Print preview Close

Showing 15043 results

Archival description
Only top-level descriptions
Print preview View:

212 results with digital objects Show results with digital objects

Papurau Ned Thomas

  • GB 0210 NEDMAS
  • Fonds
  • 1962-2022

Papurau Ned Thomas, 1962-2022, yn cynnwys llythyrau a phapurau eraill yn ymwneud ag awduron, beirdd, cyfieithwyr, newyddiadurwyr ac eraill o'i gydnabod yn gweithio yn bennaf yn Gymraeg, Saesneg, ieithoedd lleiafrifol Ewropeaidd megis Basgeg a Chatalaneg, a Rwsieg, gan gynnwys Esyllt T. Lawrence, Emyr Humphreys, R. S. Thomas, Jan Morris, Iris Murdoch, y cenedlaetholwr Basgaidd Txillardegi a'r awduron Rwsiaidd Nawm Odnoposof a Nicita Sabolotsci. = Papers of Ned Thomas, 1962-2022, comprising letters and other papers relating to writers, poets, translators, journalists and other figures of his acquaintance working mostly in Welsh, English, minority European languages such as Basque and Catalan, and Russian, including Esyllt T. Lawrence, Emyr Humphreys, R. S. Thomas, Jan Morris, Iris Murdoch, the Basque nationalist Txillardegi and the Russian writers Naoum Odnopozov and Nikita Zabolotsky.

Thomas, Ned, 1936-

Papurau Mrs H Glynne (Winifred) Jones

  • WMA 2540-55
  • File

Papurau a gasglwyd ynghyd gan Mrs H. Glynne (Winifred) Jones gan gynnwys arwyddion aelodaeth a rennid yn chwarterol i aelodau o gapeli Wesleaidd, 1821, 1833, 1881, 1883-4, 1886-7, a 1901; nodiadau yn cynnwys hanes yr achos yn Seion, Llangollen; a llungopïau o erthyglau gan Joseph Davies, Wern Ddu, Gwyddelwern, a gyhoeddwyd yn Y Winllan, 1901 a 1916.

Papurau Meredydd Evans a Phyllis Kinney

  • GB 0210 MERLIS
  • Fonds
  • [1940x2015]

Mae’r archif yn cynnwys papurau ymchwil cerddorol, yn bennaf yn ymwneud â chanu gwerin; sgriptiau radio a theledu; cyfieithiadau a chyfansoddiadau cerddorol (trosglwyddwyd tapiau gweledol a sain i AGSSC); llythyrau at Meredydd Evans a Phyllis Kinney, a chopïau o lythyrau oddi wrthynt, 1956-2015; a phapurau’n ymwneud â diddordebau Meredydd Evans ym meysydd athroniaeth a llenyddiaeth Gymraeg, ynghyd â dogfennau’n ymwneud â’i ran mewn ymgyrchoedd tros yr iaith Gymraeg, yn arbennig felly ym maes darlledu.

Papurau, [1940x2015], Dr Meredydd Evans, yn eu plith rhai sy'n ymwneud â'i ddiddordebau ym maes athroniaeth a llenyddiaeth Gymraeg, ynghyd â'i gyfraniad tuag at ymgyrchoedd tros yr iaith Gymraeg, yn cynnwys Cylch yr Iaith, a sefydlu'r papur dyddiol Cymraeg cyntaf, Y Byd.

Papurau ychwanegol, [1940x2015], sef papurau cerddorol Phyllis Kinney, yn eu plith ffeiliau yn ymwneud â chaneuon gwerin, ynghyd ag ychwanegiad at bapurau Meredydd Evans.

Papurau ychwanegol, [1940x2015], sef papurau cerddorol Meredydd Evans, yn bennaf yn ymwneud â chanu gwerin.

Gohebiaeth, 1956-2015, sef llythyrau at Meredydd Evans a Phyllis Kinney, a chopïau o lythyrau oddi wrthynt.

