ffeil NLW MS 23884A. - Llyfr tonau,

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

NLW MS 23884A.

Teitl

Llyfr tonau,

Dyddiad(au)

  • 1824-1827. (Creation)

Lefel y disgrifiad

ffeil

Maint a chyfrwng

78 ff. (ff. 17 verso-27 wedi eu tudalennu 1-20) ;200 x 130 mm.Cloriau lledr gydag addurnwaith gwag, 'A Rwymwyd gan T Powel Merthyth Tidfil' (inc y tu mewn i'r clawr blaen).Un ddalen (f. 34) wedi ei thocio a rhan o'r testun wedi ei golli.Un dalen (f. 34) wedi ei thocio a rhan o'r testun wedi ei cholli

Ardal cyd-destun

Hanes archifol

Llofnodion perchnogion diweddarach yn cynnwys John Davis, 1827 (f. 1), 1843 (f. 14), John James, 1830 (f. 3 verso), 'Daniel Rees Sowyer gurnos May 10th 1833' (f. 1), Evan Evans (f. 77), ac Evan Williams (ff. 12, 21, 23, 46).

Ffynhonnell

Dylans Bookstore; Abertawe; Pryniad (yn ffair lyfrau Cymdeithas Bob Owen, Aberystwyth); 28 Ebrill 2002; 0200205789.

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Cyfrol o emynau ac emyn-donau, 1824-1827, yn bennaf yn llaw 'Ioan ap Iago ap Dewi', o bosib John James (Ioan ap Iago), Cil-y-cwm, sir Gaerfyrddin, bardd ac awdur y llyfr Ehediadau Barddonol, ar Amryw Destunau (Llanymddyfri, 1828), a gyhoeddwyd ar ôl ei farw. = A volume of hymns and hymn-tunes, 1824-1827, mainly in the autograph of 'Ioan ap Iago ap Dewi', who is possibly to be identified with John James (Ioan ap Iago) of Cil-y-cwm, Carmarthenshire, poet and author of the posthumously published Ehediadau Barddonol, ar Amryw Destunau (Llandovery, 1828).
Mae'r tonau a'r geiriau, gyda defnydd ysbeidiol o goelbren y beirdd, wedi eu rhwymo gyda chopi printiedig o John Harris, Grisiau Cerdd Arwest: Sef Cyfarwyddiadau Eglur a Hyrwydd at Ddysgu Peroriaeth: Ynghyd a Gwersi i Ddechreuwyr (Abertawe, 1823). Mae'r gyfrol hefyd yn cynnwys tair cyfres o englynion (f. 2 recto-verso), un wedi ei briodoli i Dafydd ap Gwilym (f. 2), ac un arall i Thomas Williams (Gwilym Morgannwg) (f. 2 verso). Mae dalen brintiedig yn dwyn yr emyn 'Y Cristion yn Marw' gan P[eter] Jones [Pedr Fardd], Llynlleifiad (Abertawe, [?1827]) wedi ei phastio y tu mewn i'r clawr blaen (gweler hefyd ff. 65 verso-68), a sieciau London Bank, yn daladwy i Evan Morgan, 1823, wedi eu pastio y tu mewn i'r clawr cefn. = The manuscript tunes and words, with occasional use of coelbren y beirdd, are bound with a printed copy of John Harris, Grisiau Cerdd Arwest: Sef Cyfarwyddiadau Eglur a Hyrwydd at Ddysgu Peroriaeth: Ynghyd a Gwersi i Ddechreuwyr (Swansea, 1823). Also included are three sequences of englynion (f. 2 recto-verso), one attributed to Dafydd ap Gwilym (f. 2) and another to Thomas Williams (Gwilym Morgannwg) (f. 2 verso). A printed leaf containing the hymn 'Y Cristion yn Marw' by P[eter] Jones [Pedr Fardd], Llynlleifiad (Swansea, [?1827]) has been pasted inside the front cover (see also ff. 65 verso-68), and cheques of the London Bank, payable to Evan Morgan, 1823, have been pasted inside the back cover.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Item: 1.1 Cyfrol Lawysgrifol (NLW MS 23884A). Action: Adolygwyd y cyflwr. Action identifier: 4244287. Date: 20030207. Authorization: Detholwyd ar gyfer cadwraeth. Authorizing institution: LlGC. Action agent: J. Thomas. Status: Cyfrol Lawysgrifol (NLW MS 23884A) : Y ddau fwrdd wedi hollti’n fertigol, yr adrannau olaf yn rhydd ac yn cynnwys rhai rhwygiadau, angen gwneud label a’i lythrennu ar gyfer y meingefn. Institution: WlAbNL.

Item: 1.2 Cyfrol Lawysgrifol (NLW MS 23884A). Action: Gwnaed gwaith cadwraeth. Action identifier: 4244287 5. Date: 20031219. Authorizing institution: LlGC. Action agent: G. Edwards. Status: Cyfrol Lawysgrifol (NLW MS 23884A) : Cryfhau’rbyrddau, trwsio rhwygiadau, blaenlynu adran rydd, llythrennu label gyda ffoil aur a’i osod ar y meingefn. Institution: WlAbNL.

Croniadau

System o drefniant

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg.

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Text

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Teitl yn seiliedig ar y cynnwys.

Nodiadau

Preferred citation: NLW MS 23884A.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls004244287

GEAC system control number

(WlAbNL)0000244287

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad pwnc

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Mawrth 2012.

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd y disgrifiad gan Maredudd ap Huw, a'i adolygu gan Rhys Morgan Jones;

Ardal derbyn

Pynciau cysylltiedig

Genres cysylltiedig

Lleoedd cysylltiedig

Storfa ffisegol

  • Text: NLW MS 23884A; $q - Un dalen (f. 34) wedi ei thocio a rhan o'r testun wedi ei cholli.