Dangos 15038 canlyniad

Disgrifiad archifol
Disgrifiadau lefel uchaf yn unig
Rhagolwg argraffu Gweld:

212 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Cofnodion Cymdeithas Cymru-Ariannin,

  • GB 0210 CYMARIAN
  • fonds
  • 1931-1997/

Papurau cyffredinol a gohebiaeth,1957-1976, yn cynnwys rheiny yn ymwneud ag ymweliad Kyffin Williams â Phatagonia ym 1968 ac ymweliadau gan eraill wedi hynny, gohebiaeth, 1968-1976, ynghylch trefniadau i fyfyrwyr o Batagonia fynychu Coleg Harlech, gohebiaeth weinyddol cyffredinol, 1958-1975, a thorion o'r wasg,1959-1976. Ceir hefyd llyfrau cofnodion a chofnodion rhydd, 1965-1997; llythyrau,1965-1980, yn ymwneud â chynnal eisteddfodau a gweithgaredd llenyddol Y Wladfa; deunydd ynghylch dathlu deucanmlwyddiant sefydlu'r Wladfa ym 1865; a phapurau amrywiol, 1931-1996, yn cynnwys cylchlythyrau ac adroddiadau blynyddol y gymdeithas = General papers and correspondence, 1957-1976, including some relating to Kyffin Williams's visit to Patagonia in 1968, and subsequent visits by others, correspondence, 1968-1976, relating to arrangements for students from Patagonia to attend Coleg Harlech, general administrative correspondence, 1958-1975, and press cuttings, 1959-1976. There are also minute books and loose minutes, 1965-1997; letters, 1965-1980, relating to applications for grants; papers, 1946-1980, relating to the holding of eisteddfodau and the literary activity of Y Wladfa; material concerning the celebration of the bi-centenary of the establishment of Y Wladfa in 1965; and miscellaneous papers, 1931-1996, including stray circulars and pamphlets and annual reports of the society.

Papurau ychwanegol Cymdeithas Cymru - Ariannin, gynt Cymdeithas Cymry Ariannin, yn cynnwys gohebiaeth, cofnodion a phapurau eraill. Hefyd, caniatawyd y Llyfrgell i drosi'n rhodd y papurau a dderbyniwyd ar adnau yn y Llyfrgell yn 1976 a 1978 (gweler Adroddiad Blynyddol 1976-77, t. 66, a 1977-78, t.71) = Additional records of the Welsh Argentine Society ("Cymdeithas Cymru - Ariannin", formely "Cymdeithas Cymry Ariannin"), including correspondence, minutes and other papers. The Library has also been allowed to convert into a donation the papers placed on a deposit at the Library in 1976 and 1978 (see Annual Report 1976-77, p. 66, and 1977-78, p.71)

Papurau ychwanegol Cymdeithas Cymru - Ariannin, yn cynnwys cynnyrch a beirniadaeth cystadlaethol rhif 176 yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llanelli a'r Cylch, 2000, i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes, a hefyd deunydd a grewyd ar gyfer "Cystadleuaeth y Wladfa" yn Eisteddfod Tŷ Ddewi, 2002.

Cymdeithas Cymry Ariannin.

Cofnodion Cymdeithas Edward Llwyd

  • GB 0210 CYMEDLLW
  • Fonds
  • 1981-2002

Cofnodion Cymdeithas Edward Llwyd, yn cynnwys: cyfansoddiad y Gymdeithas; cofnodion cyfarfodydd blynyddol; cofnodion y Pwyllgor Gwaith, yr Is-bwyllgor Monograffig, yr Is-bwyllgor Marchnata, yr Is-bwyllgor Enwau a Thermau, ac Is-bwyllgor yr Amgylchedd; gohebiaeth; ceisiadau am grantiau; papurau ariannol; a phapurau aelodaeth. = Records of Cymdeithas Edward Llwyd (the Edward Llwyd Society), including: the Society's constitution; minutes of annual meetings; records of the Working Committee, the Monographic Sub-Committee, the Marketing Sub-Committee, the Names and Terms Sub-Committee, and the Environment Sub-Committee; correspondence; applications for grants; financial papers; and membership papers.

