Dangos 844361 canlyniad

Disgrifiad archifol
Rhagolwg argraffu Gweld:

16173 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Ysgol Sul (amrywiol),

Cyfrol, c. 1940, a thaflenni rhydd, [1938], [1942] a [1945], yn cofnodi cyfraniadau aelodau'r Ysgol Sul tuag at y Genhadaeth, y Ddyled a'r Ysgol; ynghyd â deuddeg o Lyfrau'r Athro, [1940x1950].

Ysgol Sirol / Ramadeg Llandysul

Mae'r ffeil yn cynnwys papur pleidleisio ar gyfer Etholiad Teirblynyddol Bwrdd Ysgol ar gyfer plwyf Llandysul, 1897 (argraffwyd a chyhoeddwyd gan J. D. Lewis); llythyr, 10 Gorffennaf 1911, at John D. Lewis, oddi wrth [Major] Herbert Cass, Dol-llan, Llandysul yn gofyn am gael gwyliau i blant yr ysgol; llythyr (printiedig), Tachwedd 1911, oddi wrth Ysgrifenyddion Mygedol Cymdeithas Cyn-ddisgyblion Ysgol Sirol Llandysul, yn hysbysu bod y tanysgrifiad blynyddol yn ddyledus, a cherdyn gwahodd i aduniad i'w gynnal ar 26 Rhagfyr 1911; ynghyd â chywydd agoriadol ar achlysur ‘Agor Adeiladau Newydd i’r Ysgol, Mai 31, 1962’ gan T. Llew Jones, yn ei law ef, pan agorwyd cyfres o adeiladau newydd ar gampws Ysgol Ramadeg Llandysul ym Mai 1962.

Ysgol haf Aberystwyth

Llyfr nodiadau yn llaw Waldo Williams yn cynnwys nodiadau ar gyfer ei ysgol haf yn Aberystwyth, Gorffennaf 1958. Ar glawr y gyfrol ceir llofnod Dilys Williams ('A[ngharad] D[ilys] Williams'), chwaer Waldo, ynghyd â'r geiriau 'Cyrsiau' a 'March Amheirchion', eto yn llaw Dilys Williams.

Copïau teipysgrif o gerddi yn dwyn y teitlau 'March Amheirchion' a 'Swyddogion yn llys Hywel Dda'. Mae arysgrifau ar y dalennau yn llaw Dilys Williams, chwaer Waldo, yn datgan mai ffrwyth llafur aelodau ysgol haf Waldo Williams, a gynhaliwyd yn neuadd Pantycelyn, Prifysgol Cymru Aberystwyth yn y 1950au, yw'r cerddi.

Ysgol Gymraeg, Lluest

Papurau, [1944]-[1963], yn ymwneud â chyfnod Norah Isaac fel prifathrawes Ysgol Lluest yn bennaf, gan gynnwys rhestr o aelodau pwyllgor yr ysgol, 1948-1951; llyfr cofnodion sy'n cynnwys rhestr o aelodau'r dosbarth hŷn, 1945-1947, a'r maes llafur. Ceir copïau o'r darnau a ddysgwyd, rhaglen cyngerdd Nadolig yr ysgol, 1948, a sgript cyngerdd Nadolig 1949; taflenni 'Mynnaf loywi fy Nghymraeg', 1944; ynghyd â ffotograffau o'r ysgol a'r disgyblion, [1949] a thaflen gwasanaeth angladd Syr Ifan ab Owen Edwards, 1970, pan dalwyd teyrnged iddo gan Norah Isaac.

Canlyniadau 341 i 360 o 844361