Cofysgrifau capel Cymraeg Willow Tree Road, Altrincham, yn cynnwys cofnodion ariannol; llyfrau cofnodion cyfarfodydd Swyddogion y capel, y Chwiroydd a'r Pwyllgor Adeiladau; cofnodion yr Ysgol Sul; adroddiadau blynyddol; tocynnau aelodaeth; a hanes yr achos.
Cofysgrifau Capel Tabernacl, Abercynon, yn cynnwys llyfrau casgliadau, 1936-1993, llyfrau cyfrifon, 1894-1994, cofrestri aelodau'r Gymdeithas Ddirwestol, 1901-1927, llyfr cofnodion y blaenoriaid, 1927-1952, a llyfr hanes Capel Tabernacl, 1917-1923.
Cofysgrifau Capel Siloh, Porthyrhyd, 1909-2004, yn cynnwys llyfrau ystadegau, 1925-1937; a llyfr cyfrifon, 1909-2004. = Records of Siloh Chapel, Porthyrhyd, 1909-2004, including statistics, 1925-1937; and accounts, 1909-2004.
Mae'r fonds yn cynnwys cyfrol o gofnodion ariannol, 1933-1963, ar gyfer Capel Seion, Ysbyty Ifan, Tir Ifan, a dydd lyfr Ysgol Sul Gwernihowel [Gwernhywel], 1817.
Mae'r fonds yn cynnwys cofysgrifau'r Ysgol Sul, 1874-1923, a chofnodion amrywiol yn ymwneud â'r capel a gweithgareddau'r aelodau, 1891-1986.
Daeth dau focs ychwanegol o bapurau amrywiol yn perthyn i'r capel i law, Chwefror 2009 a Mehefin 2010, ac un ffeil mis Hydref 2012. Nid yw'r rhain wedi eu catalogio eto.
Cofysgrifau Capel Saron, St Mark’s Road, Wolverhampton (gynt Bath Road a St George’s Parade), yn cynnwys cofnodion ariannol, 1867-2022; cofnodion yr Ysgol Sul, 1879-1931; cofrestr eglwysig, 1902-86; llyfr cofnodion cyfarfodydd swyddogion yr eglwys, 1922-24; ystadegau’r eglwys, 1912-34; adroddiadau blynyddol, 1941-2021 (adroddiadau 1941-83 oddi mewn i lyfrau cyfrifon); copi o’r llyfryn, Achos y Methodistiaid Calfinaidd yn Wolverhampton. Canmlwyddiant 1854-1954 (Medi 1954); a ffotograff o’r gynulleidfa a’r pregethwr yng nghapel Bath Road, [1925-1927].
Cofysgrifau Capel Salem, Cyffylliog neu Gyffylliog, sir Ddinbych, yn cynnwys cofnodion ariannol, 1884-2011 (yn eu plith Llyfr Casgliad y Weinidogaeth, Bethania, 1899-1910); Llyfr Aelodaeth y Merched, 1889-98; llyfrau cofnodion, 1931-84 (gyda bylchau); llyfrau tocyn aelodaeth, 1930-57; adroddiadau blynyddol, 1956-64 (gyda bylchau); cofnodion yr Ysgol Sul, 1923-2011; ac archwiliad o’r adeiladau, 1989.
Mae'r fonds yn cynnwys un llyfr cofnodion, 1913-1914, yn nodi enwau yr holl danysgrifwyr o swllt ac uchod at gasgliad neilltuol a wnaed at godi capel newydd Pontrobert yn 1865, ac ychydig o hanes adeiladu'r capel.
Cofysgrifau Capel Pen-uwch, Penuwch, Llangeitho, 1840-1993, yn cynnwys cofrestr bedyddiadau, 1840-1993, llyfr aelodaeth, 1895-1936, casgliadau at y weinidogaeth, 1863-1970, 'Llyfr Cyfrif Ysgol Sabbothol Penuwch', 1915-1928, a llyfr ysgrifennydd yr Ysgol Sul, 1940-1947.
Cofysgrifau Capel Penuel, Ferndale, yn cynnwys cyfrifon, 1908-1975; cyfraniadau tuag at y Weinidogaeth gyda rhestri aelodaeth, 1929-2003; rhestr o aelodau ac athrawon yr Ysgol Sul, 1902-1910, a chyfrol yn nodi cyfrif yr Eisteddleoedd, 1905-1959.
Cofnodion Capel Newydd Llanddarog, yn cynnwys cofrestri eglwysig, 1960-1977, cyfraniadau ariannol yr aelodau, 1900-1995, gohebiaeth yr ysgrifennydd, 1963-1997, ystadegau blynyddol, 1909-1995, a chyfrifon a chytundebau, 1855-1982. Ceir hefyd gofrestrau'r Ysgol Sul, 1976-1995, a mantolenni ariannol yr Ysgol Sul, 1959-1980.
Mae'r casgliad yn cynnwys pum cyfrol o lyfrau cyfrifon Capel Moriah, Mynydd Cynffig, 1850-2001, yn nodi derbyniadau a thaliadau cyffredinol yn ymwneud â'r Capel.
Cofysgrifau Capel Moria, Trefenter, yn cynnwys cofnodion ariannol, 1913-2007; adroddiadau blynyddol, 1996-2007; ystadegau, 1969-1980; a phapurau yn ymwneud â chanmlwyddiant y capel, 2007.