Dangos 4 canlyniad

Disgrifiad archifol
Charman, Charles
Rhagolwg argraffu Gweld:

Casgliad Iola Parry (R. Williams Parry)

  • NLW ex 3141 i-iii
  • Ffeil
  • 1952-2000

Casgliad o bapurau Mrs Iola Parry (née Dodd), Rhosllannerchrugog, nith Myfanwy Williams Parry, gweddw'r bardd R. Williams Parry (1884-1956). Mae'r casgliad yn cynnwys y ffeiliau a ganlyn: albwm o ffotograffau teuluol fu'n eiddo i Myfanwy Williams Parry (i); ynghyd â ffotograffau rhyddion yn ymwneud â'i gŵr (ii/1); llythyrau, 1958-1978, at J. Maldwyn Davies, brawd Myfanwy Williams Parry, amryw'n ymwneud â bedd y bardd ym mynwent Coetmor, Bethesda, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Thomas Parry, Saunders Lewis a Jonah Jones (ii/2); llythyrau, 1952-1971, at Myfanwy Williams Parry, oddi wrth ohebwyr megis Kate Roberts, Thomas Parry, Gwilym R. Jones a Charles Charman (ii/3); casgliad, [1950au-1980au] o dorion o bapurau newydd, taflenni a deunydd a gasglwyd gan aelodau'r teulu yn ymwneud ag R. Williams Parry (ii/4); nodiadau yn llaw Iola Parry, [1990au] ar sail atgofion o'i hen fodryb ac o gysylltiadau teuluol (ii/5); llythyrau a phapurau, 1994-2000, yn ymwneud â chyfraniad Iola Parry i'r gyfrol Bro a Bywyd R. Williams Parry, gol. T. Emyr Pritchard (Cyhoeddiadau Barddas, 1998) (ii/6). Daeth y papurau i'r Llyfrgell yn y câs lledr (iii) a ddefnyddiai R. Williams Parry pan âi i ddarlithio i'r Coleg a'i ddosbarthiadau nos' (gweler Bro a Bywyd R. Williams Parry, tt. 102-104) (ii). Atgynhyrchwyd nifer o eitemau o'r casgliad hwn yn Bro a Bywyd R. Williams Parry (1998) (gweler y gydnabyddiaeth ar d. 124 o'r gwaith hwnnw).

Mrs Iola Parry

Llythyrau A-C

Llythyrau, 1923-1980, gan gynnwys rhai oddi wrth Bo Almqvist (3); Ifor ap Gwilym (2); Arthur ap Gwynn (29); Euros Bowen (3); Anne Buck (4); James Callaghan; Harold Carter; Gerard Casey; Leah Chalmers; Charles Charman, Gwasg Gee (11, rhai yn ymwneud â chyhoeddi Diwylliant gwerin Cymru a Rhwng dau fyd); Basil Cottle; a D. H. Culpitt. Mae rhai llythyrau yn ymholiadau ynglŷn â diwylliant gwerin.

Almqvist, Bo.

Rhoddion Apêl Syr Thomas Parry-Williams

Gohebiaeth, 1977-1978, yn trafod rhoddion i Lyfrgell y Ganolfan fel rhan o Apêl Syr Thomas Parry-Williams, yn cynnwys llythyrau oddi wrth Charles Charman; Brian Ó Cuív; John Rhys; J. E. Caerwyn Williams; Rachel Bromwich; J. Haulfryn Williams; Brynley F. Roberts; T. K. Hardy; Y Foneddiges Amy Parry-Williams; Ian Parrott; a Sarah Thomas.

Rhoddion cyffredinol

Gohebiaeth a phapurau, 1978-1979, yn ymwneud â rhoddion i Lyfrgell y Ganolfan, rhai fel rhan o Apêl Syr Thomas Parry-Williams; a sefydlu'r Llyfrgell; gyda’r papurau yn cynnwys datganiad i’r wasg, [1979]; cofnodion cyfarfod yr Ysgol Astudiaethau Celtaidd, Aberystwyth (1978); rhestrau o roddion (1978) o gasgliadau Gwasg Gee, Syr Ben Bowen Thomas, a’r Foneddiges Amy Parry-Williams; a llythyrau (1978-1979), oddi wrth J. E. Caerwyn Williams; A. T. Griffiths; R. Geraint Gruffydd; Herbert Pilch; Rachel Bromwich; Ann Morgan; Gwyneth Vaughan Jones; Ieuan Gwynedd Jones; W. W. Dieneman; a Charles Charman.