- 7.
- Ffeil
- dd.
Caneuon ysgafn a darnau adrodd digrif mewn teipysgrif ar gyfer darllediadau a chyngherddau, gan gynnwys 'Plismyn Penffwrn' gan D Gwenallt Jones, 'Y Cneifio' gan David Jones, Ffair Rhos, a nifer o gyfansoddiadau gan Idwal Jones.
Caneuon ysgafn a darnau adrodd digrif mewn teipysgrif ar gyfer darllediadau a chyngherddau, gan gynnwys 'Plismyn Penffwrn' gan D Gwenallt Jones, 'Y Cneifio' gan David Jones, Ffair Rhos, a nifer o gyfansoddiadau gan Idwal Jones.
Copïau o Cerddi Digri a Rhai Pethau Eraill a Cerddi Digri Newydd a Phethau o'r Fath gan Idwal Jones, yr olaf wedi'i gyflwyno i Dai Williams er cof am Idwal Jones.
Cyfrol yn llaw Idwal Jones yn cynnwys drafftiau o gerddi ysgafn a sgetsys o'i waith. Defnyddiwyd y gyfrol yn wreiddiol fel llyfr llythyrau gan dad Idwal Jones a cheir copïau carbon o lythyrau oddi wrtho, 1903-19, ar ddechrau'r gyfrol.
Ffotograff o'r Tregaron 'Specials' yn ystod yr Ail Ryfel Byd (3 copi),
Gohebiaeth, 1935-49, yn ymwneud â pherfformiadau 'Adar Tregaron' a'r darllediadau radio. Ymhlith y gohebwyr y mae Idwal Jones (1/1), Nan Davies (1/9), Aneirin Talfan Davies (1/11) a B Anthony, BBC Abertawe (1/12-13: yn amgau cyfraniadau yn llaw D Jacob Davies ar gyfer y rhaglenni radio).
Papurau amrywiol, gan gynnwys dyddiadur, 1949 (ychydig gofnodion yn unig), a cherddi ar gyfer cystadlaethau y bu Dai Williams yn eu beirniadu mewn eisteddfodau.
Papurau Dai Williams (Tregaron),
Papurau Dai Williams, 1934-1959, yn cynnwys gohebiaeth, cyfansoddiadau, sgriptiau radio a deunydd arall yn ymwneud yn arbennig ag Adar Tregaron, yn cynnwys gweithiau cerddorol a digrif gan Idwal Jones, sefydlydd Adar Tregaron, ynghyd â phapurau eraill yn ymwneud ag Idwal Jones, a chopïau o lythyrau ei dad, 1903-1919. = Papers of Dai Williams, 1934-1959, comprising correspondence, compositions, radio scripts and other material relating especially to Adar Tregaron, including musical and humourous works by Idwal Jones the founder of Adar Tregaron, together with other papers relating to Idwal Jones,and copy letters of his father, 1903-1919.
Williams, Dai, 1899-1971
Pum bwndel o sgriptiau rhaglenni radio, 1934-59 a dim dyddiad, nifer ohonynt gan Idwal Jones neu Dai Williams, gan gynnwys sgriptiau rhaglenni radio 'Adar Tregaron'.
Pum llyfr nodiadau yn cynnwys drama fer Idwal Jones, 'Ffarwel Tibit y Popty' (2/1); dramodigau 'Y Llwybrau Gynt', 'Pan Ganodd y Clychau' ac un arall anghyflawn yn llaw Dai Williams (2/2-4); a nodiadau darlithiau Hen Saesneg (2/5).
Tri bwndel o ddramodigau, sgetsys a chomedïau, gan gynnwys 'Hwyl Fawr yn yr Hendre' gan Idwal Jones, detholiadau o'r 'Potsier', 'Deufor Gyfarfod' ac 'Adar o'r Unlliw' gan J O Francis, 'Pelenni Pitar' gan D T Davies a 'Y Tri Dyn Doeth' gan Kitchener Davies.