Cymdeithas Edward Llwyd

Cofnodion Cymdeithas Nyrs Cylch Llanrhystyd a Llangwyryfon,

  • NLW MS 16661B.
  • ffeil
  • 1937-1948.

Llyfr cofnodion Cymdeithas Nyrs Cylch Llanrhystud a Llangwyryfon (Llanrhystud, Llangwyryfon a Llanon o 1945), sir Aberteifi, yn cynnwys cofnodion, Ionawr 1937-Rhagfyr 1948 (tu mewn i'r clawr blaen a ff. 1-73). = Minute book of the Llanrhystud and Llangwyryfon District Nursing Association (Llanrhystud, Llangwyryfon and Llanon from 1945), Cardiganshire, containing minutes, January 1937-December 1948 (inside front cover and ff. 1-73).
Mae'r gyfrol hefyd yn cynnwys ambell eitem ychwanegol (Saesneg a Chymraeg), [1937]-1947, yn cynnwys torion papur newydd, llythyr, rheolau printiedig y Gymdeithas a chyfriflen ar gyfer 1946-47 (ff. 13, 31 verso, 44, 46, 53, 58a, 68a-b, 74-77). = The volume also contains a few further items (English and Welsh), [1937]-1947, including newspaper cuttings, a letter, printed rules of the Association, and a Statement of Accounts for 1946-47 (ff. 13, 31 verso, 44, 46, 53, 58a, 68a-b, 74-77).

Cymdeithas Nyrs Cylch Llanrhystyd a Llangwyryfon.

Cofnodion Eglwys Gynulleidfaol Bethesda, Tywyn,

  • GB 0210 BETWYN
  • fonds
  • 1809-1957 /

Cofnodion Eglwys Gynulleidfaol Bethesda, Tywyn, sir Feirionnydd, 1809-1957; yn cynnwys adroddiadau blynyddol,1898-1957; cofrestr bedyddiadau a phriodasau,1809-1904; llyfrau cyfrifon, 1878-1915; llyfrau cofnodion, 1891-1914; llyfrau'r casgliad,1891-1902; gohebiaeth a chofnodion eraill yn ymwneud â gwerthu yr hen gapel, adeiladu capel newydd a mans a phrynu organ newydd, 1886-1938; a thraethodau a nodiadau ar hanes yr eglwys, [c. 1904] = Records of Bethesda Congregational Church, Tywyn, Merionethshire, 1809-1957; including annual reports, 1898-1957; register of baptisms and marriages, 1809-1904; account books, 1878-1915; minute books, 1891-1914; collection books, 1891-1902; correspondence and other records concerning the sale of the old chapel, building the new chapel and manse and buying a new organ, 1886-1938; and essays and notes on the history of the church, [c. 1904].

Capel Bethesda (Tywyn, Wales)

Cofnodion Eglwys Gynulleidfaol Severn Road, Canton, Caerdydd,

  • GB 0210 SEVURCH
  • fonds
  • 1868-1980 /

Cofnodion Eglwys Gynulleidfaol Severn Road, Caerdydd,1868-1980, yn cynnwys adroddiadau blynyddol, 1914-1979; llyfrau cofnodion, 1868-1979; cyfriflyfrau, 1877-1979; a chofrestri yr Ysgol Sul, 1888-1980 = Records of the Severn Road Congregational Chapel Cardiff, 1868-1980, including annual reports, 1914-1979; minute books, 1868-1979; account books, 1877-1979; and Sunday School registers, 1888-1980.

Eglwys Gynulleidfaol Severn Road (Cardiff, Wales).

Cofnodion Eglwysi Yr Annibynwyr, Lerpwl

  • Eglwysi Yr Annibynwyr, Lerpwl
  • Fonds
  • 1841-2009

Cofysgrifau yn ymwneud â chapeli Annibynnol Lerpwl, yn cynnwys Tabernacl, Belmont Road, 1913-63; Salem, Brownlow Hill, 1841-67, ac yn ddiweddarach Grove Street, 1867-1954; Eglwys Woolton Road, 1947-2009; ac Eglwys Park Road, 1896-1963.

