Showing 3 results

Archival description
Elis, Islwyn Ffowc
Print preview View:

Llythyrau at Huw Ethall

Llythyrau, 1955-2012, a anfonwyd at Huw Ethall gan nifer o ohebwyr, yn bennaf yn ymwneud â’i gyfrolau ar Tegla (1980), R.G. Berry (1985) a Pennar Davies (Darlith lenyddol Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Ogwr, 1998). Ymysg y prif ohebwyr mae Marion Eames, 2003; Islwyn Ffowc Elis (5) 1975-6, 1979, 1982; Glyn Tegai Hughes, 1975; Dafydd Iwan (2) 1969, 2012; Dydd Elwyn Jones (3) 1976, 1980, 1983; Rhiannon Davies Jones, 1985; D. Tecwyn Lloyd, 1983; Dyddgu Owen (3) 1975-6; Iorwerth C. Peate (3) 1975, 1979, 1980; Kate Roberts, 1970; Selyf Roberts, 1979; D.J. Williams (2) 1955; Emlyn Williams (4) 1983, 1985 a W. Crwys Williams, 1961.

Gweler Huw Ethall, ‘Llythyrau merch Tegla’, Taliesin, 84 (1994), 102-06, a’i gyfeiriad at bwysigrwydd ei gasgliad llythyrau yn Y Faner, 2 Hydref 1987, t. 13.