Showing 8 results

Archival description
Papurau Huw Ethall
Print preview View:

Llythyrau at Huw Ethall

Llythyrau, 1955-2012, a anfonwyd at Huw Ethall gan nifer o ohebwyr, yn bennaf yn ymwneud â’i gyfrolau ar Tegla (1980), R.G. Berry (1985) a Pennar Davies (Darlith lenyddol Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Ogwr, 1998). Ymysg y prif ohebwyr mae Marion Eames, 2003; Islwyn Ffowc Elis (5) 1975-6, 1979, 1982; Glyn Tegai Hughes, 1975; Dafydd Iwan (2) 1969, 2012; Dydd Elwyn Jones (3) 1976, 1980, 1983; Rhiannon Davies Jones, 1985; D. Tecwyn Lloyd, 1983; Dyddgu Owen (3) 1975-6; Iorwerth C. Peate (3) 1975, 1979, 1980; Kate Roberts, 1970; Selyf Roberts, 1979; D.J. Williams (2) 1955; Emlyn Williams (4) 1983, 1985 a W. Crwys Williams, 1961.

Gweler Huw Ethall, ‘Llythyrau merch Tegla’, Taliesin, 84 (1994), 102-06, a’i gyfeiriad at bwysigrwydd ei gasgliad llythyrau yn Y Faner, 2 Hydref 1987, t. 13.

Papurau Hilda M. Ethall

Papurau amrywiol, 1959-1993, o waith Hilda M. Ethall, gwraig Huw Ethall, yn bennaf yn deipysgrifau o sgyrsiau radio (i raglen ‘Merched yn Bennaf’), ac annerchiadau. Ceir hefyd lythyrau ati oddi wrth Gwynfor Evans, 1984 a Marion Eames, 1984.

Hanes Y Tyst

Nodiadau o waith Huw Ethall, [1982-1997], ar hanes Y Tyst, newyddiadur yr Annibynwyr Cymraeg. Ceir hefyd yn y ffeil lythyr ato oddi wrth R. Tudur Jones, 1982 yn ei annog i ymgymryd â’r gwaith.

Ffotograffau Huw Ethall

Wyth o ffotograffau, 1950-1988, o weinidogion a swyddogion eglwysig, yn dwyn perthynas â meysydd gweinidogaethol Huw Ethall. Yn eu mysg ceir staff a myfyrwyr Coleg Presbyteraidd Caerfyrddin, 1949-1952; swyddogion Bethania, Rhosaman, Brynaman, 1950; plant ac aelodau Capel Bethania, Rhosaman, Brynaman, Gorffennaf 1955; aelodau Capel Siloam, Morfa Bychan, Porthmadog, 1956 (llun o’r Cymro); a Huw Ethall a Glyn James, Mehefin 1988.

Papurau Huw Ethall

  • GB 0210 HUWETH
  • Fonds
  • 1950-2012

Papurau’r Parchedig Huw Ethall (1917-2013), gweinidog Annibynnol ac awdur. Mae’r ffeiliau’n cynnwys cyfres bwysig o lythyrau at Huw Ethall, yn bennaf yn trafod ei waith cofiannol, a phapurau'n adlewyrchu ymchwil pellach ar lenyddiaeth Gymraeg. Ceir hefyd yn y casgliad ffeil o bapurau Hilda M. Ethall, gwraig Huw Ethall.

Y Parchedig Huw Ethall a'r teulu

Gwaith Huw Ethall

Casgliad o amrywiol bapurau, 1952-2009, o waith Huw Ethall, yn cynnwys datganiad ‘Crefydd Iesu Grist a Rhyfel’, wedi ei arwyddo gan nifer o unigolion ardal Cwm Tawe mewn Cynhadledd Heddwch, 9 Ebrill 1957; llyfr nodiadau ar George M.Ll. Davies a thair cyfrol fechan o bregethau; anerchiadau, taflenni gwasanaethau a thorion o fân gyhoeddiadau.

Y Cofiant Cymraeg

Nodiadau ar Y Cofiant Cymraeg, [1970x1980], o bosibl yn sail i gwrs tiwtorial i Adran Efrydiau Allanol Coleg y Brifysgol Abertawe, neu i gyhoeddiad arfaethedig.

Papurau’n ymwneud â Ryan Davies

Deunydd coffadwriaethol, 1977-[1997], yn ymwneud â’r digrifwr a’r canwr Ryan Davies: taflen ei angladd, 1977; llungopi o deyrnged iddo o’r Faner, o waith Huw Ethall; a theipysgrif 87 tt., [1997], ‘Ryan a fi yn yr R.A.F.’, o waith John P. Davies.