Showing 39 results

Archival description
Casgliad R. M. (Bobi) Owen
Print preview View:

Ail ffeil cyfenw Jones

Llythyrau a dogfennau awduron gyda’r cyfenw ‘Jones’, gan gynnwys Rhiannon Davies Jones (1921-2014), nofelydd, Syr Thomas Artemus Jones (1871-1943), newyddiadur a barnwr, a T. Llew Jones (1915-2009), awdur.

Jones, Rhiannon Davies.

Albwm

Albwm o lythyrau a gasglwyd gan Bobi Owen, a grëwyd yn wreiddiol gan Thomas Rowland Roberts ([1857]-1940) o Asaph, clerc cyfreithiwr yng Nghaernarfon, cyfieithydd llys, ac awdur llaw-fer swyddogol. Am ychydig amser, yn 1901, bu yn golygu'r Genedl Gymreig a phapurau eraill y swyddfa honno.
Cynhwysir awduron megis Sir Francis Edwards (1852-1927), William Ewart Gladstone (1809-1898), a Sir John Herbert Jones (1858-1933).

Roberts, T. R. (Thomas Rowland), 1857?-1940

Albwm a gasglwyd o T.R. Roberts

Albwm o lythyrau a gasglwyd gan Bobi Owen, a grëwyd yn wreiddiol gan Thomas Rowland Roberts ([1857]-1940) o Asaph, clerc cyfreithiwr yng Nghaernarfon, cyfieithydd llys, ac awdur llaw-fer swyddogol. Am ychydig amser, yn 1901, bu yn golygu'r Genedl Gymreig a phapurau eraill y swyddfa honno.
Cynnwysir awduron megis Sir Francis Edwards (1852-1927) a William Ewart Gladstone (1809-1898).

Roberts, T. R. (Thomas Rowland), 1857?-1940

Casgliad R. M. (Bobi) Owen

  • GB 0210 RMB
  • Fonds
  • 1580-2018

Papurau R.M. (Bobi) Owen, ysgolfeistr a hanesydd lleol Dinbych, 1580-2018.
Ceir nifer helaeth o lythyrau yn bennaf, unai wedi’u casglu gan Bobi Owen eu hunan neu wedi eu hanfon ato yn uniongyrchol fel gohebiaeth bersonol. Ceir eitemau eraill megis cardiau post, rhaglenni, a ffotograffau ymhlith y casgliad.
Ymhlith y papurau gellir dod o hyd i nifer o enwogion Gymru a thu hwnt, llawer ohonynt o bwysigrwydd hanesyddol e.e. David Lloyd George (1863-1945), Robert Dudley, Iarll Cyntaf Gaerlŷr (1532-1588), a/neu ddiwylliannol, e.e. Kyffin Williams (1918-2006), Augustus John (1878-1961), a Christmas Evans (1766-1838).

Owen, R. M.

Casglwyd gan Bobi Owen

Llythyrau a dogfennau wedi eu casglu gan Bobi Owen drwy gydol ei oes, yn cynnwys rhai nodiadau ganddo Bobi Owen ar ambell i eitem. Cynhwysir nifer o eitemau megis llythyrau, cerdyn bost, ffotograffau ac erthyglau wedi eu trefnu fesul cyfenw'r awdur, yn ogystal yn ôl pwnc neu thema, megis tlodi, plastai, a ficeriaid/rheithoriaid.

Cyfenw Roberts

Llythyrau a dogfennau awduron gyda’r chyfenw ‘Roberts’, gan gynnwys Samuel Roberts ‘S.R.’ (1800-1885) Kate Roberts (1891-1985), awdur, a Goronwy Roberts MP (1913-1981).

Roberts, Samuel, 1800-1885

Cyfenwau A

Llythyrau a dogfennau awduron gyda chyfenwau yn dechrau gydag ‘A’, gan gynnwys Elis Aethwy, bardd, Charles McLaren, 3ydd Barwn Aberconwy (1913-2003), a Henry William Paget, Arglwydd Cyntaf Sir Môn (1768-1854) (o dan ‘Anglesey’).

Anglesey, Henry William Paget, Marquis of,

Cyfenwau A-I

Llythyrau a dogfennau awduron gyda chyfenwau yn dechrau gydag ‘A’ hyd at ‘I’, gan gynnwys Lyn Ebenezer (1939-), awdur a ddarlledwr, Bethan Gwanas (1962-), awdur, a Hywel Gwynfryn (1942-), darlledwr.

