Llyfr nodiadau, [?1897], yn cynnwys cerddi amrywiol, gan gynnwys enghraifft wych o gerdd hir yn nhraddodiad yr arwrgerdd yn dwyn y teitl 'Brawdoliaeth gyffredinol', o bosib gan William Davies, Bronheulwen, Llanidloes ['Brawdoliaeth gyffredinol' oedd testun yr awdl yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 1897].
Cofnod o gyfarfod i ddathlu cyfraniadau Roy Saer a Robin Gwyndaf i fyd traddodiadau gwerin rhwng 1964 a 2013, a luniwyd gan Robin Gwyndaf, Amgueddfa Werin Cymru, 2 Tachwedd 2013, mewn teipysgrif.
Casgliad o bapurau amrywiol yn ymwneud â Chymdeithas yr Iaith Gymraeg a Phlaid Cymru, wedi eu casglu ynghyd gan Meri Huws yn ystod y 1970au fel myfyrwraig ym Mhrifysgol Aberystwyth ac fel ymgyrchydd iaith ac yn adlewyrchu ei diddordebau gwleidyddol.
Llawysgrif dwy sioe gerdd: 'Culhwch ac Olwen' [gan Rhiannon Ifans] a 'Dŵr' [sioe am hanes Tryweryn gan Bethan Bryn a Jeremy Turner a berfformiwyd yng Ngŵyl Gerdd Dant Aberystwyth, 2003], gyda rhai gosodiadau cerdd dant.
Casgliad o sgriptiau rhaglenni nodwedd a luniwyd gan Eluned Phillips ar gyfer y BBC yn ystod y 1950au a 1960au, gan gynnwys 'Yd y wlad', 'Rheolwr y banc' a 'Diwrnod ffair'.
Emyn-donau gan William James yn bennaf, [1904]-[1960], gan gynnwys 'Pen yr yrfa' a Gogoniant i Dduw-Tangnefedd i ddynion sef carol Nadolig wedi'i hargraffu. Bu'n godwr canu yn eglwys y Methodistiad Calfinaidd yn Salem, Aberystwyth, a chyfansoddodd nifer o emyn-donau i'r eglwys, ynghyd â llyfr yn dwyn y teitl ''Tônau arbenig'. Credir fod y llawysgrifau'n perthyn i organydd yr eglwys.
Tair cyfrol yn cynnwys toriadau papur newydd o golofnau'r Faner a'r Cymro'n ymwneud â gloywi iaith a garddio. Ceir torion hefyd yn ymwneud â D. Tecwyn Evans ac o'i golofn 'Gloywi'r iaith' yn Y Faner. Yr oedd y diweddar Anthony Goulty, Sais o gyfreithiwr ym Manceinion, wedi dysgu Cymraeg yn rhugl ac yn aelod o Gymdeithas Gymraeg Caer. Bu'n weithgar iawn yn ogystal gyda Sain Clwyd Sound, sef grŵp o weithwyr gwirfoddol, gan gynnwys y rhoddwr, a oedd yn cyfarfod yn stiwdio Sain Clwyd yn rheolaidd i wneud tapiau i'r Deillion.
Llyfr cyfrifon ariannol, 1944-1945, Cymdeithas Gymraeg Napoli, a fu ym meddiant diweddar dad y rhoddwr pan oedd yn filwr yn yr Eidal yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Copi ffotostat o doriad o'r Pacific Tribune (1 Mawrth 1978), sef hanes marwolaeth Rees Brongwyn Williams (1891-1978) o Ilwaco, Pacific County, Washington, ynghyd â nodiadau ar hanes ei deulu a ymfudodd i'r Amerig o ardal Cwmtudu, Ceredigion, yn ystod ail hanner y ganrif ddiwethaf. = Photocopy of a cutting from the Pacific Tribune (1 March 1978), concerning the death of Rees Brongwyn Williams (1891-1978) of Ilwaco, Pacific County, Washington, together with notes on the history of his family who emigrated to America from the Cwmtudu area, Ceredigion, during the second half of the last century.
Ystadegau ynglŷn â gwahanol gylchoedd mewn cyswllt â Chronfa Ad-drefnu Undeb y Bedyddwyr. = Statistics relating to various areas in connection with the Baptist Union Reconstruction Fund.
Dau lythyr oddi wrth y Parch. Henry Evans, Penrhyn-coch, at y Parch. J. T. Griffith, ac un oddi wrth J. T. Griffith at Henry Evans. = Two letters from the Reverend Henry Evans, Penrhyn-coch, to the Reverend J. T. Griffith, and one from J. T. Griffith to Henry Evans.
Cyfansoddiadau’r Parch. Gwilym Morris, [1937]-[1988], enillydd cyson mewn eisteddfodau cenedlaethol ac eisteddfodau lleol ledled Cymru a sgriptiwr dramâu radio. Ceir cerddi ac ysgrifau ganddo a nodir ar y mynegeion a ddarparwyd os yw'r ysgrifau wedi'u cyhoeddi yn ei gyfrol Yr enfys drwy y glaw (Abertawe, 1981), ynghyd â bywgraffiad ohono gan ei ferch.