Dangos 31 canlyniad

Disgrifiad archifol
Disgrifiadau lefel uchaf yn unig Patagonia (Argentina and Chile)
Rhagolwg argraffu Gweld:

Cofnodion Cymdeithas Cymru-Ariannin

  • GB 0210 CYMRUARIANNIN
  • Fonds
  • 1998-2012

Papurau ychwanegol Cymdeithas Cymru-Ariannin, yn cynnwys cynnyrch a beirniadaeth cystadleuaeth rhif 176 yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llanelli a'r cylch, 2000, i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes, a hefyd deunydd a grewyd ar gyfer 'Cystadleuaeth y Wladfa' yn Eisteddfod Tŷ Ddewi, 2002.

Ffeil o bapurau cystadleuaeth Eisteddfod Genedlaethol y Wladfa, Caerdydd a'r Cylch 2008.

Dwy ffeil o bapurau yn ymwneud a Chymdeithas Cymru-Ariannin, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Meirion a'r Cyffiniau, 2009.

Deunydd o gystadlaethau Cymdeithas Cymru-Ariannin yn yr Eisteddfod Genedlaethol, 1995-2005.

Ffeil o bapurau yn ymwneud a Chystadleuaeth y Wladfa (Rhif 170), Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bro Morgannwg, 2012.

Cymdeithas Cymru-Ariannin

Miscellaneous papers of Jonathan Ceredig Davies.

  • NLW ex 2179
  • Ffeil
  • 1841-1924

Miscellaneous papers, 1841-1924, which belonged to Jonathan Ceredig Davies (1859-1924), genealogist, missionary and folk-lorist, including letters and invitations, a passport, photographs, press cuttings, a bidding letter and a printed testimonial to Ceredig Davies, written in Trelew, Patagonia, 1891.

Davies, Jonathan Ceredig, 1859-1932

'Ychydig am y Wladfa Gymreig yn Patagonia'

  • NLW Facs 944
  • Ffeil
  • [2000]

Llungopïau o 'Ychydig am y Wladfa Gymreig yn Patagonia' sef hanes [?Edward Cox] a aeth i'r Wladfa yn 1886 yn bedair ar ddeg mlwydd oed ar y llong 'Mozart' o Lerpwl gyda'i chwaer hŷn. Yr oedd Llwyd ap Iwan ymhlith ei gyd-deithwyr. Dychwelodd i Gymru yn 1896. Disgrifir y daith yno ac yn ôl yn fanwl, ar ffurf dyddiadur weithiau. Adroddir am y brodorion, byd natur a'i waith yn cneifio miloedd o ddefaid. Cyhoeddwyd y gwaith yn Yr Arwydd, papur bro gogledd-ddwyrain Sir Fôn, Mawrth, Mai, Gorffennaf, Medi a Hydref 1995

Papurau'n ymwneud â John Murray Thomas, Patagonia

  • NLW Facs 184
  • Ffeil
  • 1893-2000

Llungopïau o bapurau'n ymwneud â John Murray Thomas (1847-1924) a ychwanegwyd at y rhai a roddwyd gan Olivia Hughes de Mulhall ym mis Medi 1975; yr oedd John Murray Thomas o Ferthyr Tudful yn wreiddiol ac ymfudodd i'r Wladfa ar y Mimosa gyda'r fintai gyntaf yn 1865. Casglwyd y papurau ynghyd gan Olivia Hughes de Mulhall, gwraig ei ŵyr, tra'n gweithio ar ei llyfr John Murray Thomas: pequeño hombre pero gran héroe para la historia de Chubut (Trelew, 1999), gydag adolygiadau, 2000, ohono. Ymhlith y papurau ceir rhannau o'i ddyddiaduron, 1877, 1878 ac 1893; ei gynllun o Gwm Hyfryd, 1885; ei ohebiaeth, 1888-1911, gan gynnwys deiseb a luniwyd ganddo, 1893, ynglŷn â hawliau tir; pedwar llythyr gwreiddiol at John Murray Thomas, 1895-1898, a chytundeb busnes gwreiddiol, 1893. Ceir papurau hefyd yn ymwneud â'i thad y bardd Morris ap Hughes, gan gynnwys enghreifftiau o'i farddoniaeth fel 'Cerdd ymson wrth feddrod Eluned [Morgan]' a 'Gwyl y Glaniad' mewn Sbaeneg; a chyfieithiadau o emynau adnabyddus Cymreig i'r Sbaeneg gan ei fab Osian Hughes, Eisteddfod Chubut 1988