Ebenezer, Lyn

Cyfenwau B

Llythyrau a dogfennau awduron gyda chyfenwau yn dechrau gyda ‘B’, gan gynnwys Francis Brabazon (1907-1984), bardd, Matthew Holbecke Bloxam (1805-1888), hynafiaethydd, a ffacsimili o lythyr gan Charlotte Brontë (1816-1865), awdur.

Brabazon, Francis

Cyfenwau C

Llythyrau a dogfennau awduron gyda chyfenwau yn dechrau gyda ‘C’, gan gynnwys Sir Stapleton Cotton (1773-1865) Is-iarll Cyntaf Combermere, Louisa Costello (1799-1870), awdur, a Geoff Charles (1909-2002), ffotograffydd.

Combermere, Stapleton Cotton, Viscount, 1773-1865

Cyfenwau D

Llythyrau a dogfennau awduron gyda chyfenwau yn dechrau gyda ‘D’, gan gynnwys Robert Davies ‘Bardd Nantglyn’ (1769-1835), ac Idris Davies (1905-1953), bardd.

Davies, Robert, 1769-1835

Cyfenwau E

Llythyrau a dogfennau awduron gyda chyfenwau yn dechrau gyda ‘E’, gan gynnwys Christmas Evans (1766-1838), gweinidog, Edward, Dug Windsor (1894-1972) (o dan 'Edward'), a’r actores Edith Evans (1888-1976).

Evans, Christmas, 1766-1838

Cyfenwau F

Llythyrau a dogfennau awduron gyda chyfenwau yn dechrau gyda ‘F’, gan gynnwys Sir William Fairbairn, peiriannydd (1789-1874), John Fisher, offeiriad (1862-1930), a Michael Foot, gwleidydd (1913-2010).

Fairbairn, William, Sir, 1789-1874

Cyfenwau G

Llythyrau a dogfennau awduron gyda chyfenwau yn dechrau gyda ‘G’, gan gynnwys David Lloyd George (1863-1945), Megan Lloyd George (1902-1966), a’r Eifftolegydd a daearyddwr Henri Gauthier (1877-1950).

Lloyd George, David, 1863-1945

Cyfenwau H

Llythyrau a dogfennau awduron gyda chyfenwau yn dechrau gyda ‘H’, gan gynnwys yr awdur J. Elwyn Hughes (1940-2023), Mathonwy Hughes, bardd (1901-1999), a’r artist Sir Hubert von Herkomer (1849-1914).

Hughes, J. Elwyn

Cyfenwau I a J

Llythyrau a dogfennau awduron gyda chyfenwau yn dechrau gyda ‘I’ neu ‘J’, gan gynnwys yr awdur Norah Isaac (1914-2003), y peiriannydd sifil William Jessop (1745-1814), a’r artist Augustus John (1878-1961).

Isaac, Norah

Cyfenwau J-Y

Llythyrau a dogfennau awduron gyda chyfenwau yn dechrau gyda ‘J’ hyd at ‘Y’, gan gynnwys Gweneth Lilly (1920-2004), Y Barwn Williams o Fostyn (1941-2003), a’r Athro John Idris Jones (1938 – 2020).

Lilly, Gweneth

Cyfenwau K a L

Llythyrau a dogfennau awduron gyda chyfenwau yn dechrau gyda ‘K’ neu ‘’L’, gan gynnwys William Angus Knight (1836-1916), Robert Dudley, Iarll Cyntaf Caerlŷr (1532-1588) (o dan 'Leicester'), a Howell Elvet Lewis ‘Elfed’ (1860-1953), bardd.

Knight, William Angus, 1836-1916

Cyfenwau M a N

Llythyrau a dogfennau awduron gyda chyfenwau yn dechrau gyda ‘M’ neu ‘N’, gan gynnwys Leila Megane (1891-1960) cantores opera, Jan Morris (1929-2020), awdur, a George Noakes (1924-2008), Archesgob Cymru.

Megane, Leila, 1891-1960

Cyfenwau O

Llythyrau a dogfennau awduron gyda chyfenwau yn dechrau gyda ‘O’, gan gynnwys Dafydd Owen (1919-2002), bardd, a Robert Owen ‘Bob Owen Croesor’ (1885-1962), hanesydd ac achyddwr.

Owen, Dafydd, Rev.

Results 1 to 20 of 39