Papurau’n ymwneud â Tu Chwith, cylchgrawn llenyddol cyfoes, a sefydlwyd yn 1993 o dan olygyddiaeth Simon Brooks ac Elin Llwyd Morgan, gyda thema arbennig i bob rhifyn. Ceir llythyrau oddi wrthynt a llenorion a chyfranwyr i’r cylchgrawn.
Casgliad o sgriptiau a geiriau sioeau cerdd, gwreiddiol ac addasiadau, a berfformiwyd yng Nghymru mewn eisteddfodau cenedlaethol a'r Urdd yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys 'Ffantasmagoria', 'Olifar', 'Streic!', 'Wilco', 'Inc yn y gwaed', 'Hersprê' a 'Y seren ddwyfol'. Aled Lloyd Davies a fu'n gyfrifol am lawer iawn o'r geiriau.
Casgliad bychan o bapurau yn ymwneud â'r Hen Gapel (Annibynwyr), Llanbrynmair, gan gynnwys rhestr testunau 'eisteddfod fawreddog' a gynhaliwyd yn ysgoldy'r eglwys yn 1874, a llythyr oddi wrth Abraham Thomas, Iowa, 1882, at John Brees, Brynderwen, Llanbrynmair.
Llungopi o gyfarchiad Bryfdir i'r Parchedig E. Mornant Jones, gweinidog newydd Bethel, Nantymoel, ar achlysur ei briodas gyda Miss Lily Evans, Caerfyrddin, 15 Medi 1936, a hefyd copi o ffotograff o'r Parch. E. Mornant Jones.
Naw llyfrau darllen bychan: 'Sam a Ben' (I-iii); 'Sam a Ben a Tomi' gan Miss Megan Thomas, Abersoch; 'Lipti Lop yn y bocs'; 'Lipti Lop yn y bath'; 'Lipti Lop yn mynd I'r gwely'; 'Y Llygoden Fach Wen'; 'Dilys a'r Dewin' gan Mrs C. Grainger Smith.
Copi holograff o erthygl Dr Glyn Ashton, 'Thomas Jones, Caerfyrddin, Yr Esboniwr (1761-1831)' a gyhoeddwyd yn Y Traethodydd, Ebrill 1980, tt. 97-112. = Holograph copy of article on 'Thomas Jones, Caerfyrddin, Yr Esboniwr (1761-1831)' by Glyn Ashton, published in Y Traethodydd, April 1980, pp. 97-112.
Llyfr nodiadau yn cynnwys torion papur newydd wedi'u pastio mewn i'r gyfrol, rhaglenni, ayb, yn ymwneud â gweithgareddau Clwb yr Efail, Llanrwst, sir Ddinbych, 1951-1953. = A notebook containing pasted-in newspaper cuttings, printed programmes, etc., relating to the activities of Clwb yr Efail, Llanrwst, Denbighshire, 1951-1953.
Copïau teipysgrif (2) o'r gerdd 'Peiriannau' gan J. M. Edwards, enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol 1941. = Two typewritten copies of 'Peiriannau' by J. M. Edwards, the crown poem of the 1941 National Eisteddfod.
Adysgrifiau o gyfweliadau Arwel Jones, M. Wynn Thomas a Gwynn Pritchard gydag Emyr Humphreys a fu'n sail i'r gyfrol Dal Pen Rheswm (Gwasg Prifysgol Cymru, 1999) a olygwyd gan y rhoddwr.
Nifer o benillion amrywiol mewn teipysgrif, gan gynnwys 'Tua Chaeo' gan Abiah Roderick (1898-1977), bardd gwerinol a digrifwr o Gwm Tawe, a luniodd y penillion (heb eu cyhoeddi) yn arbennig ar gyfer mam Mrs Elsa Davies, y rhoddwr.
Papurau, 1981-1986, yn ymwneud â'r Colegiwm Cymraeg, pan oedd y diweddar J. I. Daniel [Siôn Daniel] yn ysgrifennydd y Colegiwm. Ceir gohebiaeth ynglŷn â llunio'r cyfansoddiad, aelodaeth, a thefnu cyfarfodydd a chynadleddau.