Dangos 844398 canlyniad

Disgrifiad archifol
Rhagolwg argraffu Gweld:

16186 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

W. J. Gruffydd, Tongwynlais,

Methu â deall paham y mae R. Williams Parry am fynd i Rydychen i wneud ymchwil. Son am eiriau gwenwynllyd 'Anthropos' [Robert David Rowland] yn Y Faner.

W. J. G[ruffydd], Tongwynlais,

Ei farn am T. Marchant Williams; mae ei erthygl am EW islaw sylw. Enwi rhai o'r 'bradwyr' cenfigennus eraill sy'n ysgrifennu i'r wasg. Helynt yr englyn a wobrwywyd yn Eisteddfod Caerfyrddin, 1911.

W. J. Gruffydd, Tongwynlais,

Bron bob papur newydd yng Nghymru yn cwyno yn erbyn W. J. Gruffydd. Holi pwy sy'n ysgrifennu dan yr enw 'Y Ford Gron' a phwy yw'r 'Oxoniensis' sy'n ysgrifennu i'r Brython. Cyfeiriad at gerdd newydd o'i eiddo, math o hwiangerdd i'w faban deufis [gw. Ynys yr Hud a Chaneuon Eraill, (Caerdydd, 1923), t. 31].

W. J. Gruffydd, Caerdydd,

Cloriannu telynegion Eisteddfod Y Barri, 1920. Ceir copïau teipysgrif o'r telynegion ynghyd â sylwadau EW arnynt (rhif 123a); mae diwedd llythyr teipysgrif oddi wrth Tryfanwy at EW ar gefn y ddalen olaf.

W. J. Gruffydd, Beaumaris,

Efallai mai Heinrich Zimmer a ysgrifennodd werthfawrogiad o waith EW. Cynnig adolygu ei gyfrol [Telynegion Maes a Môr] - nid oes hafal i delynegion y misoedd.

[W. J. Gruffydd] at y Prifathro Stuart Jones, C.P.C Aberystwyth,

Diolch am ei lythyr. Y mae Sir John [Morris-Jones] eisoes wedi cysylltu â golygydd y South Wales News ond nid yw hynny yn debyg o wneud gwahaniaeth. Y brif ystyriaeth yw bod y Brifysgol yn talu dyn i ymosod ar ei gwaith ei hunan. Hydera y caiff Stuart Jones gyfle i drafod y mater gyda'i gydweithwyr pan fydd yn dychwelyd i Aberystwyth. Copi teipysgrif.

[W. J. Gruffydd] at y Prifathro Stuart Jones, C. P. C. Aberystwyth,

Llythyr yn ymosod ar Timothy Lewis. Y mae'n defnyddio'r Wasg i ymosod ar athrawon Cymraeg y Brifysgol. Y mae ar fin ymosod ar Syr John Morris-Jones yn y South Wales News. Y mae'r erthyglau a gyhoeddir ganddo yn destun sbort yng Nghymru. Y mae ei gais i esbonio enwau lleoedd yn fwy gwallgo na'r rhai welir mewn papurau lleol. Mae'n rhaid i Adran y Gymraeg yn Aberystwyth ysgwyddo'r gwarth am ei ymddygiad. Y mae'n ennill £550 y flwyddyn am wneud dim ond ymosod ar aelodau'r brifysgol. Rhaid gwneud rhywbeth am hyn ar fyrder. Cafwyd addewid yng nghyfnod rhagflaenydd Stuart Jones gan Timothy Lewis y byddai'r ymosodiadau hyn yn darfod. Hydera y gellir delio â'r sefyllfa cyn gorfod codi'r mater gydag awdurdodau'r Brifysgol. Awgryma y gellid holi barn yr athrawon Parry-Williams, Gwynn Jones, Edwards a Fleure. Gallai Henry Lewis ac Ifor Williams roi barn ddiduedd yn ogystal pe bai raid. Copi teipysgrif.

[W. J. Gruffydd] at W. N. Bruce,

Cydnabod derbyn rhif 167 uchod. Gobeithia gael gair gyda Mr Young ynglyn ag agwedd y Gymanwlad at addysg yng Nghymru. Mae Dr [Thomas] Richards, Llyfrgellydd [Coleg] Bangor yn gweithio ar hyn eisoes. W. J. Gruffydd yn bwriadu anfon crynodeb o'i dystiolaeth i'r pwyllgor at W. N. Bruce pan ddaw copi i law. Mae W. J. Gruffydd yn anfodlon ar gyfansoddiad y pwyllgor a'r modd yr etholwyd ef. Y mae'n ofid ganddo fod cyn lleied o academyddion ar gyrff Cymreig. Hwy ddylai wybod beth yw anghenion addysg yng Nghymru. Copi teipysgrif.

[W. J. Gruffydd] at W. N. Bruce,

Mae'n anfon copi o grynodeb o'i dystiolaeth. Nid yw wedi derbyn copi o dystiolaeth W. N. Bruce eto. Gobeithia nad yw yn gwrthddweud W. N. Bruce yn ei dystiolaeth. Copi teipysgrif.

[W. J. Gruffydd at Thomas Jacob Thomas, 'Sarnicol', Aber-fan],

Diolch am ei lythyr, [rhif 796 uchod]. Y mae'n cytuno'n llwyr ag ef. Bu'n ceisio amddiffyn gwaith 'Wil Ifan', Crwys ac eraill yn erbyn Saunders Lewis. Byddai'n ddiolchgar iawn am rywbeth tebyg i'r hyn a anfonodd. Nid yw yn rhy lleol gan fod diddordeb cenedlaethol yng Nghymru yn dibynnu ar bethau lleol. Bu'n disgwyl cyfraniad gan 'Sarnicol' ers hir amser. Copi teipysgrif.

Canlyniadau 3781 i 3800 o 844398