Thomas, John Murray, 1847-1924

The career of the athlete German 'Loly' Roberts.

  • NLW Facs 968
  • Ffeil
  • [1998]

A volume containing photocopies of press articles from Patagonian newspapers, on the life and career of Germán 'Loly' Roberts, an athlete of Welsh descent.

Miscellaneous papers relating to Patagonia.

  • NLW ex 2155
  • Ffeil
  • 1965

Papurau yn ymwneud ag ymweliad â Phatagonia yn ystod blwyddyn dathlu canmlwyddiant y Wladfa, 1965.

Griffiths, T. Elwyn (Thomas Elwyn), 1918-

R. J. Berwyn photocopies

  • NLW Facs 876
  • Ffeil

Llungopïau gan gynnwys erthygl 'Mynwent Rawson' gan R. J. Berwyn (1863-1917) ar gyfer Y Drafod; tystysgrif geni, 1912,yn Sbaeneg, y plentyn cyntaf a anwyd yn y Wladfa yn 1865 yn dwyn llofnod 'RJB'; a dau lythyr, 1912 a heb ddyddiad, oddi wrth R. J. Berwyn at aelodau o'i deulu. / Photocopies including an article 'Mynwent Rawson' by R. J. Berwyn (1863-1917) for Y Drafod; a birth certificate, 1912, in Spanish, of the first child born in the Welsh Colony, Patagonia, 1865, bearing the signature of 'RJB'; and two letters, 1912 and undated, from R. J. Berwyn to members of his family.

Berwyn, R.J.

Owen, Australia, family letters,

  • NLW Facs 369/51.
  • Ffeil
  • 1915.

Llungopïau o bedwar llythyr, 1915, oddi wrth aelodau o'r teulu Owen a ymfudodd o Batagonia i Moora, Gorllewin Awstralia, at eu perthynas Maggie Owen yn Abergele. = Photocopies of four letters in Welsh, 1915, from members of the Owen family who emigrated to Moora, Western Australia, from Patagonia, to their relative Maggie Owen in Abergele.

Llythyrau o'r Wladfa

  • NLW ex 3085
  • Ffeil
  • 1993-2016

Llythyrau, 1993-2016, a dderbyniwyd gan Gruffydd ac Eifiona Roberts, a fu'n athrawon gwirfoddol yn Y Wladfa rhwng 1994 a 1995, oddi wrth Eurgain ac Owen Tudur Jones, Luned Roberts de Gonzales, Gweneira Davies de Quevado, Alwina Huws de Thomas, Gwalia Davies de Evans, Ieuan Williams, Irma Roberts de Williams, Eryl ac Ieuan Jones, Marlin Elis de Millado, Alwina Thomas, May Williams de Huws, Neved Williams, Elena Davies de Arnold, Dewi Mefyn ac Eileen Jones, Erie James, Clydwyn Jones, Arianna Jones de Roberts, Delma Williams, Margreta Evans de Mesa, Elmar Davies de Macdonald, Meillionen Jones de Davies, Sibyl Owen de Evans, Eryl Williams de Remires, Aira Roberts de Huws, Esther Evans de Huws, Iola Evans, Gwenni Evans de Williams a Rona Davies.

Roberts, Gruffydd

Canlyniadau 21 i 31 o 31