Dangos 845628 canlyniad

Disgrifiad archifol
Rhagolwg argraffu Gweld:

16227 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Copïau o emynau o waith EW,

Copïau llawysgrif, teipysgrif a phrintiedig o emynau o waith EW. Rhestrir hwy yn nhrefn yr wyddor yn ôl y llinell gyntaf. Pan gynhwysir y gerddoriaeth, nodir hynny mewn cromfachau; nodir hefyd unrhyw bennawd a fo i'r emyn neu'r dôn. 31 ff. F. 1: 'A chân y deuaf i Dy byrth' [y dôn 'Eirianedd' o waith W. H. Roberts]. Printiedig [Y Ddalen Gerddorol, rhif 3]. Ff. 2-3: 'Am hedd y nos, am oleu'r wawr' ['Mawr yw Dy ffyddlondeb']. Teipysgrif; toriad papur. F. 4: 'Am yr Ysgol Sul diolchwn' ("canwyd yr emyn ar dôn o waith J. C. McLean yng Nghymanfa'r Pavilion 1914"). Teipysgrif. Ff. 5-7: 'Ar hyd ffordd fy mhererindod' ['Dy wyneb a geisiaf'; y dôn 'Glaslyn' o waith William Griffith, Porthmadog]. Teipysgrif (2); printiedig. F. 8: 'Canmolaf yr Arglwydd goruchaf' ['A'i asgell y cysgoda Efe trosot']. Teipysgrif. Ff. 9-10: 'Efengyl tangnefedd, ehed dros y byd' ['Ar y ddaear tangnefedd'; y dôn 'Efengyl Tangnefedd' ('Gospel of Peace'), trefniant a chynghaneddiad Noah Williams, Llangollen]. Teipysgrif; printiedig. Ff. 11-12: 'Fry yn Dy nefoedd clyw ein cri' ['Cofiaf dy wyrthiau gynt. Par yn awr lwyddiant'; y dôn 'Eifion' o waith Thomas Hughes, New Ferry]. Teipysgrif; printiedig. F. 13: 'Fugail Da, er mwyn Dy enw' ['Efe a ddychwel fy enaid']. Teipysgrif. F. 14: 'Hoff yw canu am y Ceidwad' ('Emyn cenhadol'). Teipysgrif. F. 15: 'Hoffet ti fod o dy bechod yn rhydd?' ['Mae grym yn y gwaed'; cyfieithiad]. Teipysgrif. F. 16: 'Molwn Di, O Dduw ein tadau' ['Gweler dy waith tu ag at dy weision, a'th ogoniant tu ag at eu plant hwy']. Teipysgrif. F. 17: 'O Ddiddanydd yr addewid' ['Efe a'ch tywys']. Teipysgrif. Ff. 18-21: 'O Dduw ein tadau, ynot Ti' ['Cofiais y dyddiau gynt'; y dôn 'Peredur' o waith William Griffith, Porthmadog, 1917]. Teipysgrif (2); printiedig; llawysgrif [cerddoriaeth yn unig]. Ff. 22-3: 'O, dewch rai bychain, dewch at Fab y Dyn' ['Pwy fel Iesu?']. Teipysgrif. 2 gopi. F. 24: 'Os wyt yn flin o dan dy faich' ['Cymer galon, cyfod, y mae efe yn dy alw di']. Teipysgrif. F. 25: 'Pwy a'n dysg pa fodd i fyw?' ['Neb fel Iesu']. Teipysgrif. F. 26: 'Pwy yw hwn mor edifeiriol' ['Mwy na choncwerwyr']. Teipysgrif. F. 27: ''Rwy'n brysio bob dydd at derfyn fy ngyrfa' [y dôn o waith William Griffith, Portmadoc, 1916]. Llawysgrif [geiriau a cherddoriaeth]. F. 28: 'Ti fu'n croesi môr Tiberias' ['Cofio'r Morwyr: "A hwy a'i derbyniasant Ef i'r llong"']. Teipysgrif. F. 29: 'Ti gynt wrth fôr Tiberias' ['Ac yn y man Efe a'u galwodd hwynt']. Teipysgrif. F. 30: 'Un fendith dyro im' ['Un peth a ddeisyfais i']. Teipysgrif. F. 31: 'Ym mhell y crwydrais, O fy Nuw' ['Dyfod adre 'rwy (cyfieithiad o "Lord, I'm coming home")']. Teipysgrif.

