- Papurau Dr Marshall Lloyd.
- Ffeil
- [c.1965].
Papurau a grynhowyd gan y diweddar Ddr J H Marshall Lloyd, Tywyn, ynglyn â'i ymweliad â Phatagonia ar achlysur dathlu canmlwyddiant y Wladfa, 1965. Mae'r papurau'n cynnwys nodiadau ar yr ymweliad; lluniau; rhaglenni a thaflenni; a chylchgronau Cymraeg a Sbaeneg. Trosglwyddwyd copiau o bapurau newydd Cymraeg a Sbaeneg, 1964-1966, i'r Is-Adran Cylchgronau.