Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- [1880]x[2018] (Creation)
Lefel y disgrifiad
Is-gyfres
Maint a chyfrwng
0.018m³ (2 focs bach)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes archifol
Ffynhonnell
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Deunydd gan, ym meddiant neu'n ymwneud â John Edwal Williams, tad Waldo Williams, gan gynnwys cyfnodolion a phamffledi yn bennaf o ddiddordeb sosialaidd; torion papur newydd yn cynnwys erthyglau gan John Edwal a gyhoeddwyd yn y wasg leol; deunydd yn ymwneud â gyrfa John Edwal; deunydd yn ymwneud â theulu John Edwal, gan gynnwys gwybodaeth achyddol, manylion cyfrifiadau a deunydd gan neu yn ymwneud â William (Gwilamus) a Lewis Williams, brodyr John Edwal; a gohebiaeth.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
System o drefniant
Trefnwyd mewn trefn gronolegol cyn belled ag y bo modd.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Amodau rheoli atgynhyrchu
Iaith y deunydd
- Cymraeg
- Saesneg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cyflwr ac anghenion technegol
Gweler eitemau unigol.
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Ganed John Edwal Williams yng Nghlunderwen, Sir Benfro ym 1863 a'i addysgu yng Ngholeg y Normal, Bangor (1887-1888). Priododd Angharad Jones, mam Waldo, ym 1900. Bu'n athro mewn ysgol yn Peterborough ac yn Ysgol Sir Ddinbych cyn ei benodi'n brifathro Ysgol y Cyngor, Prendergast, Hwlffordd ac yna, ym 1911, yn brifathro Ysgol Gynradd Mynachlog-ddu. 'Roedd J. Edwal Williams yn sosialydd, yn heddychwr ac yn ymgyrchydd o blaid hawliau dynol; ymysg ei arwyr yr oedd Edward Carpenter, Keir Hardy, Walt Whitman, Ralph Waldo Emerson, John Ruskin a Thomas Evan Nicholas ('Niclas y Glais'). Er ei fod yn aelod o'r Bedyddwyr mewn enw, ni arddelai unrhyw grefydd ffurfiol. Barddonai ar ffurf y vers libre, ffurf farddonol anarferol ac amhoblogaidd ar y pryd, ac ysgrifennai erthyglau i'r gweisg lleol. Oddi wrth ei dad yr etifeddodd Waldo yr egwyddor o frawdoliaeth. Anfarwolwyd John Edwal ac Angharad yn 'Y Tangnefeddwyr', cerdd goffadwriaethol Waldo i'w rieni.