Copïau o feirniadaethau EW ar gyfansoddiadau eisteddfodol,

Copïau llawysgrif a theipysgrif o feirniadaethau EW ar gyfansoddiadau eisteddfodol; ynghyd â phapurau perthnasol. 44 ff. Ff. 1-15: Pryddest y Goron. Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1915. Ff. 16-17: Englyn 'Y Pladurwr'. Blaenau Ffestiniog, 25 Rhag. 1924. Ff. 18-29: Morwrgerdd 'Galwad y Môr'. Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli, 1925 (ff. 18-24); ynghyd â chopi teipysgrif, â chywiriadau gan EW, o'r gerdd fuddugol gan "Yr Wylan Benddu" [Owen Ellis Roberts, 'Caerwyn'] (ff. 25-9). Ff. 30-2: 'Tri phennill priodol i agor Eisteddfod neu unrhyw gyfarfod gwladgarol'. Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli, 1925. Ff. 33-4: 'Chwe' phennill i Eisteddfod Nadolig yr Annibynwyr (cyfyngedig i rai heb ennill degswllt o'r blaen)', d.d. Ff. 35-6: 'Chwe' phennill coffa i'r diweddar Mr Morris Evans, Bryn Olew', d.d. Ff. 37-44: Rhestr ffugenwau ymgeiswyr cyfansoddi 'Tair Telyneg' (buddugol "Eco'r Creigiau" [y Parch. T. Eurig Davies]) a 'Dau Emyn' (neb yn fuddugol), Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli, 1925 (ff. 37-8); ynghyd â dau gopi teipysgrif o'r telynegion buddugol (ff. 39-43), a chopi teipysgrif o'r pennill buddugol 'Rheswm' gan "Lladmer" [y Parch. D. M. Williams, Worksop] yng nghystadleuaeth cyfansoddi 'Pedair llinell, gaeth neu rydd' yn yr un Eisteddfod (f. 44).

Copïau o gerddi a gyfansoddwyd i EW,

Copïau llawysgrif a theipysgrif o gerddi a gyfansoddwyd i EW. 16 ff. Ff. 1-7: 'Ar gyflwyniad "Cap and Gown" i Eifion Wyn MA (Cymru)', gan W. Ross Hughes, Borth-y-gest, 10 Gorff. 1919. 2 gopi. Ff. 8-11: 'I Eifion Wyn (Bryd Swper yn "Arvonia" Porthmadog, nos Wener, 11-7-19, pan gyflwynwyd, ar ran ei gyfeillion ym Mhorthmadog a'r cylch, y wisg etc ofynol ar gyfer dydd ei raddio yn MA gan Brifysgol Cymru, 15-7-19)', gan 'T. J. Cynfi' [T. Cynfi Jones, 'Cynfi', Porthmadog]. 2 gopi. F. 12: Englyn 'Penblwydd Eifion Wyn', 2 Mai 1921. Dienw. Ff. 13-15: Englynion 'O graig hen yn grai ogoniant...', gan Tom Owen. F. 16: Englyn 'Y Prif-fardd Eifion Wyn, MA'. Dienw.