Ychwanegiad i'r papurau cerddorol (yn cynnwys 3 tâp); llythyrau gan Robin Williams, Guto Roberts, Islwyn Ffowc Elis a D. Tecwyn Lloyd; co-bach yn cynnwys llythyrau oddi wrth Merêd a dogfennau eraill.

Dwy ffeil ychwanegol, un yn ymwneud â Chapel Siloam, Cwmystwyth, a'r llall â chyfraniadau i'r Ddolen; Ebrill 2018.

Deunydd ychwanegol yn ymwneud â chyrsiau a darllediadau, cyfweliad â Dilys Elwyn Edwards, ynghyd â rhai eitemau printiedig; Gorffennaf 2019.

Ffeil o bapurau yn ymwneud â Dr George Guest, Caergrawnt a Chwmystwyth; Ebrill 2023.

Papurau ychwanegol, 1940au-80au, yn ymwneud yn bennaf â gyrfa gerddorol Phyllis Kinney; sgriptiau radio 'Coleg Harlech', 'Cyn troi'n ol' a 'Byd newydd', 1950au; straeon Nadolig (printiedig) gan Tony Conran, 2005-2011 (gyda bylchau), y cyntaf ohonynt yn cynnwys llythyr oddi wrth Lesley a Tony Conran; a Pamffledi Harlech (wedi'u rhwymo), 1940; Medi 2025. Trosglwyddir 2 CD, 'Branwen in Wales' a 'Branwen in Ireland' gan Tony Conran, a 3 rîl fach o ffilm i'r Archif Sgrin a Sain.

Evans, Meredydd

Papurau Menna Elfyn

  • GB 0210 MENFYN
  • Fonds
  • 1937-2022

Papurau Dr Menna Elfyn, 1950-2017, sy'n adlewyrchu ei bywyd a'i gwaith llenyddol a gwleidyddol, gan gynnwys deunydd yn ymwneud â'r meysydd canlynol: barddoniaeth, rhyddiaith, dramâu ar gyfer y llwyfan a'r cyfryngau a phrosiectau cerddorol a chelfyddydol ar y cyd, ynghyd â chyfieithiadau o'i gwaith barddonol i amryw ieithoedd; ei mynych deithiau i ŵyliau barddonol, seminarau a darlleniadau ac i gynnal gweithdai; gyrfa academaidd Menna Elfyn, gan gynnwys ei chyfnodau fel awdur preswyl; anrhydeddau a gwobrau a ddaeth i'w rhan yn ystod ei gyrfa; cyfnodau ymgyrchu a charcharu Menna Elfyn a'i gŵr Wynfford James fel aelodau o Gymdeithas yr Iaith, ac ymgyrchoedd dros heddwch, cyfiawnder a hawliau merched; yn ogystal ag ystod sylweddol o ohebiaeth, yn bennaf gyda beirdd a llenorion eraill.

Daeth ychwanegiad i law ym mis Mai 2023, a atodwyd i'r archif fel cyfres 'Y' (Deunydd ychwanegol Mai 2023), fel a ganlyn:
Papurau o eiddo neu sydd a wnelo â'r bardd, dramodydd, colofnydd a golygydd Dr Menna Elfyn, sy'n cynnwys barddoniaeth, rhyddiaith a gweithiau llwyfan a chyfryngol (drafftiau llawysgrif, teipysgrifau a deunydd argraffiedig) gan Menna Elfyn, deunydd yn ymwneud â chysiau academaidd a gweithdai a diwtorwyd gan neu a gyd-gyfarwyddwyd gan Menna Elfyn, llyfrau nodiadau a gohebiaeth; ynghyd ag erthyglau, adolygiadau a datganiadau i'r wasg gan awduron eraill sy'n ymwneud a bywyd a gwaith Menna Elfyn a rhai papurau'r Parchedig T. (Thomas) Elfyn Jones, tad Menna Elfyn.

