Showing 2019 results

Archival description
Only top-level descriptions Fonds
Print preview View:

Llawysgrifau Cybi

  • GB 0210 MSCYBI
  • Fonds
  • [c. 1906]-1925

Llawysgrifau Cybi, [c. 1906]-1925, yn cynnwys hunangofiant, 1925; a chyfrolau o dorion o'i golofnau newyddiadurol, [c. 1906]-1921. = Manuscripts of Cybi, [c. 1906]-1925, comprising an autobiographical composition, 1925; and volumes of press cuttings of his newspaper columns, [c. 1906]-1921.

Cybi, 1871-1956

Papurau Huw Tudor Papers

  • GB 0210 HUWTUDOR
  • Fonds
  • 1913-1998

Mae'r casgliad yn cynnwys papurau teuluol a phersonol,1913-1997, gan gynnwys tystysgrifau cofrestru sifil, gohebiaeth deuluol, tystysgrifau'n ymwneud â chysylltiad Huw Tudor â'r Seiri Rhyddion, a thaflenni gwasanaethau angladdau; papurau yn ymwneud â'r theatr, 1953-1993, yn cynnwys deunydd yn ymwneud â chyfnod Huw Tudor yn RADA, rhaglenni theatr a thorion perthynol o'r wasg; a phapurau amrywiol, 1957-1998, yn cynnwys torion o'r wasg ynglŷn â rhannau Huw Tudor ar y radio a'r teledu, deunydd yn ymwneud â'r Teulu Brenhinol, taflenni gwasanaethau coffa, a thestunau erthyglau a ysgrifennwyd gan Huw Tudor. = The collection comprises family and personal papers, 1913-1997, including civil registration certificates, family correspondence, Huw Tudor's freemasonry certificates, and funeral service cards; papers concerning the theatre, 1953-1993, including material concerning Huw Tudor's period at RADA, theatre programmes and related press cuttings; and miscellaneous papers, 1957-1998, including press cuttings concerning Huw Tudor's radio and television roles, material relating to the British Royal Family, memorial service cards, and the texts of articles written by Huw Tudor.

Tudor, Huw, 1939-

Archifau Cymdeithas Cymreigyddion y Fenni,

  • GB 0210 MSCYMFEN
  • Fonds
  • 1834-1853

Llenyddiaeth a gyflwynwyd i eisteddfodau Cymreigyddion y Fenni, gyda beirniadaethau, 1834-1853. Nid yw'n cynnwys unrhyw bapurau gweinyddol. = Literary works submitted to the eisteddfodau of Cymdeithas Cymreigyddion y Fenni, with adjudications, 1834-1853. No administrative papers are included.

Cymdeithas Cymreigyddion y Fenni.

Papurau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Ceredigion,

  • GB 0210 CYMION
  • Fonds
  • 1964-1969 /

Papurau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Rhanbarth Ceredigion, 1964-1969, yn cynnwys cofnodion sefydlu'r gangen,1964, a chofnodion, gohebiaeth a thorion o'r wasg,1964-1969 = Papers of Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Rhanbarth Ceredigion, 1964-1969, including records establishing the branch, 1964, and minutes, correspondence and press cuttings, 1964-1969.

Papurau ychwanegol yn perthyn i Gymdeithas yr Iaith a Thafod y Ddraig, gan gynnwys gohebiaeth a thorion papur, 1969-1971. Nid yw'r casgliad hwn wedi ei gatalogio eto.

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Rhanbarth Ceredigion.

Papurau Cymdeithas yr Iaith (Rhodri Williams),

  • GB 0210 CYMAMS
  • Fonds
  • 1974-1980 /

Cofnodion yn ymwneud â Chymdeithas yr Iaith, 1974-1980, yn cynnwys cofnodion yn ymwneud â Chyfarfodydd Cyffredinol, 1974-1980, a chofnodion cyfarfodydd y Senedd, 1974-1980 = Records relating to the Cymdeithas yr Iaith, 1974-1980, including records relating to General Meetings, 1974-1980; and records of Senedd meetings, 1974-1980.

Williams, Rhodri.

Papurau'r Parch. W. R. Pelidros Jones

  • GB 0210 PELIDROS
  • Fonds
  • 1878-1958

Papurau Pelidros yn cynnwys barddoniaeth, drafftiau cerddi, libreto a thorion papur newydd o'i farddoniaeth cyhoeddedig,1903-1933; rhyddiaith, yn cynnwys dramâu, dadleuon, bywgraffiadau, darlithoedd, traethodau ac anerchiadau,1904-1932; llawysgrifau, nodiadau a thorion papur newydd o'i bregethau, 1906-1938; llythyrau ato ef a'i deulu, 1878-1928; dyddiaduron,1906-1958; a phapurau personol a theuluol, 1904-1958 = Papers of Pelidros comprising poetry, drafts of poems, libretto and newspaper cuttings of published poetry, 1903-1933; prose, comprising dramas, debates, biographies, lectures, essays and addresses, 1904-1932; manuscripts, notes and newspaper cuttings of sermons by him, 1906-1938; letters to him and his family, 1878-1928; diaries, 1906-1958; and personal and family papers, 1904-1958.