Copïau o gerddi a gyhoeddwyd yn Caniadau'r Allt (1927),

Ffeiliwyd hwy yn ôl eu trefn yn y gyfrol honno. Rhestrir y cerddi isod a nodir mewn cromfachau y tudalen cyfatebol yn Caniadau'r Allt, ynghyd ag unrhyw amrywiaeth teitl. Teipysgrif oni nodir yn wahanol. 41 ff. F. 1: 'Mab y Mynydd' [t. 15]. F. 2: 'Oedfa Coed' ['Cysegr y Coed'; t. 21]. Ff. 3-4: 'Camp Llyn yr Onnen', Awst 1916 [t. 32]. F. 5: 'Gwyl Ifan' [t. 34]. Ff. 6-7: 'Er cof am yr anwyl "Davies Llithfaen"' ['Y Gweinidog Da'; t. 39]. F. 8: 'Telyneg y Gwahawdd' ['Cathl y Gwahodd'; t. 43]. Printiedig [toriad o Cymru]. F. 9: '"O wynfyd Serch" neu, - Calendr Serch' ['Calendr Serch'; t. 45]. Teipysgrif â newidiadau llawysgrif. F. 10: 'Rhwng Dwy Ffair' [t. 50].Teipysgrif â newidiadau llawysgrif. Ff. 11-12: 'Melus Fo Cwsg Fy Mam', 1907 [t. 53; 'Llys Fy Mabandod']. F. 13: 'Ymson Mam' [t. 56]. Ff. 14-15: 'Soned, Dafydd i Morfudd' I (gan "Mererid"), II (gan "Bardd y Cydofid"; teipysgrif a phrintiedig), Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caernarfon, 1906 ['Dafydd ap Gwilym i Forfudd'; t. 58]. F. 16: 'Belgium' [t. 61]. Ff. 17-18: 'Cymru Annwyl (Cân Wladgarol o dri phennill)', gan "Hen Serch". F. 19: 'Llyfrbryf' ['Yn Nyffryn Clwyd (Wrth gofio'r Llyfrbryf)'; t. 81]. F. 20: 'Cân y Coroni', gan "Rhys Grythor" ['Cân Coroni'r Bardd'; t. 83]. F. 21: 'Ieuan Gwynedd' [t. 84]; ceir sylwadau teipysgrif a llawysgrif gan EW ynglyn â'r gerdd. F. 22: 'Rhisiart Llwyd' [t. 88]. Ff. 23-5: 'Syr Barrug', Ionawr 1908 [t. 93]. Teipysgrif (2); printiedig [toriad o The Grail]. Ff. 26-7: 'Croes a Blodau' [t. 94]. Printiedig. 2 gopi. F. 28: 'Allt y Widdon', 1916 [t. 97]. Ff. 29-30: 'Nos Galan' ('Fy Angel'; 'Cydymaith Liw Nos'; 'Pererin y Nef'; "Pa un oreu'n benawd?"), Dydd Diolchgarwch, 1906 ['Nos Galan'; t. 104]. Ff. 31-2: 'Erddygan Hun y Bardd' [t. 106].Teipysgrif; toriad papur. Ff. 33-41: 'Darnau i blant': 33: 'Bach a Mawr'; 'Pleser Plant' [t.110]; 34: 'Pethau Clws' ['Pethau Tlws', t. 111; 'Y Briallu', t.112]; 35: 'Suo'r Baban' [cf. rhif 4, f. 46v]; 35-6'Yr Enfys' [t. 113]; 36: 'Mot'; 37: 'Y Ffrwd' [t. 114]; 38: 'Iar Fach yr Haf' [t. 115]; 38-9: 'Casglu a Rhannu' [t. 119]; 39-40: 'Y Frongoch' [t. 117]; 41: 'Gardd F'Anwylyd' [t. 116].