Elfyn, Menna

Papurau Mary Silyn Roberts (Archif Menywod Cymru) = Mary Silyn Roberts Papers (Women's Archive of Wales)

  • GB 0210 MSILYNR
  • Fonds
  • 1897-[1960]

Papurau'r ymgyrchwraig a'r ddarlithwraig Mary Silyn Roberts, sy'n cynnwys gohebiaeth bersonol a swyddogol Mary a'i gŵr Robert (Silyn) Roberts, ynghyd â deunydd amrywiol yn ymwneud, yn bennaf, â Chymdeithas Addysg y Gweithwyr, Coleg Harlech a pholisïau cymdeithasol-wleidyddol yr Undeb Sofietaidd (fel yr oedd) yn ystod degawdau cynnar yr ugeinfed ganrif. Eitemau pwysig a diddorol o fewn y casgliad yw cyfres o lythyrau a anfonwyd at Silyn Roberts gan R. Williams Parry tra 'roedd yr olaf yn gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a chopi llawysgrif drafft o Cerddi'r Bugail, sef cyfrol goffa o farddoniaeth Hedd Wyn (Ellis Humphrey Evans) (1887-1917). = Papers of the campaigner and lecturer Mary Silyn Roberts, which include personal and official correspondence of Mary and of her husband Robert (Silyn) Roberts, together with miscellaneous material relating mainly to the Workers' Educational Association, Coleg Harlech and the socio-political policies of the then Soviet Union during the early decades of the twentieth century. Notable items within the collection are a series of letters sent to Silyn Roberts by poet R. Williams Parry while the latter was serving in the First World War, and a draft manuscript copy of Cerddi'r Bugail, the commemorative volume of the poems of Hedd Wyn (Ellis Humphrey Evans) (1887-1917).

Yn atodol, ceir nodiadau teipiedig gan Luned Meredith, un o roddwyr y casgliad, sy'n cynnig gwybodaeth ychwanegol a sylwadau personol ynghylch y deunydd, ynghyd â thrawsgrifiadau o rai llythyrau. NODER NAD YW'R CYFEIRIADAU AT DEITLAU/RHIFAU'R EITEMAU BELLACH YN DDILYS OHERWYDD AD-DREFNIAD Y DEUNYDD YN YSTOD Y BROSES GATALOGIO.
= Supplementary material includes typescript notes by Luned Meredith, one of the donors of the collection, containing additional information and personal observations regarding the material, together with transcripts of some of the letters. NOTE THAT REFERENCES TO TITLES/NUMBERS OF ITEMS ARE NO LONGER VALID DUE TO REARRANGEMENT OF MATERIAL DURING THE CATALOGUING PROCESS.

Roberts, Mary Silyn, 1877-1972

Papurau John Thomas (Ffotograffydd)

  • GB 0210 JOHMAS
  • Fonds
  • [1867x2018]

Papurau'r ffotograffydd John Thomas, Lerpwl, gan gynnwys atgofion teithio a nodiadau John Thomas ar hanes y Cambrian Gallery ac am enwogion Cymreig; deunydd print yn gysylltiedig â'r oriel; a deunydd amrywiol mwy diweddar yn ymwneud â John Thomas a'i fusnes ffotograffiaeth.

Thomas, John, 1838-1905

Papurau John Sam Efans Papers

  • NLW ex 1689
  • File

Papurau ychwanegol John Sam Efans yn cynnwys atgofion am ei brofiadau yn ystod yr Ail Ryfel Byd a'i gysylltiad â D. M. Motors, Llanrug, sir Gaernarfon / Additional papers of John Sam Efans including recollections of his experiences during the Second World War and his connection with D. M. Motors, Llanrug, co Caernarfon.

Efans, John Sam Caernarfon

Papurau John Sam Efans

  • NLW ex 1689
  • File

Papurau ychwanegol John Sam Efans yn cynnwys gohebiaeth, torion o'r wasg ac atgofion.