Jones, W. R. (William Richard), Pelidros, 1877-1958

Archif John Eilian

  • GB 0210 JOHIAN
  • Fonds
  • 1911-2022

Papurau John Eilian, 1911-2022, yn cynnwys gohebiaeth, ei awdl ‘Maelgwn Gwynedd’, awdl fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn 1947, a'r bryddest ‘Meirionnydd’ y dyfarnwyd iddo'r goron yn Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau 1949, a cherddi eraill ganddo; papurau’n deillio o’i gyfnod fel newyddiadurwr; ac erthyglau ganddo a gyhoeddwyd mewn cylchgronau. = Papers, 1911-2022, of John Eilian, comprising correspondence, his poem in strict metre ‘Maelgwn Gwynedd’ which was awarded the chair at The National Eisteddfod held at Colwyn Bay in 1947, and the winning crown poem ‘Meirionnydd’ at The National Eisteddfod at Dolgellau in 1949 and other poems by him; papers relating to his work as a journalist; and articles published in periodicals.

Jones, J. T. (John Tudor), 1904-1985

Papurau Nansi Selwood

  • GB 0210 NANWOOD
  • Fonds
  • [1934]-2017

Papurau’r nofelydd a’r hanesydd lleol Nansi Selwood, [1934]-2017, yn cynnwys gohebiaeth, drafftiau o'i nofelau Brychan dir, Dan faner Dafydd Gam a Y rhod yn troi, erthyglau a sgriptiau radio. = Papers of the novelist and local historian Nansi Selwood, [1934]-2017, comprising correspondence, drafts of her novels Brychan dir, Dan faner Dafydd Gam and Y rhod yn troi, articles and radio scripts.

Selwood, Nansi

Papurau Rhiannon Davies Jones

  • GB 0210 RHIDAVES
  • Fonds
  • 1878, 1912-2014

Papurau llenyddol a theuluol Rhiannon Davies Jones, 1878-2014 (gyda bylchau), yn cynnwys barddoniaeth, ei thraethawd MA, ysgrifau, ffotograffau, llyfrau ymwelwyr a phapurau amrywiol. = Literary and family papers of Rhiannon Davies Jones, 1878-2014 (with gaps), her MA thesis, articles, photographs, visitor books and miscellaneous papers.

Jones, Rhiannon Davies

Papurau T. Glynne Davies

  • GB 0210 TGLYVES
  • Fonds
  • [1822]-2010 (gyda bylchau)

Papurau T. Glynne Davies, [1822]-2010 (gyda bylchau), yn cynnwys gohebiaeth; dyddiaduron; drafftiau cynnar o’i bryddest fuddugol ‘Adfeilion’ y dyfarnwyd iddo’r goron yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst yn 1951; cyfrol o’i gerddi cynnar; cynllun o’i nofel Marged (Llandysul, 1974) a chopi gyda nodiadau a chywiriadau yn ei law; a sgriptiau dramâu a rhaglenni radio. = Papers of T. Glynne Davies, [1822]-2010 (with gaps), including correspondence; diaries; early drafts of his winning poem ‘Adfeilion’ (Ruins) which was awarded the crown at the National Eisteddfod at Llanrwst in 1951; a volume of his early poems; an outline of his novel Marged (Llandysul, 1974) and a copy with notes and revisions in his hand; and drama and radio scripts.

Davies, T. Glynne (Thomas Glynne)

Papurau Islwyn Jones

  • GB 0210 ISLNES
  • Fonds
  • 1885-2015 (gyda bylchau)

Papurau Islwyn 'Gus' Jones, 1885-2015 (gyda bylchau), yn cynnwys gohebiaeth, sgriptiau, darlithiau llenyddol, darlithiau Saesneg a sgyrsiau; cerddi; ei atgofion cynnar; papurau'n deillio o'i gyfnod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth a llythyrau oddi wrth lenorion yn ymwneud â chyhoeddiadau a olygwyd ganddo.

Jones, Islwyn, 1931-2015

CMA: Cofysgrifau Capel Saron, Wolverhampton

  • GB 0210 SAROWOLV
  • Fonds
  • 1867-2022

Cofysgrifau Capel Saron, St Mark’s Road, Wolverhampton (gynt Bath Road a St George’s Parade), yn cynnwys cofnodion ariannol, 1867-2022; cofnodion yr Ysgol Sul, 1879-1931; cofrestr eglwysig, 1902-86; llyfr cofnodion cyfarfodydd swyddogion yr eglwys, 1922-24; ystadegau’r eglwys, 1912-34; adroddiadau blynyddol, 1941-2021 (adroddiadau 1941-83 oddi mewn i lyfrau cyfrifon); copi o’r llyfryn, Achos y Methodistiaid Calfinaidd yn Wolverhampton. Canmlwyddiant 1854-1954 (Medi 1954); a ffotograff o’r gynulleidfa a’r pregethwr yng nghapel Bath Road, [1925-1927].

