Showing 1 results

Archival description
Only top-level descriptions Parry, Thomas, 1904-1985 Welsh
Print preview View:

Casgliad Iola Parry (R. Williams Parry)

  • NLW ex 3141 i-iii
  • File
  • 1952-2000

Casgliad o bapurau Mrs Iola Parry (née Dodd), Rhosllannerchrugog, nith Myfanwy Williams Parry, gweddw'r bardd R. Williams Parry (1884-1956). Mae'r casgliad yn cynnwys y ffeiliau a ganlyn: albwm o ffotograffau teuluol fu'n eiddo i Myfanwy Williams Parry (i); ynghyd â ffotograffau rhyddion yn ymwneud â'i gŵr (ii/1); llythyrau, 1958-1978, at J. Maldwyn Davies, brawd Myfanwy Williams Parry, amryw'n ymwneud â bedd y bardd ym mynwent Coetmor, Bethesda, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Thomas Parry, Saunders Lewis a Jonah Jones (ii/2); llythyrau, 1952-1971, at Myfanwy Williams Parry, oddi wrth ohebwyr megis Kate Roberts, Thomas Parry, Gwilym R. Jones a Charles Charman (ii/3); casgliad, [1950au-1980au] o dorion o bapurau newydd, taflenni a deunydd a gasglwyd gan aelodau'r teulu yn ymwneud ag R. Williams Parry (ii/4); nodiadau yn llaw Iola Parry, [1990au] ar sail atgofion o'i hen fodryb ac o gysylltiadau teuluol (ii/5); llythyrau a phapurau, 1994-2000, yn ymwneud â chyfraniad Iola Parry i'r gyfrol Bro a Bywyd R. Williams Parry, gol. T. Emyr Pritchard (Cyhoeddiadau Barddas, 1998) (ii/6). Daeth y papurau i'r Llyfrgell yn y câs lledr (iii) a ddefnyddiai R. Williams Parry pan âi i ddarlithio i'r Coleg a'i ddosbarthiadau nos' (gweler Bro a Bywyd R. Williams Parry, tt. 102-104) (ii). Atgynhyrchwyd nifer o eitemau o'r casgliad hwn yn Bro a Bywyd R. Williams Parry (1998) (gweler y gydnabyddiaeth ar d. 124 o'r gwaith hwnnw).

Mrs Iola Parry