Showing 15043 results

Archival description
Only top-level descriptions
Print preview View:

212 results with digital objects Show results with digital objects

Parch. O. Gaianydd Williams: Cwestiynau ac anerchiad

  • NLW MS 5579C
  • File
  • 1926

Cymeriadau'r Hen Destament, Cwestiynau ... ac anerchiad i'r Plant a'r Bobl ieuainc by the Reverend O. Gaianydd Williams (1865-1928), Ro Wen, 1926.

Williams, O. Gaianydd (Owen Gaianydd), 1865-1928 Questions on Old Testament figures and speech (1926), NLW MS 5579C

Papyri from Oxyrhynchus,

  • NLW MS 4738D [RESTRICTED ACCESS].
  • File
  • 2-4 cents.

Greek papyri from Oxyrhynchus in Egypt, presented by the Egypt Exploration Society in 1922, being numbers 1521, 1572 and 1591 - dated respectively A.D. 113, A.D. 299, and 4th century - in Vol. XII of B. P. Grenfell and A. S. Hunt: Oxyrhynchus Papyri (1916).

Papurau'r Parchedig William Williams, Machynlleth

  • Papurau William a Myfi Williams 102
  • File
  • 1973

Pedwar llyfr nodiadau yn cynnwys drafftiau, 1973, o nofel arfaethedig gan y Parchedig William Williams, Machynlleth (m. 1985), tad y rhoddwr, am y Parchedig John Elias (1774-1841); ynghyd â'i nodiadau ymchwil.

Four notebooks containing drafts, 1973, of a proposed novel by the donor's father, the Reverend William Williams, Machynlleth (d. 1985) on the Reverend John Elias (1774-1841); together with research notes.

Williams, William, 1921-1985

Papurau'r Parchedig Evan Phillips.

  • NLW ex 2205
  • File
  • 1869-1913

Grŵp o bapurau'r Parch. Evan Phillips (1829-1912), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac un o arweinwyr Diwygiad 1859 yng Nghymru, yn cynnwys cyfrolau llawysgrif o farddoniaeth, llyfrau nodiadau yn ymwneud â chrefydd, nodiadau pregethau, gohebiaeth, nodiadau bywgraffyddol, a phapurau amrywiol eraill.

Phillips, Evan, 1829-1912

Papurau'r Parchedig D. S. Owen = Reverend D. S. Owen Papers

  • GB 0210 DSOWEN
  • Fonds
  • 1874-[2022]

Papurau'r Parchedig David Samuel Owen (1887-1959), gweinidog Capel Jewin, Llundain, yr eitemau'n cynnwys deunydd yn ymwneud á chyhoeddiadau, digwyddiadau a dathliadau yn hanes Capel Jewin ac o fewn y gymuned Fethodistaidd Galfinaidd/Bresbyteraidd ehangach yn bennaf yn Llundain a Chymru, = Papers of the Reverend David Samuel Owen (1887-1959), minister of Jewin Chapel, London, the items comprising material relating to publications, events and celebrations in the history of Jewin Chapel and within the wider Calvinistic Methodist/Presbyterian community mainly in London and Wales.

Owen, David Samuel, Reverend, 1887-1959

Papurau'r Parch W J Griffiths

  • Papurau'r Parch W J Griffiths
  • Sub-fonds

Papurau ychwanegol y Parchedig W J Griffiths yn cynnwys deunydd yn ymwneud â'r Parchedig Cornelius Griffiths (1829-1905), pregethau'r Parchedig W J Henderson, 1883-7, a phapurau'n ymwneud â'r Parchedig David Rees (1804-85)

Papurau'r grŵp pop Cymraeg 'Y Blew'/Papers of the Welsh pop group 'Y Blew'.

  • NLW ex 2219
  • File
  • 1967-2001

Papurau'r Blew, 1967-2001, y grŵp pop Cymraeg cyntaf, gan gynnwys llythyron yn ymwneud â'u perfformiadau, 1967-1969, copïau o gyfweliadau ag aelodau o'r grŵp, hanes sefydlu'r Blew, copïau o ffotograffau a deunydd hyrwyddo, rhai papurau ariannol, 1967-1968, a ffeil sylweddol, 1978-2001, ar y sylw mae'r Blew wedi ei gael ers chwalu.

