Dangos 115 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau T. Ifor Rees a J. T. Rees
Rhagolwg argraffu Gweld:

Amrywiol

Amlen wreiddiol wedi'i nodi â "Bolivia and Mexico Talks and Articles" yn cynnwys copïau yn dwyn y teitlau canlynol: 'A few memories'; 'Geni llosgfynydd'; 'La Paz' (sgript ar gyfer y BBC); 'Omar Khayyam ym Mexico'; 'Aviacion y el beni'; 'Mieri lle bu mawredd: hen wareiddiad y Maya a'r Inca'; 'Mawredd a chwymp: hanes rhyfedd y Maya'; 'Latin America'; 'Omar Khayyam and Mexican Oil'; 'Glimpses of the Maya and Inca cultures'; 'Bolivia'; 'Peru'; a 'The City of Our Lady of La Paz'; ynghyd â llythyr at olygydd y Sunday Times ar 'Britons', ac adolygiadau amrywiol.

Bathu geiriau a thermau

Papurau a nodiadau yn ymwneud â bathu geiriau a thermau, ynghyd â nodiadau am waith cyfieithu. Ceir rhestrau geiriau a thermau Urdd y Graddedigion / adrannau Prifysgol Cymru ar gyfer amaethyddiaeth; ffiseg, mathemateg a seryddiaeth; a choginio ymhlith y papurau.

Beibl teuluol

Beibl teuluol J. T. ac Elizabeth Rees, Bronceiro, yn cynnwys cofnodion achyddol. Y cofnod olaf a nodwyd yw marwolaeth Ceredig Phillips Rhys yn 2015.

Breintlythyrau a dogfennau swyddogol

Mae'r bocs yn cynnwys casgliad o Freintlythyrau [Letters patent], tystysgrifau a llythyrau cymeradwyaeth T. Ifor Rees sy'n cwmpasu ei yrfa ddiplomyddol, sy'n cynnwys ei benodiad cyntaf fel Is-gonswl Feneswela yn 1914 hyd at ei benodiad yn Llysgennad yn La Paz yn 1947.

Bronceiro

Gweithredoedd eiddo a phapurau ystâd Bronceiro, Bow Street, Ceredigion. Gellir olrhain cysylltiadau'r teulu Rees gyda Bronceiro pan briododd J. T. Rees gydag Elizabeth Davies, merch Bronceiro. Daeth y cysylltiadau teuluol i ben pan werthwyd y cartref yn 2017.

Capel y Garn

Papurau a chofnodion Capel Y Garn (MC), Bow Street, Ceredigion, yn cynnwys cyfrifon casgliad at gronfa adnewyddu Capel Y Garn, 1900; papurau parthed Sasiwn Haf a gynhaliwyd yn Y Garn, 1905, yn cynnwys cofnodion y pwyllgor lleol; rhaglenni cymanfaoedd canu Undeb Cerddorol Dosbarth Y Garn, 1910-1926 (gyda bylchau) a chymanfa'r canmlwyddiant, 1972; rhaglenni cyfarfodydd y Nadolig, 1940au-1960au; cyfrifon yr Ysgol Sul, 1963-1969; llyfr nodiadau ar gymanfaoedd canu'r plant, yn llaw J. T. Rees; a chopïau o 'Trem yn Ôl' o waith T. Ifor Rees. Bu J. T. Rees a T. Ifor Rees yn aelodau a swyddogion yng Nghapel Y Garn, gyda J. T. Rees yn flaenor, arweinydd y gân, trysorydd, trefnwr cyhoeddiadau ac yn ymddiriedolwr; a T. Ifor Rees yn drysorydd, ac athro a thrysorydd Ysgol Sul Y Garn.

Cardiau cyfarch

Cardiau cyfarch at T. Ifor Rees oddi wrth deulu, cyfeillion a chydweithwyr ar achlysur ei ben-blwydd, Nadolig, ac ar achlysuron eraill, nifer ohonynt o dramor.

'Derborence'

Drafftiau teipysgrif gyda diwygiadau mewn llawysgrif o drosiad Gwenda Thompson a T. Ifor Rees o'r Ffrangeg o'r nofel 'Derborence' o waith C. F. Ramuz, ynghyd â llythyrau yn ymwneud â chyhoeddi'r gwaith.

Canlyniadau 1 i 20 o 115