Dangos 34 canlyniad

Disgrifiad archifol
Sgriptiau Eurwyn Williams
Rhagolwg argraffu Gweld:

Sgriptiau Eurwyn Williams

  • GB 0210 EURWYNWILLIAMS
  • Fonds
  • [1939]-[2010]

Sgriptiau cynyrchiadau, 1982-1998, y bu Eurwyn Williams yn gweithio arnynt fel aelod o griw ffilmio'r Bwrdd Ffilmiau Cymraeg, Ffilmiau Eryri, Ffilmiau Tŷ Gwyn, HTV, Teledu Chatsworth, Llundain, a Wyvern Television West, gan gynnwys rhaglenni fel 'Barbarossa', 'Coleg', 'Gwely a brecwast', 'Minafon', 'Tywyll Heno' ac 'Ysglyfaeth'. = Scripts of productions, 1982-1998, for which Eurwyn Williams worked with the Welsh Film Board, Ffilmiau Eryri, Ffilmiau Tŷ Gwyn, HTV, Chatsworth Television, London, and Wyvern Television West as a film crew member on programmes which include 'Barbarossa', 'Coleg', 'Gwely a brecwast', 'Minafon', 'Tywyll Heno' and 'Ysglyfaeth'.

Sgriptiau ychwanegol, ynghyd â deunydd perthnasol, ar gyfer rhaglenni teledu y bu Eurwyn Williams a Gillian Ellen yn gweithio arnynt (darparwyd rhestr gan y rhoddwr); Medi 2022. Mae'r deunydd hyn yn cynnwys sgriptiau ar gyfer 'The Peak' (deunydd dyddiedig 1973), 'Two Women'/'The Eye of the Wind' (deunydd dyddiedig 1973), 'Owain Glyndŵr - Tywysog Cymru'/'Owain Glyndŵr - Prince of Wales' (1983), 'Derfydd Aur' / 'Realms of Gold' (1989), 'O. M.' (1990), 'Stewart Jones' (?1996), a 'Pengelli' (2001-2004); ynghyd â llungopi o deipysgrif o 'El Bandito: The Autobiography of Orig Williams' (Gwasg y Lolfa, 2010) a deunydd, yn ymwneud â'r actor Cymreig Hugh Griffith, sy'n cynnwys sgriptiau, gohebiaeth a llungopïau o ffotograffau.

Williams, Eurwyn, 1958-

'Two Women'/'The Eye of the Wind'

Sgriptiau 'Two Women'/'The Eye of the Wind' (ceir y ddau deitl ar frig un sgript), drama deledu a addaswyd gan J. Mansel Thomas o stori fer Gymraeg gan Dafydd Huw Williams, ynghyd ag amserlenni (call sheets). Dyddir yr amserlenni a'r sgriptiau 8 & 9 Mai 1973.
Methwyd canfod unrhyw wybodaeth pellach (e.e. o ffynhonellau arlein) am y ddrama hon.

'Stewart Jones'

Sgript, amserlen (call sheet) a phrintiad ffotograffig yn ymwneud â drama ddogfen ar gyfer cwmni Ffilmiau Eryri yn dwyn y teitl cynnar cychwynnol 'O'r Alban i'r Congo', a ddarlledwyd yn ddiweddarach fel 'Stewart Jones' [?1996], sy'n olrhain hanes bywyd yr actor Albanaidd/Gymreig Stewart Jones.

Canlyniadau 1 i 20 o 34