Dangos 844361 canlyniad

Disgrifiad archifol
Rhagolwg argraffu Gweld:

16173 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Yr Wyddgrug a'r Cylch,

Yr Wyddgrug a'r Cylch 1984. Adloniant a Chyhoeddusrwydd. Adrodd, Drama, Noson Lawen a Siarad Cyhoeddus. Arweinyddion, Beirniaid a Gwahoddedigion. Cae a Phabell. Celf a Chrefft, Gwyddoniaeth a Llenyddiaeth. Cerdd a Cherdd Dant. Cyllid. Dawnsio ac Ymarfer Corff. Llety a Chroeso.

Yr Wyddgrug a'r Cylch 1984,

Llythyrau Cyhoeddwyr. Pwyllgor Gwaith. Rhestr Testunau. Seremonïau a Thlysau. Stiwardio a Rhagbrofion. Caerdydd a'r Cylch 1985. Adloniant a Chyhoeddusrwydd. Arweinyddion, Beirniaid a Gwahoddedigion. Cae a Phabell.

Yr Urdd

Llythyrau yn trafod materion Cymreig a'r Urdd yn bennaf, ynghyd â phapurau'n ymwneud â mordeithiau'r Urdd, 1933-1962.

Urdd Gobaith Cymru

'Yr Unben'

Mae'r ffeil yn cynnwys drafft llawysgrif o ddrama o'r enw 'Yr Unben', ac o ddrama di-deitl am 'Syr Alwyn'. Ceir hefyd nodiadau ar gyfer drama dditectif radio, a nodiadau amrywiol eraill.

Yr Un Hwyl a'r Un Wylo: Cerddi Gwlad Dic Jones (Gwasg Y Lolfa, 2011)

Deunydd yn ymwneud â chais Idris a'i wraig Elsie Reynolds am gerddi gan Dic Jones na chawsant hyd yno eu cyhoeddi, sy'n cynnwys torion o lythyrau a anfonwyd i'r wasg gan Idris ac Elsie Reynolds yn holi darllenwyr am gerddi Dic Jones oedd yn eu meddiant, ynghyd â gohebiaeth ymatebol gan ddarllenwyr y wasg yn amgáu cerddi gan Dic Jones, y rhan helaeth o'r rhain yn englynion a luniodd Dic i aelodau teulu a chyfeillion y darllenwyr hynny; hefyd cerddi gan Dic Jones nas amgaewyd gyda gohebiaeth. Cyfunwyd detholiad o'r cerddi hyn mewn cyfrol o'r enw Yr Un Hwyl a'r Un Wylo: Cerddi Gwlad Dic Jones, a olygwyd gan Elsie Reynolds ac a gyhoeddwyd gan Wasg Y Lolfa yn 2011 (gweler, er enghraifft: https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781848514508/yr-un-hwyl-ar-un-wylo). Mae un cyfres o gerddi, a gedwir mewn amlen wedi'i nodi, yn cynnwys arnodiadau a rhifau'r dalennau yn llaw Dic Jones.

Yr Orsedd

Cyfarwyddiadau seremonïau Gorsedd y Beirdd gan y Cofiadur Cynan mewn teipysgrif, [1935], ynghyd â chynllun Cylch yr Orsedd, 1960, a chopi printiedig o drefniadau'r Orsedd at Eisteddfod Genedlaethol Y Drenewydd 1965.

Cynan, 1895-1970

Canlyniadau 401 i 420 o 844361