Efans, John Sam Caernarfon

Papurau John Meirion Morris = John Meirion Morris Papers

  • GB 0210 JMEIRMOR
  • Fonds
  • 1960[x2020]

Papurau'r cerflunydd, dyluniwr ac athro John Meirion Morris (1936-2020), sy'n ymwneud â gwahanol agweddau o'i fywyd proffesiynol, o gychwyn ei yrfa fel athro newydd-gymwysedig hyd flynyddoedd olaf ei oes. Mae'r eitemau yn cynnwys deunydd yn ymwneud â'i gomisiynau cerflunwaith; ei gyhoeddiadau, megis A Celtic Vision (Y Lolfa, 2003); erthyglau a ysgrifenwyd a darlithoedd a draddodwyd ganddo; ei waith gyda'r cyfryngau, yr Eisteddfod Genedlaethol, cymdeithas Gweled ac â phrosiect Grŵp Glynllifon; a'r ohebiaeth a anfonwyd ato gan sefydliadau Cymreig a chan gyfeillion, cydnabod ac edmygwyr. Ceir nodiadau ar gynnwys rhai o'r eitemau yn llaw Gwawr Morris, gweddw John Meirion Morris. = Papers of the sculptor, draughtsman and teacher John Meirion Morris (1936-2020), which relate to various aspects of his professional life from his early career as a newly-qualified teacher to his final years. The items include material relating to John Meirion Morris' sculpture commissions; his publications, such as A Celtic Vision (Y Lolfa, 2003); articles written and lectures given by him; his collaboration with the media, the National Eisteddfod, Gweled and the Glynllifon Group project; and correspondence sent to John Meirion Morris from Welsh institutions and from friends, acquaintances and admirers. There are notes on the contents of some of the items in the hand of Gwawr Morris, widow of John Meirion Morris.

Morris, John Meirion, 1936-2020

Papurau J. R. Jones, Tal-y-bont.

  • NLW ex 3064
  • File
  • 1977-2003

Papurau'r adroddwr, beirniad ac arweinydd llwyfan cenedlaethol J. R. Jones, Tal-y-bont, Ceredigion, yn cynnwys nodiadau, torion, llythyrau, a ffotograffau ynglŷn â bywyd gwledig, cymeriadau dylanwadol a difyrrwch y byd eisteddfodol. Papurau ychwanegol, yn bennaf tystysgrifau, deunydd printiedig, a thapiau yn cynnwys cyfweliadau â J. R. Jones; Gorffennaf 2023.

Jones, J. R., 1923-2002

Papurau J. Gwyn Griffiths

  • NLW ex 2337
  • file
  • 1948-1982

Papurau, 1948-1982, a gasglwyd ynghyd gan yr Athro J. Gwyn Griffiths, y mwyfarif yn lythyron yn ymwneud â chyhoeddiad a olygwyd ganddo ar D. J. Williams, Abergwaun. Mae'r gohebwyr yn cynnwys Kate Roberts, Saunders Lewis, Lewis Valentine, D. Gwenallt Jones, Gwynfor Evans, Aneirin Talfan Davies a Bobi Jones. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys papurau yn ymwneud â Phlaid Cymru, gan gynnwys llyfr cofnodion, 1948-1958, Cangen Abertawe o'r Blaid, a phapurau amrywiol eraill.

Griffiths, John Gwyn

Papurau Ifor Rees

  • GB 0210 REESIFOR
  • Fonds

Sgriptiau, ffotograffau, llyfrau llofion ayb yn perthyn i'r diweddar Ifor Rees, Caerdydd. = Scripts, photographs, scrapbooks, etc., of the late Ifor Rees, Cardiff.

Papurau Ieuan Wyn Jones

  • GB 0210 IEUWYN
  • fonds
  • 1964-2015

Ieuan Wyn Jones political papers, 1964-2015, mostly from the period when he was Member of Parliament and Member of the National Assembly for Wales for Ynys Mon, including correspondence on various topics, constituency papers, papers relating to Plaid Cymru, the leadership of Plaid Cymru and the One Wales coalition government.

