Torion o'r wasg - Y Brython ac eraill yn cynnwys rhestr lawn o'r buddugwyr. Ceir hefyd feirniadaethau ar y pedwarawd cymysg, y ddeuawd, corws ar gyfer dynion, cân ar gyfer unrhyw lais, casgliad o ganeuon gwerin anghyhoeddedig a'r band. Saesneg/English.
Torion o'r wasg, gan gynnwys torion o golofn T. J. Davies 'O Ben Dinas' yn y Cambrian News, 1965-1978, a thorion, [1960au], ynglyn â Martin Luther King.
Torion o’r wasg yn ymwneud â llwyddiant T. Eirug Davies yn ennill y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Aberafan 1932 am ei bryddest ‘A ddioddefws a orfu’ ac yn Eisteddfod Genedlaethol Castell Nedd 1936 am ei bryddest ‘Y gorwel’, ynghyd ag englyn gan E. J. Lloyd yn ei longyfarch, ac fel beirniad ar y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun 1936.
Torion, [1945]-1966, gan gynnwys llawer iawn o'i golofn 'Nodion bryn a bro' yn y County Times, [1957]-[1963], ac yn ymwneud â'i waith eisteddfodol yn genedlaethol a lleol.
Torion o'r wasg o'r Western Mail a'r Tyst, 1920-1967, yn cynnwys erthyglau gan T, Eirug Davies, ysgrifau coffa iddo ac adolygiadau o'i waith a gyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth.
Torion o'r wasg, [1912]-1969, yn cynnwys erthyglau ganddo neu amdano, gan gynnwys rhai o'r County Echo (yn arbennig 'Our Readers' Views') a'r Western Telegraph gan mwyaf yn ymwneud â phynciau fel gwleidyddiaeth yn lleol a chenedlaethol; addysg Gymraeg; cenedlaetholdeb; newyddion Abergwaun; ynghyd â llawer iawn o lythyrau at olygyddion papurau newydd oddi wrth D. J. Williams. Nodwyd y cynnwys a'r ffynhonnell ar yr amlenni yn fynych iawn ganddo.