blwydd Arad Goch yn 20 oed.
Cwmni Theatr Arad Goch.
Pregethau cynnar, 1746-1786, gan awdur anhysbys. = Early sermons, 1746-1786, by an unknown author.
Nodiadau pregeth gan John Jones, Tal-y-sarn,
Traethawd 'Trem ar Hanes Eglwys yr Annibynwyr, Seilo, Llanfair Caereinion',
Erthygl ar 'Thomas Jones, Caerfyrddin, Yr Esboniwr' gan Glyn Ashton,
Copi holograff o erthygl Dr Glyn Ashton, 'Thomas Jones, Caerfyrddin, Yr Esboniwr (1761-1831)' a gyhoeddwyd yn Y Traethodydd, Ebrill 1980, tt. 97-112. = Holograph copy of article on 'Thomas Jones, Caerfyrddin, Yr Esboniwr (1761-1831)' by Glyn Ashton, published in Y Traethodydd, April 1980, pp. 97-112.
Mantolen 'Unol Gymdeithas yr Hen Barch. Daniel Rowland, Llangeitho',
Balance sheet 'Unol Gymdeithas yr Hen Barch. Daniel Rowland, Llangeitho'.
Torion papur newydd Clwb yr Efail, Llanrwst,
Llyfr nodiadau yn cynnwys torion papur newydd wedi'u pastio mewn i'r gyfrol, rhaglenni, ayb, yn ymwneud â gweithgareddau Clwb yr Efail, Llanrwst, sir Ddinbych, 1951-1953. = A notebook containing pasted-in newspaper cuttings, printed programmes, etc., relating to the activities of Clwb yr Efail, Llanrwst, Denbighshire, 1951-1953.
Llawysgrif gerddorol anthem 'Hollalluog Dduw' gan J. Raymond Williams, Rhiwabon, i eiriau Colect Dydd Gŵyl Dewi Sant, ar gyfer baritôn, côr ac organ. Fe'i perfformiwyd gan Gôr Coleg Sant Ioan, Caergrawnt, dan arweiniad George Guest, adeg dathlu pedwarcanmlwyddiant cyfieithu’r Beibl yn 1988, ynghyd â rhaglen o’r daith a drefnwyd. = Music manuscript of the anthem 'Hollalluog Dduw' [Almighty God] by J. Raymond Williams, Ruabon, set for baritone solo, choir and organ, performed by the Choir of St John’s College, Cambridge, conducted by George Guest, to celebrate the four hundredth centenary of the translation of the Bible into Welsh (1588-1988), together with a programme of the tour.
Williams, J. Raymond.
Cofnodion yn ymwneud ag Eglwys yr Woodlands, Penbedw, yn cynnwys llyfrau cofnodion, 1936-1983, llyfrau yn ymwneud â chasgliadau tuag at y genhadaeth, 1937-1982, ynghyd â rhestr deipiedig o'r rhai gafodd eu bedyddio, 1870-1957. = Records relating to the Welsh Baptist Church, the Woodlands, Birkenhead, comprising three minute books 1936-1983, two collectiont books of the Baptist Missionary Society, 1937-1982, together with a typescript list of baptisms, 1870-1957.
Papurau, 1915-1918, a drosglwyddwyd o Gasgliad Llyfrau LlGC (gynt Ystafell Summers A96) yn deillio o gyfnod David Evans yn garcharor sifil yng ngwerysll Ruhleben ger Berlin. Maent yn cynnwys taflenni a gyhoeddwyd yn y gwersyll yn hysbysebu gwersi, darlithiau a gweithgareddau cymdeithasol. Sefydlwyd ysgol y gwersyll yn 1915 a David Evans oedd pennaeth Astudiaethau Celtaidd. Cyhoeddwyd erthygl 'Y Gymraeg ym 'Mhrifysgol Ruhleben'' gan David Thorne yng Nghylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Gweler hefyd NLW ex 2495 sy'n cynnwys papurau'n ymwneud â chyfnod y Capten Rowland Humphreys (ganwyd yn 1879) yn y gwersyll. = Papers, 1915-1918, transferred from NLW's Book Collection (formerly Summers Room A96) deriving from the time David Evans spent in Ruhleben camp near Berlin as a civilian prisoner. The papers include leaflets printed by the camp’s press advertising Welsh lessons taught by him, lectures and social events. The camp school was established in 1915 and David Evans was the head of Celtic studies. An article in Welsh has been written by David Thorne on the Welsh language in the 'University of Ruhleben' which was published in the National Library of Wales journal, Summer 1999. See also NLW ex 2495 which relates to the period Captain Rowland Humphreys (born 1879) spent in the camp.
Evans, David, 1886-1968
Papurau Richard Hughes ( 'Co Bach'),
Sgriptiau dramâu'r BBC, c. 1948-1963, y bu Richard Hughes, awdur adroddiadau a sgriptiau doniol, yn cymryd rhan ynddynt, gan gynnwys y sgriptiau radio 'Llywelyn Fawr', 1951, 'Gŵr Pen y Bryn', 1952, a 'Traed mewn cyffion, 1953, a sgript deledu, 1963, ynghyd â darnau a luniwyd ganddo yn iaith y Cofi (gweler Gruffudd Parry, Co Bach a Hen Fodan a Wil (Llanrwst, 2002)).
Hughes, Richard, Co Bach, 1905-1997.