Showing 2 results

Archival description
Only top-level descriptions Dafis, Cynog, 1938-
Print preview View:

Papurau Cynog Dafis

  • GBR/210 CYNFIS
  • Fonds
  • 1960-2003

Papurau, 1992-7, yn ymwneud â'r berthynas rhwng Plaid Cymru â'r Blaid Werdd

Papers, 1992-7, relating to the relationship between Plaid Cymru and the Green Party

Papurau ychwanegol (18 o ffeiliau) wedi eu crynhoi gan Cynog Dafis, gan gynnwys papurau trafod yn ymwneud â datblygu polisi Plaid Cymru ar wahanol bynciau.

Rhagor o ddeunydd (3 bocs R-Kive) o swyddfa Cynog Dafis.

Copi llawysgrif a theipysgrif o faniffesto cyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, 1972, o waith Cynog Dafis, ynghyd a chopi llawysgrif o'r rhagymadrodd i'r cyfieithiad Saesneg gan Harri Webb, gohebiaeth berthynol a thorion o'r wasg yn cynnwys yr ymateb i'r cyhoeddiad.

23 o ffeiliau ychwanegol o bapurau wedi eu casglu gan Cynog Dafis ac yn adlewyrchu ei weithgareddau gwleidyddol, yn y cyfnod yn union cyn iddo gael ei ethol yn Aelod Seneddol ym 1992.

Llythyron a phapurau eraill a yrrwyd at Cynog Dafis oddi wrth Mrs Elisabeth Williams, gweddw'r Athro Gruffydd John Williams, yn ystod cyfnod ei weithgarwch â Chymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Pedwar bocs mawr o ffeiliau ychwanegol yn cynnwys gohebiaeth a phapurau eraill, 1960au - 2003, wedi eu casglu gan Mr Cynog Dafis, oll yn adlewyrchu ei weithgareddau gwleidyddol yn Aelod Seneddol dros Geredigion.Mae cynnwys un ffeil werdd yn gwbl gyfrinachol. Rhaid cael caniatâd Cynog Dafis cyn datgelu'r cynnwys

Un ffeil ychwanegol yn cynnwys gwybodaeth am y bethynas rhwng Plaid Cymru a'r Gwyrddiaid.

Un ffolder ychwanegol yn cynnwys llythyrau gwleidyddol; Hydref 2024. Trosglwyddwyd fideo o rali Plaid Cymru yn y Senedd, yn dilyn Etholiad 1992, i'r Archif Sgrin a Sain.

Dafis, Cynog, 1938-

Papurau Cynog Dafis,

  • GB 0210 CYNFIS
  • fonds
  • 1934-2007

Papurau Cynog Dafis, yn cynnwys gohebiaeth gyffredinol,1964-1973, ffeiliau yn ymwneud ag addysg, 1961-1982, ffeiliau yn ymwneud â chynghrair Plaid Cymru/Y Blaid Werdd yng Ngheredigion, 1991-1997, papurau, 1996-1997, yn ymwneud ag etholiad cyffredinol 1997, areithiau, ymgyrch llywyddiaeth Plaid Cymru ac etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2007 = Papers of Cynog Dafis, including general correspondence, 1964-1973, files relating to education, 1961-1982, files relating to the Plaid Cymru / Green Party alliance in Ceredigion, 1991-1997, papers relating to the 1997 general election, 1996-1997, speeches, campaign for the role of President of Plaid Cymru and the National Assembly for Wales election 2007.

Derbyniwyd papurau ychwanegol sydd dal heb eu catalogio = Addition papers received remain uncatalogued.

Dafis, Cynog, 1938-