Dangos 844375 canlyniad

Disgrifiad archifol
Rhagolwg argraffu Gweld:

16173 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Arwest Glan Geirionydd, Awst 16 1894. Awdl - 'Mynydd y Ty' gan 'Rhys Morganwg'. Traethawd ar 'Henafiaeth, Defion, Awdurdod, a ....

Arwest Glan Geirionydd, Awst 16 1894. Awdl - 'Mynydd y Ty' gan 'Rhys Morganwg'. Traethawd ar 'Henafiaeth, Defion, Awdurdod, a Chanonau Gwarantedig Gorsedd y Beirdd' gan 'Henafydd', sef Mr Robert Griffith, 'Robyn Delynor', 3 Park Place, Manchester, wedi ei gopio gan Gwilym Cowlyd 'Un Traethawd ...a dderbyniwyd.....(ac eilwaith, Arwest 15 Awst 1895, wedi ei helaethu).

Arwyddion Treganna

Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth a deunydd printiedig, 1989-2007. Mae’r ohebiaeth rhwng Cymdeithas Yr Iaith, Cyngor Dinas Caerdydd, y Bwrdd Croeso Cymru, a nifer o westai lleol Caerdydd, yn trafod y defnydd o arwyddion dwyieithog yng Nghaerdydd. Mae’r deunydd printiedig yn ymwneud â gweithgareddau Cyngor Dinas Caerdydd, sy’n cynnwys rhestrau o gynghorwyr Dinas Caerdydd; manylion cyfarfod Gweithgor y Polisi Dwyieithog; copi o Gynllun Iaith Gymraeg Awdurdod Tân De Cymru; copi o Gyngor Dinas Caerdydd ‘Report 1991’; copi o’r ‘South Glamorgan Review’ (1989-1990); llawlyfrau Gwasanaethau Cymdeithas Tai; a thaflenni Canolfan Ymwelwyr Bae Caerdydd. Yn ychwanegol, mae’r ffeil yn cynnwys nifer fach o ffotograffau.

Canlyniadau 2641 i 2660 o 844375