Dangos 714545 canlyniad

Disgrifiad archifol
Ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

11123 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Ysgrifau coffa a theyrngedau i Dic Jones

Torion o'r wasg a rhifynnau o gylchgronau yn cynnwys ysgrifau coffa a theyrngedau yn dilyn marwolaeth Dic Jones ar 18 Awst 2009, ynghyd â thaflen gwasanaeth goffa i Dic a gynhaliwyd yng Nghapel y Tabernacl, Aberteifi ar 5 Medi 2009. Hefyd erthygl papur newydd am farwolaeth Alban Lewis Jones ('Abba'), tad Dic, ar 15 o Fai 1957.

Ysgrifau coffa

Torion gwreiddiol o'r wasg a llungopïau, 1950-2002, yn cynnwys ysgrifau coffa i T. Eirug Davies, ei rieni ac aelodau eraill o'i deulu.

Ysgrifau coffa

Teyrngedau o’r wasg, 1985, i John Eilian, ynghyd â chopi o Barn, Ebrill 2012, yn cynnwys erthygl Geraint Percy Jones am ‘Arloeswr y wasg John Eilian (1903-85)'.

Ysgrifau

Ysgrifau teipysgrif am aelodau o’i theulu yn bennaf, gan gynnwys, ‘Dau fedydd a dwy afon’; ‘Fy nain’, ‘Jane Ann Jones’ (Merched yn Bennaf); ‘Rhamant y siwrneiau i Ddyffryn Clwyd o Lannau Meirion’; ‘Y pentref lle’m ganwyd’; ‘Aelwyd Taid a Nain’; ‘Ysgrifennu nofel hanes’; a ‘Y cyffredin yn troi’n anghyffredin’.

Ysgrifau

Ysgrifau, [2002]-[2004], yn bennaf, gan gynnwys 'Hen Lyfr Cownt Ifan Williams y Bwtshwr', 'Cadw mis y pregethwr', 'Y ddafad golledig', 'Prynu mynaran', ‘Y dresar’, 'W. M. Llewelyn' ac ‘Ymweliad Trevor Fishlock â Phenderyn'. [Cyhoeddwyd rhai ohonynt o bosib yn Clochdar, papur bro Cwm Cynon].

Ysgrif goffa y Parchedig John Jenkins

Toriad papur newydd yn cynnwys ysgrif goffa y Parchedig John Jenkins, gweinidog Capel Bedyddwyr Hill Park, Hwlffordd, Sir Benfro, sef addoldy rhieni Waldo Williams pan oeddent yn byw yno yn ystod blynyddoedd cynharaf Waldo. 'Roedd John Jenkins yn sosialydd ac yn gyfaill agos i John Edwal Williams, tad Waldo. Bu ei fab, W. J. (William James) Jenkins, yn gyfaill bore oes i Waldo.

Ysgol Sirol / Ramadeg Llandysul

Mae'r ffeil yn cynnwys papur pleidleisio ar gyfer Etholiad Teirblynyddol Bwrdd Ysgol ar gyfer plwyf Llandysul, 1897 (argraffwyd a chyhoeddwyd gan J. D. Lewis); llythyr, 10 Gorffennaf 1911, at John D. Lewis, oddi wrth [Major] Herbert Cass, Dol-llan, Llandysul yn gofyn am gael gwyliau i blant yr ysgol; llythyr (printiedig), Tachwedd 1911, oddi wrth Ysgrifenyddion Mygedol Cymdeithas Cyn-ddisgyblion Ysgol Sirol Llandysul, yn hysbysu bod y tanysgrifiad blynyddol yn ddyledus, a cherdyn gwahodd i aduniad i'w gynnal ar 26 Rhagfyr 1911; ynghyd â chywydd agoriadol ar achlysur ‘Agor Adeiladau Newydd i’r Ysgol, Mai 31, 1962’ gan T. Llew Jones, yn ei law ef, pan agorwyd cyfres o adeiladau newydd ar gampws Ysgol Ramadeg Llandysul ym Mai 1962.

Ysgol haf Aberystwyth

Llyfr nodiadau yn llaw Waldo Williams yn cynnwys nodiadau ar gyfer ei ysgol haf yn Aberystwyth, Gorffennaf 1958. Ar glawr y gyfrol ceir llofnod Dilys Williams ('A[ngharad] D[ilys] Williams'), chwaer Waldo, ynghyd â'r geiriau 'Cyrsiau' a 'March Amheirchion', eto yn llaw Dilys Williams.

Copïau teipysgrif o gerddi yn dwyn y teitlau 'March Amheirchion' a 'Swyddogion yn llys Hywel Dda'. Mae arysgrifau ar y dalennau yn llaw Dilys Williams, chwaer Waldo, yn datgan mai ffrwyth llafur aelodau ysgol haf Waldo Williams, a gynhaliwyd yn neuadd Pantycelyn, Prifysgol Cymru Aberystwyth yn y 1950au, yw'r cerddi.

Ysgol Glan Clwyd,

Llythyron, rhaglenni cyngherddau a thoriadau papurau sy'n adlewyrchu perthynas Gilmor Griffiths a'r ysgol. Copi o'r cyhoeddiad 'Ysgol Glan Clwyd', y Deugain Mlynedd Gyntaf, 1956-1996.

Yr hyn y mae J.R. yn gofio

'Yr hyn y mae J.R. yn gofio', [1884], llawysgrif anghyflawn (penodau 3-6) gan John Roberts (J.R.) yn adrodd hanesion am Annibyniaeth ei oes (ff. 1-20, rectos yn unig). = 'Yr hyn y mae J.R. yn gofio', [1884], an incomplete manuscript (chapters 3-6) by John Roberts (J.R.) relating events in recent Welsh Congregational history (ff. 1-20, rectos only).
Ysgrifenwyd ar gefn amryw lythyrau (at S.R. a J.R.), cylchlythyrau a phosteri, 1867-1884 (ff. 1-20, versos yn unig). = It is written on the reverse of miscellaneous letters (to S.R. and J.R.), circulars and posters, 1867-1884 (ff. 1-20, versos only).

Yr Hydref (Lliwiau'r Hydref),

Sgôr mewn llawysgrif a llungopi gyda rhai newidiadau, o 'Yr Hydref' ar gyfer unsain, cyfansoddiad Gilmor Griffiths, geiriau gan Dorothy Jones. Defnyddi'r teitl ychwanegol 'Lliwiau'r Hydref'.

Yr Her a'r Llwybr

Copiau o'r Her, cylchgrawn Cangen Plaid Genedlaethol Cymru Coleg y Brifysgol, Bangor, rhifau 1-2 (Ionawr-Gŵyl Dewi 1940). Hefyd copiau o'r Llwybr, rhifau 3-6, 10, 21, cyfrol 2, rhifau 4, 6-9, 11-13, cyfrol 3, rhifau 1-4. Mae rhai rhifau cyfrol 2 wedi'u ffeilio mewn cyfrol gartref gyda chyfathrebiadau eraill. Mae gwahoddiad gan Blaid Llafur Ceredigion i Dr Gwenan Jones gwrdd ag Iwan Morgan, darpar ymgeisydd Seneddol, mewn noswaith gymdeithasol, Hydref 1944, yn cael ei defnyddio fel nod llyfr.

Yr Heniaith

Toriad papur newydd yn cynnwys copi o'r gerdd Yr Heniaith gan Waldo Williams. Cyhoeddwyd y gerdd am y tro cyntaf yn rhifyn 20 Hydref 1948 o'r Faner.

Canlyniadau 1 i 20 o 714545