Copi o'r gerdd 'Palmwydd a Helyg' gan, ac yn llaw, Jonathan Machreth Rees (1855-1911). = Copy of the poem 'Palmwydd a Helyg' by, and in the hand of, Jonathan Machreth Rees (1855-1911).
Papurau'r Parch. J. Caradog Williams yn ymwneud yn bennaf â'i waith fel gweinidog gyda'r Annibynwyr, gan gynnwys dau lythyr, 1942-1944, oddi wrth carcharor rhyfel yn yr Almaen. = Miscellaneous papers relating mainly to the donor's work as a Congregational Minister, including two letters, 1942-1944, from a prisoner of war in Germany.
Llyfr nodiadau yn cynnwys cyfrifon yn ymwneud â changen Rhondda Fach o Undeb Dirwestol Merched y De. = Notebook containing some accounts relating to Rhondda Fach branch of Undeb Dirwestol Merched y De.
Casgliad o bapurau Llyfni Huws, yn ymwneud â'r delyn a chanu penillion, sef llythyrau oddi wrth O. M. Edwards, ac 'Eifion Wyn'; darlith deipiedig a draddodwyd yn Tylorstown ; llythyr teipiedig yn dwyn y teitl "Adloniant Hen Delynor"; llun 'Dewi Havhesp'; a thorion o'r Cymro yn cynnwys lllythyrau gan Llyfni Huws ar y delyn a cherdd dant.
Emyn-donau 'Cwm Rheidol' a 'Bronystwyth' gan Gwynfryn Y. Jones, organydd yn Eglwys Sant Paul, Aberystwyth, ynghyd â llythyr, 1972, ato gan Dyfnallt Morgan a drosodd eiriau gwreiddiol Morswyn o'r Gymraeg i'r Saesneg iddo ('Rock of Ages').
Llythyrau a phapurau eraill, 1913-1918, sy'n cynnwys rhai'n ymwneud â'r anghydfod rhwng E. W. Evans a Chyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd ynglŷn â phryniant a chyhoeddi'r Goleuad.
Llythyr dyddiedig 16 Hydref 1916, wedi ei ysgrifennu gan y milwr Richard Jones o ffosydd y Somme yn Ffrainc at ei chwaer a'i gŵr ym Mrithdir, Dolgellau.
Taflen gwasanaeth a gynhaliwyd i ddadorchuddio cofeb yng Nghapel Charing Cross Road, Llundain, 6 Rhagfyr 1920, i goffáu deunaw o filwyr a gollwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Y Prif Weinidog David Lloyd George a wahoddwyd i ddadorchuddio'r gofeb.
Tri o lyfrau lloffion a gedwid gan y diweddar O. Trevor Roberts (y llenor 'Llanowain'), Rhuthun, a fu'n byw yn Lerpwl, yn cynnwys llythyrau, ffotograffau, torion o'r wasg ac adolygiadau o'i gyhoeddiadau, ynghyd â llyfr nodiadu yn cynnwys rhai cerddi a anfonodd i eisteddfodau.
Llungopi o benillion gan T. E. Nicholas ('Niclas y Glais', 1879-1971) i William Lewis, ffermwr cefnog a diacon yng nghapel y Glais. Mae'n bosib iddo ei ysgrifennu yn ystod ei gyfnod fel gweinidog yn y Glais rhwng 1904 1 1914.
Hanes Eglwys Bethel (B), Rhosybol, 1841-2002, Eglwys Sardis, Dulas, (dathlu canmlwyddiant a hanner, 1983) gan y rhoddwr; ac Eglwys Bethania, Llaneilian (allan o'r Greal).