Copïau o gerddi a gyhoeddwyd yn O Drum i Draeth,

Copïau llawysgrif, teipysgrif a phrintiedig o gerddi a gyhoeddwyd yn O Drum i Draeth. Ffeiliwyd hwy yn ôl eu trefn yn y gyfrol honno a cheir rhestr cynnwys yn dilyn isod. Nodir mewn cromfachau y tudalen cyfatebol yn O Drum i Draeth, ynghyd ag unrhyw amrywiaeth teitl a manylion perthnasol eraill. 29 ff. F. 1: 'Y Gerddinen' [3 englyn] [t. 16]. Teipysgrif; "gyrrais y tri englyn a ganlyn i law'r ysgrifenydd". F. 2: 'Blodau'r Grug' [englyn yn dechrau 'Golud bro friglwyd y bryn'], gan "Gruffydd Grug" [t. 19]. Printiedig. F. 3: 'Dail yr Hydref' [t. 20]. Adysgrif; anghyflawn. F. 4: 'Y Dwyrein-wynt'. Tri englyn: 'Llem anadl gwyntyll mynydd'; 'Gwynt rhynawg yn trywanu' [t. 21]; 'A chwiban erch, heibio nor'. Teipysgrif. Ff. 5-6: 'Darlun o'r Foel, Tanygrisiau' [t. 21]; ceir hefyd 'Yr Hen Gartref (Aelwyd Mr Richard Lloyd)'; 'Dyffryn Maentwrog'; 'Cwmbowydd' (gweler rhif 98). Teipysgrif; toriad papur. Ff. 7-8: 'Lliw Haf ym Mro Maboed (cyflwynedig i'r Alltwen ac Eifionydd)', 1905 [t. 22]. Llawysgrif [ceir nodiadau pregethau, etc., yn llaw EW ar y cefn]; ac adysgrif, Mai 1905. Ff. 9: 'Y Gwir Anrhydeddus D. Lloyd George' ("Eisteddfod Utica, New York. Cadwyn o Englynion"), gan "Bryn Awelon" [t. 27]. F. 10: 'Deuddeg o Englynion: "Alawon Cymru"' gan "Dafydd y Garreg Wen" [t. 38]. Teipysgrif. F. 11: Englyn 'Dy f'hendaid llwyd ei fondo...' ['Ty To Gwellt'; t. 43]. Teipysgrif. F. 12: 'Cyfarchiad Nadolig' [englyn yn dechrau 'Y Nadolig hwn deled']; 'Gwyl y Geni' [englyn yn dechrau 'Gwên Duw a digon o dân'] ['Cyfarchiadau Nadolig', t. 44]. Toriad o'r Dysgedydd, Rhag. 1933. F. 13: 'Hedd Wyn' [t. 61]. Toriad papur [1917]. F. 14: 'Syr Hugh Owen'; 'Stephen Evans'; 'Syr Lewis Morris'; 'W. Cadwaladr Davies'; 'John Griffith (Y Gohebydd)' ("Eisteddfod y Cymry, Llundain, 1909. Pump Hir a Thoddaid"), gan "Blodeu Marchogio" [tt. 84-6]. F. 15: 'Llawdden'; 'Dewi Ogwen' ("Eisteddfod Frenhinol Genedlaethol Cymru. Rhif 10. Dau Hir a Thoddaid, chwe llinell yr un"), gan "Llais Can" [t. 91; cf. rhif 3, f. 51v]. Ff. 16-19: 'O Drum i Draeth' ['Yr Afon'; t. 97]. Adysgrif; copi teipysgrif [anghyflawn]. Ff. 20-9: 'Y Merthyr' (Awdl ar gyfer Eisteddfod Madog, 30 Ebrill 1904) [t. 144]. Llawysgrif; teipysgrif [anghyflawn].

Copïau o gerddi coffa nas cynhwyswyd yn un o'r casgliadau cerddi,

Copïau teipysgrif a phrintiedig, neu adysgrifau, o gerddi coffa nas cynhwyswyd yn un o'r casgliadau cerddi. 13 ff. F. 1: 'Beddargraff. Alltud Eifion' [gweler rhif 55]. Adysgrif. F. 2: 'Er coffa am Mrs Elizabeth Evans, 63 Lord Street, Birkenhead... Hunodd Awst 9fed, 1916'. Printiedig. F. 3: 'Ar gofgolofn Isallt' [Robert Roberts]. Printiedig. Ff. 4-5: 'Er serchog gof am Ellen Jones, annwyl briod David Jones, Llys Gwilym...1923'. Teipysgrif. F. 6: 'Er coffadwriaeth serchog am Maggie Jane, annwyl briod David Jones...ganwyd 1877...bu farw...1910'. Dau englyn gan EW, yn ogystal â cherddi gan 'Llithfaen', a James Davies. Printiedig. F. 7: 'Sergt Robert Jones, RWF, Penygroes. Hunodd yn Suvla Bay, Gallipoli, Awst 10fed, 1915'; 'Er cof am Robert Einion Williams, RAMC, Penygroes. Hunodd yn Ffrainc, ar ôl tair blynedd o frwydro'. Teipysgrif. F. 8: 'Hynafwraig Dirion' ("Ar fedd mam Miss Dorothy Jones, BA"); 'Glyn'. Teipysgrif. F. 9: 'Llawdden' [2 bennill hir-a-thoddaid; "Pa un o'r ffurfiau hyn a ystyri di yn oreu?" ar ben y tudalen]; 'Ddewi y rhiniwr a'r bardd aur-enau...' [Dewi Ogwen; hir-a-thoddaid]. Teipysgrif [cf. rhif 9, f. 48]. F. 10: 'Nansi' [yn cynnwys nifer o amrywiadau]. Teipysgrif. F. 11: 'Hawddgar, bereiddlef gennad y nefoedd...'. Teipysgrif â phennawd llawysgrif 'Dewi Ogwen'; "omit" wrth ochr y pennill. F. 12: 'Hawddgar, bereiddlef gennad y nefoedd...'. Teipysgrif â phennawd llawysgrif 'Dr John Williams, Brynsiencyn'. F. 13: 'Nwyf ieuanc ei lân fywyd...'; 'Carai burdeb o'i febyd...'; 'Ni ddychwel mwy dros dir na môr...' ["Annwyl Gyfaill. Dyma ddau englyn a phennill: cant hwy eu dewis. E. W." ar ben y tudalen]. Teipysgrif.