Blew (Musical group)

Papurau'r Academi Gymreig / The Welsh Academy Papers,

  • GB 0210 ACADGYM
  • Fonds
  • 1958-1998 /

Mae'r casgliad yn cynnwys papurau sy'n adlewyrchu gwahanol weithgareddau'r Academi yn ogystal â gweithgaredd aelodau o staff cyflogedig a swyddogion gwirfoddol y gymdeithas. Mae'n adlewyrchu y trefniant cwbl wirfoddol oedd yn bodoli rhwng 1960 a 1977, cyfraniad staff cyflogedig yn y cyfnod ers derbyn nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru ym 1977, a'r ychwanegu a fu at weithgaredd y gymdeithas wrth greu Adran Saesneg ym 1968. Mae papurau'r Adran Gymraeg yn adlewyrchu'r cyfan o weithgaredd yr Academi hyd at sefydlu'r Adran Saesneg. O hynny ymlaen ymranna'n Adran Gymraeg, Adran Saesneg a Gweinyddiaeth Ganolog. Cynnwys ohebiaeth gyffredinol a phapurau gweinyddol cyffredinol megis cofnodion pwyllgorau, ymgyrchoedd aelodaeth, deunydd yn ymwneud â'i gwahanol gyhoeddiadau a'i amrywiol weithgareddau. Derbyniwyd 13 bocs mawr o gofysgrifau ym mis Gorffennaf 2013 a 2 focs mawr mis Hydref 2013. Nid yw'r papurau hyn wedi eu catalogio eto. = The collection consists of papers which reflect the various activities of the Academi as well as the activities of paid officials and voluntary members. They reflect the voluntary arrangement that existed between 1959 and 1977, the expansion of activities which followed the formation of the English Language Section in 1968 and the contribution made by paid staff in the period after the award of a Welsh Arts Council Grant in 1977. The papers of the Welsh Language Section reflect the whole activities of the Academi up to the formation of the English Language Section. From then on, the papers are split into those of the Central Administration, the Welsh Language Section and the English Language Section. The collection includes general correspondence, administrative papers such as committee minutes, membership details and material relating to various publications, events and activities. Thirteen large boxes of records were received July 2013 and a further 2 large boxes in October 2013. These groups remains uncatalogued.

Academi Gymreig

Papurau'n ymwneud ag Ysgol Gymraeg Aberystwyth

  • NLW ex 2044
  • file
  • 1939-1946

Papurau, 1939-46, yn ymdrin ag Ysgol Gymraeg Aberystwyth a sefydlwyd yn 1939, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Syr Ifan ab Owen Edwards yn ymwneud yn bennaf â chynnal yr ysgol yn ariannol; cylchlythyrau a chofnodion cyfarfodydd llywodraethwyr yr ysgol, 1944-6; a llyfrynnau printiedig yn ymwneud â'r ysgol.

Edwards, Ifan ab Owen, 1895-1970

Papurau'n ymwneud â mordeithiau Urdd Gobaith Cymru.

  • NLW ex 2177
  • File
  • 1934-1939

Deunydd yn ymwneud â mordeithiau aelodau Urdd Gobaith Cymru i wahanol wledydd ar fwrdd y llong Orduña rhwng 1934 a 1939, gan gynnwys rhestr o'r teithwyr, teithlyfrau, traethodau llawysgrif ynglyn â'r mordeithiau, ffotograffau a phapurau amrywiol eraill, gan gynnwys llythyr, 1950, yn gresynu bod yr Ail Ryfel Byd wedi rhoi terfyn ar y mordeithiau.

Urdd Gobaith Cymru

Papurau'n ymwneud â John Murray Thomas, Patagonia

  • NLW Facs 184
  • File
  • 1893-2000

Llungopïau o bapurau'n ymwneud â John Murray Thomas (1847-1924) a ychwanegwyd at y rhai a roddwyd gan Olivia Hughes de Mulhall ym mis Medi 1975; yr oedd John Murray Thomas o Ferthyr Tudful yn wreiddiol ac ymfudodd i'r Wladfa ar y Mimosa gyda'r fintai gyntaf yn 1865. Casglwyd y papurau ynghyd gan Olivia Hughes de Mulhall, gwraig ei ŵyr, tra'n gweithio ar ei llyfr John Murray Thomas: pequeño hombre pero gran héroe para la historia de Chubut (Trelew, 1999), gydag adolygiadau, 2000, ohono. Ymhlith y papurau ceir rhannau o'i ddyddiaduron, 1877, 1878 ac 1893; ei gynllun o Gwm Hyfryd, 1885; ei ohebiaeth, 1888-1911, gan gynnwys deiseb a luniwyd ganddo, 1893, ynglŷn â hawliau tir; pedwar llythyr gwreiddiol at John Murray Thomas, 1895-1898, a chytundeb busnes gwreiddiol, 1893. Ceir papurau hefyd yn ymwneud â'i thad y bardd Morris ap Hughes, gan gynnwys enghreifftiau o'i farddoniaeth fel 'Cerdd ymson wrth feddrod Eluned [Morgan]' a 'Gwyl y Glaniad' mewn Sbaeneg; a chyfieithiadau o emynau adnabyddus Cymreig i'r Sbaeneg gan ei fab Osian Hughes, Eisteddfod Chubut 1988

Thomas, John Murray, 1847-1924

Results 4261 to 4280 of 15043