Showing 17 results

Archival description
Papurau Ellis Owen, Cefnymeysydd,
Print preview View:

Papurau Ellis Owen, Cefnymeysydd,

  • GB 0210 ELLOW
  • fonds
  • 1768-1988 /

Mae'r casgliad yn cynnwys gwahanol ddyddiaduron a gadwyd gan aelodau'r teulu Owen, 1770-1835; amrywiol gyfrolau a phapurau rhydd, 1811-1921, yn cynnwys nodiadau, cerddi, cyfrifol etc; a grŵp o bapurau G. Ivorian Jones. = The collection comprises various diaries kept by members of the Owen family, 1770-1835; various volumes and some loose papers, 1811-1921, bearing notes, poems, accounts etc.; and a group of the papers of G. Ivorian Jones.

Owen, Ellis, 1789-1868.

Dyddiadur,

Dyddiadur 1768 a newidiwyd i 1770 ("Richard Thomas his book" ar y wynebddalen); mae'n bosib mai ef neu ei frawd John Thomas a'i llenwodd. Ceir hefyd nodiadau yn llaw Owen Ellis, ?tad Ellis Owen.

Dyddiadur,

Llyfr nodiadau ar ffurf dyddiadur, 1769, yn dwyn enw Owen Ellis a Richard Thomas (brawd i fam Ellis Owen), y perchennog gwreiddiol.

Adysgrifau o gerddi,

Cyfrol yn cynnwys dyfyniadau Saesneg ac adysgrifau o gerddi Cymreig yn llaw Ellis Owen, 1820au, gan gynnwys beddargraff i 'Dafydd Ddu Eryri' a rhestr o deitlau cerddi a gyfansoddodd cyn 1834.

Papurau amrywiol G. Ivorian Jones,

Gan gynnwys adysgrif o lythyr Ellis Owen, 1813, at ei fam Ann Thomas, o'i ysgol, Mountford Bridge School, Amwythig, ac o lythyr, heb ddyddiad, oddi wrth Robert Roberts at ei fam-yng-nghyfraith Anne Thomas; adysgrif o'i hewyllys, 1814; adysgrifau o ddyddiaduron Ellis Owen, 1835 (gweler rhif 4 am y gwreiddiol), 1841 (a fenthycwyd oddi wrth ddisgynnydd i un o chwiorydd Ellis Owen), a 1853; llungopi o ewyllys Ellis Owen, 1867; torion o'r papur bro Papur Menai o'i ysgrifau 'Gwyliau ym Môn ym 1825', Mawrth 1988, a 'Y Parchedig John Thomas MA', Hydref 1988; ynghyd ag ysgrifau 'The Farming Connexion', 'Hen ddyddiaduron ac ati' ac anerchiad 'Blwyddyn ym mywyd gr Cefnymeysydd' gan G. Ivorian Jones.

Papurau amrywiol Ellis Owen,

Gan gynnwys llythyr, 1814, at gyhoeddwr Seren Gomer; adroddiad yn Saesneg am angladd 'Dewi Wyn o Eifion' [1841] a anfonwyd ato; cerdd ganddo ar ei ben-blwydd yn 1865; pennill yn Llandrindod, 1866; beddargraffiadau i gymeriadau lleol, 1867 a heb ddyddiad; beddargraff ar ffurf hir-a-thoddaid 'I'r diweddar Ellis Owen YS Cefnymmeusydd' gan 'Ioan Madog' (buddugol yn Eisteddfod Madog 1872, gweler Cell Meudwy, t. 34, am y beddargraff hwn); ac erthygl 'Ysgol Cefnymeysydd' gan y Parchedig Henry Hughes, Bryncir, a ymddangosodd yn Trysorfa y Plant, Mehefin 1921.