Copïau o gerddi Cymraeg a Saesneg,

Copïau llawysgrif, teipysgrif, a phrintiedig o gerddi Cymraeg a Saesneg, 1907-25 a d.d., 'a wnaed o dro i dro er difyrru cyfeillion'. Teipysgrif oni nodir yn wahanol. i, 75 ff. F. i: Amlen ac arni '"Nid yw pob peth a blethir / O'r un wead â'r awen wir". Cerddi a wnaed o dro i dro er difyrru cyfeillion (Cedwir hwy yma er mwyn Peredur)'. Ff. 1-2: 'Rhyfelgan Ryddfrydol, Etholiad y Cyngor Sir ym Mhorthmadog, 1907. Cyflwynedig i J. Jones-Morris Ysw'. Ff. 3-4: 'Molawd', Mawrth 1910. F. 5: 'Rhigymau Telyn', Noson Lawen y Tabernacl, 1910. F. 6: 'Ymson Diolchus', 2 Ion. 1917. F. 7: 'Annerch. I fab cyfaill pan yn cyrraedd oedran gwr', Meh. 1917. F. 8: 'Annerch i Mr Owen Nelson Roberts, Paragon, Pwllheli, ar ei ddyfodiad i'w oed', Gorff. 1918. F. 9: 'I Captain Williams', 12 Meh. 1921. Llawysgrif. F. 10: 'Cyfarchiad i Gwen Mair Roberts, 6 Gorff. 1921'. F. 11: 'Y Cadeirydd (Principal Evans, Madryn)', 1921. F. 12: 'Yr Hen Drugareddau' [1921; cf. rhif 9, f. 43]. F. 13: 'Yr Ysmociwr (Alaw: "Gwnewch bopeth yn Gymraeg")'. Llawysgrif [ar y cefn ceir llythyr Saesneg, 5 Chwef. 1921, at EW oddi wrth Ieuan G. Jones, golygydd Y Genedl]. F. 14: 'Yr Ysmociwr' gan "Nymbar 1"; 'Yr Ysmociwr' gan "Nymbar 2" [?1921]. F. 15: 'Yr Ysmociwr' gan "Hen Sipiwr" [?1921]. F. 16: 'Coroni Brenhines Mai', Mai 1922. F. 17: 'Glenys, wyres gyntaf Aelygarth', gan "Yncl Eifion", Ion. 1923. F. 18: 'Y Ddau Bensaer: Mr David Morris, Cefn Iwrch, Criccieth'; Mr John Humphreys, Trefaes, Criccieth', 1925. Ff. 19-24: 'Y Gwir i'r Goleu, neu Hanes y trip o'r Bedd i'r Nant, ar Gân', gan "Bardd Sylwedd". [dwy fersiwn, â mân amrywiadau rhyngddynt]. F. 25: 'Pwy 'di ffrind y cwn cynddeiriog...'. F. 26: 'Cyfarchiad i'r Cadeirydd'. F. 27: 'Y Cadeirydd'. F. 28: 'Cyfarchiad i'r Cadeirydd, Owen D. Williams, Ysw.'. F. 29: 'Cyfarchiad'. F. 30: 'Cân y Codl Dwbl Odl' gan "Trawsfantach". Toriad papur. Ff. 31-2: 'Diwrnod Golchi (cân ddisgrifiadol)' gan "Robin, y Gwr". F. 33: 'Y Cadeirio' [Saesneg a Chymraeg]; 'Y Crys Gwlanen'. F. 34: 'John Evans, Hendregwenllian'. F. 35: 'I Maggie'; 'To Walter' [Saesneg]. F. 36: 'Y Llyw Hwyliog o Bwllheli, sef, Mr David Jones, hysbys i bawb fel Rheolwr y Barclay's Bk'. F. 37: 'Bethan' [englynion; 2 fersiwn]. F. 38: 'Dr Pierce Jones'. F. 39: 'I Willie a Jenny, a'r ddau yn un' ['C. A. Pearson Ld, 18 Henrietta St. WC2. Etiquette for Men, by G. R. M. Devereux. 