Amryw

Cofnodion Eisteddfod Genedlaethol Birkenhead, 1917,

  • NLW MS 16625B.
  • ffeil
  • 1913-1917 /

Llyfr cofnodion, 1913-1917, Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Birkenhead, 1917, yn cynnwys cofnodion, deunydd printiedig a thorion perthynol o'r Brython, Liverpool Daily Post, Liverpool Mercury, Birkenhead News, Liverpool Express a Tharian y Gweithiwr. = Minute book, 1913-1917, of the Executive Committee of Birkenhead National Eisteddfod, 1917, comprising minutes, printed material and related press cuttings from the Brython, Liverpool Daily Post, Liverpool Mercury, Birkenhead News, Liverpool Express and Tarian y Gweithiwr.

Eisteddfod Genedlaethol Cymru (1917 : Birkenhead, England).

Cofnodion Noddfa, Capel y Bedyddwyr, Corris,

  • GB 0210 NODDFA
  • fonds
  • 1896-1970 /

Mae'r casgliad yn cynnwys cyfriflyfrau, 1896-1970; adroddiadau y capel, 1964-1969; gohebiaeth, 1932-1950, yn ymwneud â phrynu rhydd-ddaliad y capel oddi wrth stad Plas Machynlleth, ynghyd â chatalog gwerthiant perthynol; ac amrywiol bethau, 1897-1968 = The collection comprises account books, 1896-1970; chapel reports, 1964-1969; correspondence, 1932-1950, relating to the purchase of the freehold of the chapel from the Plas Machynlleth estate, together with a related sale catalogue; and miscellanea, 1897-1968.

Noddfa, Capel y Bedyddwyr (Corris, Wales).

Cofnodion Pwyllgor Amddiffyn Llangyndeyrn,

  • NLW Facs 1000.
  • ffeil
  • 2005.

Copi, wedi ei deipio gan y rhoddwr, 2005, o lyfr cofnodion cyfarfodydd, 1960-1965, Pwyllgor Amddiffyn Llangyndeyrn a Chwm Gwendraeth Fach.

Cofnodion Pwyllgor Yr Angor, Glannau Mersi,

  • GB 0210 ANGOR
  • fonds
  • 1979-1987 /

Papurau Pwyllgor yr Angor, 1979-1987, yn cynnwys gohebiaeth, tanysgrifiadau, hysbysebion, cyfriflenni banc, anfonebau a phapurau personol,1979-1983, a chofnodion ariannol, 1983-1987 = Papers of the Committee of Yr Angor, 1979-1987, comprising correspondence, subscriptions, advertisements, bank statements, invoices and personal papers, 1979-1983, and financial records, 1983-1987.

Angor (Lerpwl a Glannau Mersi)

Cofnodion Undeb Cyhoeddwyr a Llyfrwerthwyr Cymreig,

  • GB 0210 CYHLLYFR
  • fonds
  • 1954-1984 /

Cofnodion Undeb Cyhoeddwyr a Llyfrwerthwyr Cymreig (the Union of Welsh Publishers and Booksellers), 1954-1984, yn cynnwys llyfr cofnodion, 1954-1970, a gohebiaeth a phapurau,1963-1984 = Records of Undeb Cyhoeddwyr a Llyfrwerthwyr Cymreig (the Union of Welsh Publishers and Booksellers), 1954-1984, comprising a minute book, 1954-1970, and correspondence and papers, 1963-1984.

Union of Welsh Publishers and Booksellers.

Cofnodion Undeb Dirwestol Dyffryn Taf,

  • GB 0210 DIRWESTTAF
  • fonds
  • 1929-1949 /

Cofnodion Pwyllgor Gŵyl Undeb Dirwestol Dyffryn Taf, 1929-1020, yn cynnwys cyfrifon ariannol, rhaglenni yr ŵyl, a phapurau eraill yn ymwneud â'r Gymanfa Ddirwestol = Records of the Dyffryn Taf Temperance Union, Festival Committee, 1929-1949, comprising financial accounts, festival programmes, and other papers relating to the Gymanfa Ddirwestol.