Jones, Ieuan Wyn

Papurau Hugh Richard Francis,

  • GB 0210 FRARICHU
  • Fonds
  • 1887-1933 /

Yn cynnwys llyfr cyfrifon, 1887-1888, yn ymwneud â gwaith adeiladu ar Gapel y Methodistiaid Calfinaidd, Llanddona, gan William Owen a Hugh Richard Francis, ac yn cynnwys barddoniaeth hefyd; llyfr ysgrifennu yn cynnwys dyfyniadau o Simon Lloyd, Amseryddiaeth Ysgrythurol (Bala, 1842) yn bennaf ac o ffynonellau Beiblaidd eraill gan Hugh Richard Francis; anerchiad ar 'Ofergoelion Cymreig' a draddodwyd gan Hugh Richard Francis i Gymdeithas Lenyddol Romford Road, Stratford, 1903; ffeil o gyfansoddiadau mewn teipysgrif gan Hugh Richard Francis, yn cynnwys cerdd fuddugol eisteddfod Llanddona, 1933 = Comprises an account book, 1887-1888, relating to building work at Llanddona Calvinistic Methodist Chapel undertaken by William Owen and Hugh Richard Francis, and also containing poetry; an exercise book containing extracts mainly from Simon Lloyd, Amseryddiaeth Ysgruthurol (Bala, 1842), and other Biblical sources by Hugh Richard Francis; an address on Welsh superstitions ('Ofergoelion Cymreig') delivered by Hugh Richard Francis to the Romford Road Literary Society, Stratford, 1903; and A file of typescript compositions by Hugh Richard Francis, including the winning poem in the eisteddfod at Llanddona, 1933.

Hugh Richard Francis, Llanddona, o Lundain yn ddiweddarach.

Papurau Hugh Rees, Llanymawddwy

  • NLW ex 2051
  • File
  • 1888-1983

Cyfrolau yn cynnwys carolau Nadolig yn bennaf a gasglwyd ac a gopïwyd, 1901-1936, gan Hugh Rees (1859-1946), Tanygraian, Llanymawddwy, sir Feirionnydd, hen daid Mrs Mary Williams, y rhoddwraig; nodir ei ffynonellau, cyhoeddiadau eglwysig gan mwyaf megis Y Llan a Y Cyfaill Eglwysig; a phenillion gan Nansi Richards, 'Telynores Maldwyn', a gyhoeddwyd yn nhudalen yr ifanc yn Yr Haul, Tachwedd a Rhagfyr 1936; ynghyd â'i gopi o Rhys Prichard, Canwyll y Cymru (Casnewydd, 1888), wedi'u dethol gan Thomas Levi a dderbyniodd yn rhodd yn 1900 a chyfrolau eraill printiedig; a ffotograff ohono, 1919, gyda dau arall ar ben Bwlch-y-groes, Llanymawddwy, a arferai groesi ar ei ffordd i weithio ar gronfa ddŵr Llanwddyn.

Rees, Hugh, 1859-1946

Papurau Gwynfor Evans/Gwynfor Evans Papers,

  • GB 0210 GWYNFOR
  • Fonds
  • 1929-2002 /

Llythyrau cyffredinol, 1939-2002, wedi eu cyfeirio at Gwynfor Evans, ynghyd â ffeiliau o lythyrau, 1940-1996, oddi wrth bedwar-ar-ddeg o unigolion blaenllaw a fu'n gohebu'n gyson â Gwynfor Evans; ffeiliau ar bynciau penodol, 1968-1983, ynghyd â ffeiliau cyffredinol ar bynciau amrywiol, 1971-1979; a ffeiliau amrywiol, 1929-1981; papurau personol amrywiol, 1938-2001, a phapurau amrywiol, [c. 1930-1998]./General letters, 1939-2002, addressed to Gwynfor Evans, together with files of letters, 1940-1996, from fourteen prominent individuals who corresponded regularly with Gwynfor Evans; files on specific subjects, 1968-1983, together with general files on miscellaneous subjects, 1971-1979; and various files, 1929-1981, miscellaneous personal papers, 1938-2001, and miscellanea, [c. 1930-1998].

