Identity area
Type of entity
Person
Authorized form of name
Jones, Thomas Artemus
Parallel form(s) of name
Standardized form(s) of name according to other rules
Other form(s) of name
Identifiers for corporate bodies
Description area
Dates of existence
1871-1943
History
Ganwyd 18 Chwefror 1871 yn 22 Lôn Abram, Dinbych, yn chweched mab i Thomas Jones, saer maen. Gadawodd yr ysgol genedlaethol yn 11 oed i weithio mewn siop bapurau newydd, a thra yno, dysgodd lawfer iddo'i hun. Yn 1886 fe'i penodwyd yn ohebydd i'r Denbighshire Free Press, ac ef biau'r adroddiadau ar hanes Rhyfel y Degwm yn y papur hwnnw. Gadawodd Ddinbych yn 1889 a bu'n gweithio ar bapurau yn sir Henffordd, East Anglia a Manceinion. Yn 1896 ymunodd â staff Seneddol y Daily Telegraph ac wedi hynny, y Daily News. Dechreuodd astudio'r gyfraith yn ei oriau hamdden, ac yn 1898 aeth yn fyfyriwr yn y Middle Temple : fe'i galwyd i'r bar yno yn 1901, a'r flwyddyn nesaf, ymunodd â'r Gylchdaith Gymreig. Yn 1919 fe'i dyrchafwyd yn Gwnsler (K.C.) ac yn 1928, penodwyd ef i gynrychioli Prydain ar gomisiwn i ddelio â hawliadau yn codi o'r gwrthryfel ym Mecsico. Urddwyd ef yn farchog am ei waith yn y cyswllt hwn yn 1931. Yn 1930 fe'i penodwyd yn farnwr y llysoedd sir yng ngogledd Cymru, swydd y bu ynddi hyd Hydref 1942. Yn 1938, gwnaed ef yn gadeirydd sesiwn chwarter Sir Gaernarfon, ac yn yr un flwyddyn, dyfarnwyd iddo radd Doethur yn y Cyfreithiau er anrhydedd, gan Brifysgol Cymru. O 1939 hyd Gorffennaf 1941, ef oedd cadeirydd Tribiwnlys Gwrthwynebwyr Cydwybodol Gogledd Cymru. Bu farw 15 Hydref 1943, a'i gladdu ym mynwent gyhoeddus Bangor.
Places
Legal status
Functions, occupations and activities
Mandates/sources of authority
Internal structures/genealogy
General context
Relationships area
Access points area
Subject access points
Place access points
Occupations
Control area
Authority record identifier
Institution identifier
Rules and/or conventions used
rda
Status
Level of detail
Dates of creation, revision and deletion
Language(s)
Script(s)
Sources
lcnaf