Capel Saron, Wolverhampton

Cofnodion Eglwysi Yr Annibynwyr, Lerpwl

  • Eglwysi Yr Annibynwyr, Lerpwl
  • Fonds
  • 1841-2009

Cofysgrifau yn ymwneud â chapeli Annibynnol Lerpwl, yn cynnwys Tabernacl, Belmont Road, 1913-63; Salem, Brownlow Hill, 1841-67, ac yn ddiweddarach Grove Street, 1867-1954; Eglwys Woolton Road, 1947-2009; ac Eglwys Park Road, 1896-1963.

Amryw

Papurau A.O.H Jarman

  • GB 0210 AHJARM
  • Fonds

Papurau'r Athro A.O.H Jarman, Caerdydd, yn cynnwys gohebiaeth a deunydd yn ymwneud â'i weithgarwch ym maes ysgolheictod Geltaidd.

Papurau ychwanegol gan gynnwys nifer o lythyrau oddi wrth Saunders Lewis, gohebiaeth gan gefnogwyr yn dilyn achos llys yn ystod yr Ail Ryfel Byd ynghyd ag erthygl berthnasol, a darlithoedd a nodiadau; Rhagfyr 2024.

Jarman, A. O. H. (Alfred Owen Hughes)

Archif Ras yr Iaith

  • GB 0210 RASIAITH
  • Fonds
  • [2012]-2018

Archif Ras yr Iaith, sef ras hwyl i godi proffil ac arian i’r iaith Gymraeg a seiliwyd ar rasus cyffelyb y Korrika (Gwlad y Basg) a Redadeg (Llydaw), yn cynnwys cofnodion, toriadau'r wasg, taflenni, ffotograffau, mapiau'r ras ac ymatebion, o'r cyfnod pryd sefydlwyd y digwydddiad c. 2012 a’r dair ras a gynhaliwyd yn 2014, 2016 a 2018.
Un ffolder yn cynnwys papurau ychwanegol, 2010-2016; Medi 2024.

Siôn T. Jobbins

Archif Cymdeithas Cymry Birkenhead

  • GB 0210 CYMRYBIRK
  • Fonds
  • 1961-?

Papurau Cymdeithas Cymry Birkenhead, ers ei sefydlu yn 1961, yn cynnwys cofnodion, gohebiaeth a rhaglenni.

Cymdeithas Cymry Birkenhead

Archif Gomer Roberts

  • GB 0210 ARCHGMROB
  • Fonds
  • 1909

Copi personol Gomer Roberts, Cefn y Griolen, Llanelidan, (awdur Atgofion amaethwr) o waith Anthropos, Y pentre gwyn (Wrecsam, 1909), yn cynnwys nodiadau yn ei law.

Roberts, Gomer.

CMA: Cofysgrifau Eglwys Ebeneser, Penparcau

  • GB 0210
  • Fonds
  • 1905-1989

Cofnodion Ysgol Sul Capel Ebeneser, Penparcau, [1942]-[2007], yn cynnwys llyfr cyfrifon, 1958-1971, ynghyd â naw cyfrol [llyfrau’r ysgrifennydd] yn nodi enwau’r athrawon, y nifer a oedd yn bresennol, a’r casgliadau, [1942]-[2007]; Hydref 2016.

Llyfrau cyfrifon, 1981-2012; Mehefin 2024.

Eglwys Ebeneser, Penparcau

Papurau Dic Jones = Dic Jones Papers

  • GB 0210 DICJONES
  • Fonds
  • 1949-2017

Papurau'r Prifardd a'r amaethwr Dic Jones, sy'n cynnwys: cerddi (llawysgrif, teipysgrif ac argraffiedig) a rhyddiaith (llawysgrif a theipysgrif) gan Dic Jones a cherddi i Dic Jones gan rai o'i gyd-feirdd; deunydd o'r wasg yn cofnodi mynych lwyddiannau ac anrhydeddau Dic Jones yn y maes llenyddol; adolygiadau o rai o weithiau Dic Jones; ysgrifau coffa a rhai o'r llu teyrngedau i Dic Jones a gyhoeddwyd wedi ei farwolaeth; gohebiaeth at Dic Jones a'i wraig Siân; a deunydd amrywiol yn ymwneud yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol â Dic Jones.
Hefyd yn cynnwys, fel rhan o'r archif, papurau o eiddo'r Prifardd Idris Reynolds, cyfaill agos i Dic Jones, sy'n cynnwys deunydd gan neu'n ymwneud â Dic Jones.

= Papers of the Chief Bard and farmer Dic Jones, which comprise: manuscript, typescript and printed poetry and manuscript and typescript prose by Dic Jones and poetry addressed to Dic Jones by some of his fellow poets; press material recording Dic Jones's multiple achievements and honours within the literary field; reviews of some of the works of Dic Jones; obituaries and some of the many tributes to Dic Jones published following his death; correspondence to Dic Jones and his wife Siân; and miscellaneous material which directly or indirectly relates to Dic Jones.
Also comprising, as part of the archive, papers belonging to Idris Reynolds, a Chief Bard and close friend of Dic Jones, which contain material by or relating to Dic Jones.

Jones, Dic, 1934-2009

Results 2001 to 2019 of 2019