Evans, Gwynfor

Papurau Gilmor Griffiths,

  • GB 0210 GILGRIF
  • Fonds
  • 1917-2011.

Music manuscripts and papers of the composer and teacher, Gilmor Griffiths.

Griffiths, Gilmor, 1917-1985.

Papurau G. Ivor Thomas,

  • GB 0210 GIVMAS
  • Fonds
  • 1838-1994 (accumulated 1951-1994) /

Papers of G. Ivor Thomas, 1838-1994, including annual reports of several parish churches in Cardiganshire, 1969-1983; papers relating to Ysgol Myfennydd, Llanrhystud, Dyfed, 1984-1985; account books, 1838-1878, including a cereal trading log book of Felinfor Brewery [later Aberclydan], Llan-non, 1838-1840, and account books, 1845-78, concerning the shipping activities of the Owens family of Hope, Llan-non; records relating to the schooner `Eagle Eyed' of New Quay, 1845-1917; letters to Thomas, 1969-1994; printed and typescript items, 1951-1989; press cuttings, 1977-1992; research notes and drafts of articles and lectures; and miscellaneous photographs, [1900].

Thomas, G. Ivor.

Papurau Evan Roberts, Llandderfel

  • GB 0210 EROBERTS
  • Fonds
  • [1658]-[?1990au]

Papurau Evan Roberts, Llandderfel, [1658]-[?1990au], yn cynnwys llythyrau a chardiau post, 1921-1973, oddi wrth ystod eang o ohebwyr, gan gynnwys John Cowper Powys; erthyglau, traethodau a darlithoedd ganddo, ynghyd â nodiadau ymchwil, [?1924]-[1968x1975]; papurau personol, 1924-[?1990au]; llyfrau lloffion, papurau newydd a deunyddiau printiedig eraill, [1658]-1970; a llawysgrifau, yn cynnwys gweithiau llawysgrif gan amryw awdur megis Clwydydd a Derfelog, a gasglwyd ganddo, [c. 1736]- [20 gan., ½ cyntaf]. = Papers, [1658]-[?1990s], relating to Evan Roberts, Llandderfel, including letters and postcards, 1921-1973, from a wide range of correspondents, including John Cowper Powys; articles, essays and lectures by Evan Roberts, together with research notes, [?1924]-[1968x1975]; personal papers, 1924-[?1990s]; scrapbooks, newspapers and other printed materials, [1658]-1970; and manuscript material, including manuscript works by various authors such as Clwydydd and Derfelog, collected by him, [c. 1736]- [20 cent., first ½].

Roberts, Evan, 1877-1977

Papurau Elsa Davies

  • GB 0210 ELSDAV
  • Fonds
  • 2011-2020

Cofnodion Pwyllgor Ymgynghorol Canolfan Uwchefrydiau Celtaidd Prifysgol Cymru, ynghyd â phapurau trafod a gyflwynwyd i’r Pwyllgor hwnnw, Mawrth 2013-Ionawr 2020, sef y cyfnod y bu Elsa Davies yn aelod o’r Pwyllgor.
Adroddiadau Blynyddol Canolfan Uwchefrydiau Celtaidd Prifysgol Cymru, 2012/13 hyd 2017/18, ynghyd â deunydd atodol. =
Records of the Centre for Advanced Celtic Studies Consultation Committee, together with discussion papers presented to the Committee, March 2013 - January 2020, namely the period during which Elsa Davies was a member of the Committee.
Annual Reports, 2012/13-2017/18, of the Centre for Advanced Celtic Studies, together with related material.

Davies, Elsa

Results 4301 to 4320 of 15043