Dangos 3 canlyniad

Disgrifiad archifol
Disgrifiadau lefel uchaf yn unig Valentine, Lewis
Rhagolwg argraffu Gweld:

Llythyrau at Jemeima Evans, Rhosllannerchrugog,

  • NLW MS 23792D.
  • ffeil
  • 1948-1982 /

Un llythyr ar ddeg, 1948-1982, oddi wrth amryw ohebwyr at Jemeima Evans, ei merch Olwen Jones, a'i mab yng nghyfraith Edward Jones, oedd yn rhedeg siop yn gwerthu llyfrau a melysion ger yr Stiwt, Rhosllannerchrugog. Maent yn cynnwys chwech llythyr, 1948-1982, oddi wrth Kate Roberts (ff. 1-8), dau lythyr, 1973, 1981, oddi wrth Lewis Valentine (ff. 9-10), a thri llythyr, 1965-1969, oddi wrth D. J. Williams, Abergwaun (ff. 11-13). = Eleven letters, 1948-1982, addressed to Jemeima Evans, her daughter Olwen Jones, and her son-in-law Edward Jones, all of whom kept a shop selling books and sweets near the Institute, Rhosllannerchrugog. They comprise six letters, 1948-1982, from Kate Roberts (ff. 1-8), two letters, 1973, 1981, from Lewis Valentine (ff. 9-10) and three letters, 1965-1969, from D. J. Williams (ff. 11-13).
Mae Lewis Valentine yn ysgrifennu am ddirywiad yr iaith Gymraeg yn ardal Llanddulas, sir Ddinbych (f. 10). = Lewis Valentine writes on the decline of the Welsh language in Llanddulas, Denbighshire (f. 10).

Roberts, Kate, 1891-1985

Yr Argyfwng : Rhagair a Diweddglo/Llawysgrif,

  • NLW MS 16954E.
  • ffeil
  • [1953]-1954 /

Llawysgrif ddrafft, 1954, o Ragair a Diweddglo 'Yr Argyfwng' gan W. Ambrose Bebb yn ei law ei hun; un llythyr, 1954, a phedwar cerdyn post, 1954, oddi wrth Bebb at Alan Talfan Davies, rhoddwr y llawysgrif, yn ymwneud â chwblhau a chyhoeddi 'Yr Argyfwng'; torion o'r Herald Cymraeg, 1953, sef pigion o Golofn y Llenor a ysgrifennwyd gan Bebb, gan gynnwys rhai o'r wyth o ysgrifau a gyhoeddwyd yn yr Herald dan y teitl 'Yr Argyfwng' yn ystod gwanwyn 1953; sylwadau, 1954, ar 'Yr Argyfwng', fel y'i cyhoeddwyd yn wreiddiol ar ffurf erthyglau yn yr Herald Cymraeg, gan y Parchedig J. P. Davies, Porthmadog, yr Athro Oliver Stephens, John Charles Jones, Esgob Bangor, y Parchedig E. Tegla Davies, a'r Parchedig Lewis Valentine. Cyhoeddwyd 'Yr Argyfwng' ar ffurf llyfr flwyddyn wedi marw Bebb, ym 1956 = Autograph draft manuscript, 1954, of the Foreword and Conclusion to 'Yr Argyfwng' by W. Ambrose Bebb; one letter, 1954, and four postcards, 1954, from Bebb to Alan Talfan Davies, the donor of the manuscript, relating to the completion and publication of 'Yr Argyfwng'; press cuttings from the Herald Cymraeg, 1953, which consist of some of Bebb's weekly columns and including some of the series of eight pieces of writing which were published in the Herald under the title 'Yr Argyfwng' during the spring of 1953; comments and observations, 1954, on 'Yr Argyfwng', in its original form of printed articles in the Herald Cymraeg, by the Reverend J. P. Davies, Porthmadog, Professor Oliver Stephens, John Charles Jones, Bishop of Bangor, the Reverend E. Tegla Davies, and the Reverend Lewis Valentine. 'Yr Argyfwng' was published in book form posthumously in 1956.

Bebb, W. Ambrose (William Ambrose), 1894-1955

Papurau J. Gwyn Griffiths

  • NLW ex 2337
  • ffeil
  • 1948-1982

Papurau, 1948-1982, a gasglwyd ynghyd gan yr Athro J. Gwyn Griffiths, y mwyfarif yn lythyron yn ymwneud â chyhoeddiad a olygwyd ganddo ar D. J. Williams, Abergwaun. Mae'r gohebwyr yn cynnwys Kate Roberts, Saunders Lewis, Lewis Valentine, D. Gwenallt Jones, Gwynfor Evans, Aneirin Talfan Davies a Bobi Jones. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys papurau yn ymwneud â Phlaid Cymru, gan gynnwys llyfr cofnodion, 1948-1958, Cangen Abertawe o'r Blaid, a phapurau amrywiol eraill.

Griffiths, John Gwyn