1/9 by post' ar y cefn]. F. 40: 'Alaw: Nos Galan' [penillion Cymraeg a Saesneg]. F. 41: 'Y Flip Flap'. Ff. 42-3: 'Gogangerdd : "Y Llaciwr" (Ym mhob gwlad y megir llwfr!)', gan "Hyd at Waed". F. 44: "Am yr Arweinydd, Mr R. Glanrafon Jones'. F. 45: 'Cyfarchiad priodasol i Mr Fred. Gwyn a Hannah Huws, Ferndale'. Ff. 46-8: 'Ymweliad Syr Cadwaladr â Llunden', gan "Bardd y Teulu". Llawysgrif [ceir englynion yn dechrau 'Y Nadolig hwn deled' ar f. 46v]; teipysgrif. F. 49: 'Tri Breuddwyd (Alaw: Llwyn Onn)'. F. 50: 'Penillion (Alaw : Nos Galan)'. F. 51: 'Annerch. Oddiwrth Aelod o'r Comiti sydd yn bresennol o ran yr ysbryd, er yn absennol o ran y corff' [gan "Ivor Williams"]. F. 52: '"A Greeting", Portmadoc, Aug. 1912'. F. 53: 'You all know Captain Higson...' [? Awst 1913]. Toriad papur. F. 54: 'Hurrah! for J. Jones Morris...' a dau bennill arall [Saesneg] ar gyfer cyngerdd 'Symudiad y Cadfridog Owen Thomas', 7 Ebrill [1916]. Toriad papur. F. 55: 'Here is a Chairman...' sef anerchiad i Mr Key, llywydd cyngerdd a gynhaliwyd yn Ysgoldy Minffordd, 30 Tach. [1916]. Toriad papur. F. 56: 'F. M. Potter, Esq. (Manager of Penrhyn Powder Works)'; 'Arthur Grounds, Esq.'; 'K. C. Aberthnot, Esq.'; ar gyfer y 'Powder Works Eisteddfod', Ebrill 1917. F. 57: 'The Institute', 1917 ['Miss Alice Williams', f. 57v; cf. f. 58]. F. 58: 'God bless our Patron and our Chief...' (cerdd yn cyfarch Miss Alice Williams [cf. f. 57v]; 'For what is Man within this hall?...'. Toriad papur [1917]. F. 59: 'The Chairman' (Cyngerdd y Nant, Hyd. 1918). F. 60: 'Miss Greaves, Tanrallt', Rhag. 1919. F. 61: 'No doubt you will not forget it...' [penillion ar gyfer Cyngerdd Milwrol ym Mhorthmadog, c. 1919]. Toriad papur. F. 62: 'A May Day Song', 1920. F. 63: 'A Jingle Of Joy', Ion. 1925 ["not sent" ar waelod y tudalen]. F. 64: 'A modern Sir Percival'. F. 65: Cerdd gyfarch 'Our worthy Chairman - Mr Pracy'; 'As a New Year's gift to Germany...' [cyfieithiad o englyn]. F. 66: 'The Chairman'. F. 67: 'In Praise Of Our Foreman'. F. 68: 'A Hymn Of Praise'. F. 69: 'A Blue Tie & Some Xmas Thoughts'. F. 70: 'To T. H.'. Ff. 71-2: 'Our Boys (Air: The British Grenadiers)'. 2 fersiwn. F. 73: 'To Nurse Parry' ("From the Welsh of Miss J. Williams, Portmadoc"). F. 74: 'A Spring Song' gan "PA". F. 75: 'Two Night Visitors (Dramatic verses founded on Fact)'.

Canlyniadau 9421 i 9440 o 845628