Papurau Meredydd Evans a Phyllis Kinney
- GB 0210 MERLIS
- Fonds
- [1940x2015]
Mae’r archif yn cynnwys papurau ymchwil cerddorol, yn bennaf yn ymwneud â chanu gwerin; sgriptiau radio a theledu; cyfieithiadau a chyfansoddiadau cerddorol (trosglwyddwyd tapiau gweledol a sain i AGSSC); llythyrau at Meredydd Evans a Phyllis Kinney, a chopïau o lythyrau oddi wrthynt, 1956-2015; a phapurau’n ymwneud â diddordebau Meredydd Evans ym meysydd athroniaeth a llenyddiaeth Gymraeg, ynghyd â dogfennau’n ymwneud â’i ran mewn ymgyrchoedd tros yr iaith Gymraeg, yn arbennig felly ym maes darlledu.
Papurau, [1940x2015], Dr Meredydd Evans, yn eu plith rhai sy'n ymwneud â'i ddiddordebau ym maes athroniaeth a llenyddiaeth Gymraeg, ynghyd â'i gyfraniad tuag at ymgyrchoedd tros yr iaith Gymraeg, yn cynnwys Cylch yr Iaith, a sefydlu'r papur dyddiol Cymraeg cyntaf, Y Byd.
Papurau ychwanegol, [1940x2015], sef papurau cerddorol Phyllis Kinney, yn eu plith ffeiliau yn ymwneud â chaneuon gwerin, ynghyd ag ychwanegiad at bapurau Meredydd Evans.
Papurau ychwanegol, [1940x2015], sef papurau cerddorol Meredydd Evans, yn bennaf yn ymwneud â chanu gwerin.
Gohebiaeth, 1956-2015, sef llythyrau at Meredydd Evans a Phyllis Kinney, a chopïau o lythyrau oddi wrthynt.
Ychwanegiad i'r papurau cerddorol (yn cynnwys 3 tâp); llythyrau gan Robin Williams, Guto Roberts, Islwyn Ffowc Elis a D. Tecwyn Lloyd; co-bach yn cynnwys llythyrau oddi wrth Merêd a dogfennau eraill.
Dwy ffeil ychwanegol, un yn ymwneud â Chapel Siloam, Cwmystwyth, a'r llall â chyfraniadau i'r Ddolen; Ebrill 2018.
Deunydd ychwanegol yn ymwneud â chyrsiau a darllediadau, cyfweliad â Dilys Elwyn Edwards, ynghyd â rhai eitemau printiedig; Gorffennaf 2019.
Ffeil o bapurau yn ymwneud â Dr George Guest, Caergrawnt a Chwmystwyth; Ebrill 2023.
Papurau ychwanegol, 1940au-80au, yn ymwneud yn bennaf â gyrfa gerddorol Phyllis Kinney; sgriptiau radio 'Coleg Harlech', 'Cyn troi'n ol' a 'Byd newydd', 1950au; straeon Nadolig (printiedig) gan Tony Conran, 2005-2011 (gyda bylchau), y cyntaf ohonynt yn cynnwys llythyr oddi wrth Lesley a Tony Conran; a Pamffledi Harlech (wedi'u rhwymo), 1940; Medi 2025. Trosglwyddir 2 CD, 'Branwen in Wales' a 'Branwen in Ireland' gan Tony Conran, a 3 rîl fach o ffilm i'r Archif Sgrin a Sain.
Evans, Meredydd