Undeb Dirwestol Dyffryn Taf.

Cofnodion Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn

  • GB 0210 NANTGWRTH
  • Fonds
  • 1891; 1972-2015

Gohebiaeth a phapurau, 1891; 1972-2015, yn ymwneud â sefydlu Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn, a datblygu gwasanaethau y Ganolfan Iaith Genedlaethol Nant Gwrtheyrn. Mae’r casgliad yn cynnwys gohebiaeth yr Ymddiriedolwyr, cyfreithwyr, staff, fasnachwyr, dysgwyr, a sefydliadau cysylltiedig eraill, a phapurau cysylltiedig, yn ymwneud â materion ariannol (1978-1994); cofnodion cyfarfod Bwrdd yr Ymddiriedolaeth a phwyllgorau amrywiol yn ymwneud â’r Nant (1980-1992; 1994-2003); cyflogaeth a gwirfoddoli (1980-1993; 1997-2013); marchnata a hysbysebu gweithgareddau, cyrsiau, a chyfleusterau y Ganolfan (1980-1992; 1997-2003); datblygu gwasanaethau y Ganolfan (1972-1997; 2002-2008); a phryniant a gwerthiant Plas Pistyll, ac ymgyfreitha cysylltiedig (1978-1995).

Nant Gwrtheyrn National Language Centre

Cofnodion yr Atlas Cymraeg

  • GB 0210 ATLASCYM
  • fonds
  • 1979-1984

Cofnodion gweithgor golygyddol yr Atlas Cymraeg, gan gynnwys drafftiau o destun yr Atlas wedi eu golygu, cofnodion cyfarfodydd, adroddiadau a gohebiaeth.

Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru.

Cofysgrifau Cymdeithas Gyfeillgar y Meibion Llanuwchllyn,

  • GB 0210 MEIBLLAN
  • fonds
  • 1837-1943 /

Cofysgrifau Cymdeithas Gyfeillgar y Meibion Llanuwchllyn, 1837-1943, yn cynnwys llyfrau cofnodion, 1837-1916; rheolau, 1838-1914; llyfrau cyfrifon, 1838-1943; llyfrau cyfraniadau, 1845-1943; cofnodion ariannol amrywiol, 1846-1937; rhestrau aelodau, 1840-1843; llyfr budd-daliadau salwch, 1848-1891; ac adroddiadau blynyddol, 1888-1926. Ceir hefyd llyfr rheolau Cymdeithas Gyfeillgar Llanfor, 1868, o fewn yr archif. = Llanuwchllyn Male Friendly Society records, 1837-1943, comprising minute books, 1837-1916; rules, 1838-1914; account books, 1838-1943; contribution books, 1845-1943; various financial records, 1846-1937; lists of society members, 1840-1843; a sickness benefit book, 1848-1891; and annual reports, 1888-1926. The archive also contains a rule book of the Llanfor Friendly Society, 1868.

Cymdeithas Gyfeillgar y Meibion Llanuwchllyn.

Cofysgrifau Eglwys Carmel, ger Treffynnon

  • CMA: Eglwys Carmel, ger Treffynnon
  • Fonds
  • 1865-1992

Cofnodion Eglwys Carmel ger Treffynnon, 1865-1992, yn cynnwys cofrestr bedyddiadau, 1865-1964; cofnodion ariannol, 1949-1992; a llyfr ystadegau, 1926-35, a llyfr cofnodion, 1951-65, yr Ysgol Sul.

Co-operative Party Wales papers

  • GB 0210 COOPWAL
  • fonds
  • 1977-2013.

Files of Karen Wilkie as deputy general secretary and the board secretary to the Co-operative Party; national organiser of the Co-operative Party in Wales; founder member of Co-operatives & Mutuals Wales; lead on policy in Wales; and close contact of the Co-operative Group of Welsh Assembly Members.

Co-operative Party Wales

Canlyniadau 181 i 200 o 15038